Cartrefi Cymru (Welsh Homes)
by
Owen M. Edwards

Part 1 out of 2



this text differ from those in modern usage. Later editions of
Cartrefi Cymru did modify some of the spellings. However, the
transcription comes from the first edition and the text has been
reproduced as it appears in that edition.]





CARTREFI CYMRU

GAN OWEN M. EDWARDS.




CYNHWYSIAD.



I.--DOLWAR FECHAN,--CARTREF EMYNYDDES.

Ymysg bryniau Maldwyn y mae Dolwar Fechan, yn un o'r hafannau
bychain gwyrddion sydd rhwng Llanfihangel yng Ngwynfa a dyffryn y
Fyrnwy. Gorsaf Llanfyllin yw'r agosaf.

Ganwyd Ann Griffiths Ebrill 1776, bu farw yn Awst 1805.

II.--TY COCH,--CARTREF PREGETHWR.

Saif yng nghysgod y graig aruthrol goronir gan adfeilion castell
Carn Dochan ym Mhenanlliw ramantus, yng nghanol Meirion.

Ganwyd Robert Thomas (Ap Vychan) yma, mewn tlodi mawr; a chyn marw,
Ebrill 23, 1880, yr oedd wedi dod yn bregethwr enwog ac yn athraw
duwinyddol.

III.--GERDDI BLUOG,--CARTREF BARDD.

Yng nghanol mynyddoedd Meirionnydd, uwchben dyffryn cul a rhamantus,
y mae'r Gerddi Bluog. O Harlech neu Lanbedr yr eir yno.

Dyma gartref Edmund Prys, swynwr yn ol cred gwlad, archddiacon
Meirionnydd wrth ei swydd, a chyfieithydd melodaidd y Salmau.
Ganwyd ef tua 1541, bu farw tua 1621. Nid edwyn neb le ei fedd ym
Maentwrog.

IV.--PANT Y CELYN,--CARTREF PER GANIEDYDD.

Amaethdy ymysg bryniau Caerfyrddin, yn nyffryn Towi, yw Pant y
Celyn. O Lanymddyfri yr eir yno.

Ganwyd "per ganiedydd Cymru," gerllaw iddo yn 1717; bu farw yno
Ionawr 11, 1791.

V.--BRYN TYNORIAD,--CARTREF GWLADGARWR.

Y mae Bryn Tynoriad yn nyffryn yr Wnion, ar ochr y Garneddwen, yn
agos i orsaf Drws Nant. Y mae'r Ty Croes ar gyfer yr orsaf agosaf
yng nhyfeiriad Dolgellau, sef y Bont Newydd.

Ganwyd Ieuan Gwynedd: Medi 5, 1820, bu farw Chwefrol 23, 1852.

VI.--TREFECA,--CARTREF DIWYGIWR.

Yn rhan brydferthaf Sir Frycheiniog, uwchlaw Talgarth, rhwng
ffrydiau Wysg ac Wy, y saif coleg a phentref bychan Trefeca,--lle
wnawd gan Howel Harris yn "gartref" cymundeb o dduwiolion diwyd.

Ganwyd Howel Harris Ionawr 29, 1714; bu farw Gorffennaf 21, 1773.

VII.--CAER GAI.--CARTREF UCHELWYR.

Hen balas Rhufeinig yw Caer Gai, ar fryncyn heulog uwch ben Llyn
Tegid, yn nyffryn uchaf y Ddyfrdwy.

Yr oedd y Fychaniaid, hen deulu Caer Gai, yn enwog am eu hathrylith.
Y ddau fwyaf adnabyddus ohonynt ydyw Gwerfyl Fychan a Rowland
Fychan. Yn amser y Rhyfel Mawr yr oedd Rowland Fychan yn byw, a
Gwerfyl dipyn yn gynt.

VIII. --CEFN BRITH,--CARTREF MERTHYR.

Ffermdy ar lethr mynydd Epynt, wedi gweld dyddiau gwell, yw Cefn
Brith. O Langamarch yr eir yno hawddaf.

Ganwyd John Penri yn y lle tawel hwn yn 1559; rhoddwyd ef i
farwolaeth fel bradwr, Mai 29, 1593.

IX. --GLAS YNYS,--CARTREF BARDD CWSG.

Y mae Glas Ynys ar fryn bychan yn codi o'r tipyn gwastadedd sy'n
gorwedd rhwng mynyddoedd Meirionnydd a'r mor. O Harlech yr eir yno
gyntaf.

Mab Glas Ynys oedd Elis Wyn, awdwr Gweledigaethau Bardd Cwsg.
Treuliodd ei fywyd yma, o'i eni yn 1671, hyd ei gladdu yn 1734, yn
Llanfair gerllaw. Y mae ysgriflyfrau o'i waith yn perthyn i eglwys
Llanfair.

X. --TY'R FICER,--CARTREF BARDD MOES.

Y mae Ty'r Ficer yn hen dref Llanymddyfri. Y mae'n awr yn
adfeiliedig iawn.

Ynddo y goleuwyd Canwyll y Cymry gan Rhys Prichard, "yr Hen Ficer,"
a anwyd yn 1579, ac a fu farw yn 1644.

XI. --Y GARREG WEN,--CARTREF CANWR.

Yn Sir Gaernarfon, rhwng Cricieth a Phorth Madog, y mae amaethdy'r
Garreg Wen, ar lethr hyfryd, lle tyf blodau lawer mewn cysgod rhag
gwynt y mor.

Dafydd, mab y Garreg Wen, meddir, yw awdwr yr alawon Codiad yr
Ehedydd a Dafydd y Garreg Wen.

XII. --TY DDEWI,--CARTREF SANT.

Saif Tyddewi ar lan mor gorllewinol Dyfed, yn eithaf sir Benfro. Ar
draed neu mewn cerbyd yr eir yno, dros un bryn ar bymtheg o orsaf
Hwlffordd.

Cartref Dewi, nawdd sant Cymru, ydyw. Yn ol pob tebyg, cenhadwr
dros Grist at baganiaid rhannau gorllewinol Cymru oedd Dewi Sant.
Yr oedd yn byw rywbryd rhwng 450 a 600.



DOLWAR FECHAN.



Yr wyf yn eistedd mewn ystafell hirgul, gyda nenfwd isel, a
ffenestri yn edrych allan i dri chyfeiriad, yn unig westy
Llanfihangel yng Ngwynfa. Dyma brif ystafell y pentre,--yn hon yr
ymgyferfydd pob pwyllgor gwledig, yn hon y bydd cinio rhent Syr
Watcyn, yn hon yr ymgyferfydd y clwb, yn hon y traethwyd doethineb
cenhedlaethau o ffermwyr ar adeg priodas a chynhebrwng. Ond heddyw
y mae'n ddigon gwag, nid oes ynddi ond y ddwy res hir o gadeiriau, y
ddau hen fwrdd derw, a minne deithiwr blin yn ceisio dadluddedu ac
ymlonni trwy yfed trwyth rhinweddol dail yr Ind. Trwy'r drws agored
gwelaf goesau meinion yr hen glochydd sy'n hepian wrth bentan y
gegin, a thrwy'r tair ffenestr gwelaf y gwlaw yn ymdywallt i lawr
trwy'r coedydd tewfrig deiliog, trwy'r onnen a'r fasarnen, ac hyd
gadwyni aur banadlen Ffrainc. Y mae cerbyd gwlad yn fy nisgwyl, ond
ni wiw cychwyn trwy wlaw taranau mor drwm,--er byfryted ydyw ar ol
poethder llethol un o ddyddiau olaf Mehefin. A thra bo'r gwlaw
taranau'n peidio, a'r coed yn gorffen dyferu, mi ysgrifennaf hanes
digyffro taith y dydd.

Yn weddol fore cychwynnais o Lanfyllin i weled gwlad Ann Griffiths,-
-ei bedd, a'i chartref, os medrwn. Nid oedd y ffordd yn rhwydd i'w
cherdded ar ol y gwlaw, a phan ofynnais i hen fforddolyn tal ai
honno oedd ffordd Llanwddyn, atebodd yn awgrymiadol mai dyna ei
dechre hi. Ond yr oedd perarogl y gwrychoedd a'r caeau, a'r lliwiau
tyner, yn gwneyd iawn am drymder y ffordd. Wedi cerdded tua thair
milldir dywedodd bachgennyn arafaidd wrthyf fy mod yn Llawr y Cwm,
lle gwelwn gapel Methodist bychan yn ymnythu rhwng torlan ac afonig.
Cyn i mi fyned nepell ymlaen, cyfarwyddodd torrwr cerrig fi i ffordd
gul oedd yn gadael y ffordd fawr, ac yn dirwyn i fyny hyd ochr y
bryn. Toc cyrhaeddais ben y tir, a gwelwn droliau gwaith dwr
Llanwddyn yn ymlusgo i fyny'r dyffryn hyd ffordd y gwaelod. Wedi
gadael cysgod coed, dois i gaeau agored, ar ben y gefnen, a gwelwn
hen wr rhyngof a'r goleu, yn sefyll, ac fel pe'n disgwyl. Yr oedd
yn disgwyl ei fab adre o Loegr, ond buan y trechwyd ei siomedigaeth
gan gywreinrwydd. Nid rhyw lawer o son sydd am Ann Griffiths ar
orarau Maldwyn yn awr, ebe'r hen ffarmwr, ac nid rhyw lawer o ganu
sydd ar ei hemynnau, dim hanner cymaint a chynt. Wrth i ni ymgomio
yr oedd llwyni o goed ar fryncyn o'n blaenau, a gwelwn oddiwrth eu
duwch fod ywen ymysg y coed. "Dacw Lanfihangel," ebe'r hen wr, "a
dacw fur y fynwent lle mae'r hen Ann wedi ei chladdu." Cerddais o
amgylch y fynwent i ganol y pentref. Y mae ar fryn gweddol serth,
a'r eglwys a'r fynwent yn uchaf man. O ddrws y fynwent rhed y
ffordd i lawr rhwng ychydig o dai, siop pob peth, ty tafarn, ysgol
waddolwyd gan un o Fychaniaid Llwydiarth, a choed ddigon. Eis i
mewn i'r fynwent, sychodd pladurwr oedd yn torri gwair y beddau ei
chwys, a dywedodd,--"Ie, dacw gof-golofn yr hen Ann. Peth digon
rhyfedd fod y bobl yn ei galw'n hen Ann, a hithe wedi marw'n saith
ar hugain oed." Cyn i mi gael hamdden i sylwi ar y fynwent, gwelwn
lu o blant yr ysgol, plant iach a llawn bywyd, yn prysuro i edrych
ar y dyn dieithr. Byddaf yn hoff iawn o blant gwlad,--nid ydynt yn
hyfion ac yn dafotrwg fel plant tref,--a bum yn holi plant
Llanfihangel yng Ngwynfa am hoff ddaearyddiaeth Cymru. Yr oeddynt
yn ddeallus, a gwelwn yn eglur fod eu hathraw yn medru Cymraeg ac yn
meithrin eu meddyliau. Pan oedd arnaf eisieu cael y fynwent
drachefn heb neb ynddi ond myfi a'r meirw, gofynnais faint oedd pris
plant yn y pentref,--plant tewion graenus fel hwy,--a chyda fod y
cwestiwn dros fy ngwefusau, yr oedd eu cefnau oll tuag ataf, a llu o
draed bychain yn cyflymu i lawr y llwybr hir sydd rhwng porth yr
eglwys a drws y fynwent. A gadawyd fi'n unig ymysg y beddau.

Safle caer yw safle mynwent Llanfihangel yng Ngwynfa,--saif ar
fryncyn, nid yr uchaf yn y gymydogaeth, ond un o'r rhai uchaf. O'r
porth sy'n wynebu ar y pentref rhed llwybr hir rhwng mangoed at
ddrws yr eglwys,--adeilad newydd. Wedi cyrraedd hanner y llwybr, os
edrych y teithiwr ar ei aswy, gwel gofgolofn o wenithfaen,--nid un
fwy na cholofnau ar filoedd o feddau dinod ym mynwentydd Cymru, ac
arni'r geiriau, -

ER COF
AM
ANN GRIFFITHS,
DOLWAR FECHAN,
GANWYD 1776.
BU FARW 1806.

Nid oes Gymro fedr sefyll ger bedd Ann Griffiths heb deimlo ei fod
ar ddaear sancteiddiaf ei fynyddoedd. Ac mor dawel ydyw'r fynwent!
Ni chlywir swn ond su'r bladur wrth nofio trwy'r glaswellt draw,--y
mae pob aderyn yn ddistaw ar y bore hafaidd heulog, ni chlywir swn y
plant sydd yn yr ysgol lwyd gerllaw, prin y medrir clustfeinio digon
i glywed dwndwr yr aber sydd yn isel odditanodd yn y dyffryn.
Gorwedd y wlad fel breuddwyd angel oddiamgylch,--yn dawel, dan ei
blodau, ac yng ngoleuni disglaer haul. Rhwng y coed sydd gydag ymyl
y fynwent, gwelwn ddyffrynnoedd a choedydd, a'r mynyddoedd sy'n
gwahanu Maldwyn a Meirionnydd. Ac arnynt i gyd gorweddai tangnefedd
canol haf. Ac i rai sy'n huno ym mynwent ael y bryn y mae
tangnefedd mwy. Wedi ieuenctid nwyfus, wedi pryder priodi a dechreu
byw a geni, wedi tymhestloedd ac ofnau, wedi cyfarfod Angau ymhell
cyn i hwyrnos bywyd guddio hagrwydd ei wedd, wedi hyn oll, -


O ddedwydd ddydd, tragwyddol orffwys
Oddi wrth fy llafur, yn fy rhan,
Yng nghanol mor o ryfeddodau,
Heb waelod, terfyn byth, na glan:
Mynediad helaeth mwy i bara
O fewn trigfannau Tri yn Un.
Dwfr i nofio heb fynd trwyddo,
Dyn yn Dduw, a Duw yn ddyn.

Byw heb wres, na haul yn taro,
Byw heb ofni marw mwy;
Pob rhyw alar wedi darfod,
Dim ond canu am farwol glwy';
Nofio yn afon bur y bywyd,
Bythol heddwch sanctaidd Dri,
Dan dywyniadau digymylau
Gwerthfawr angau Calfari.


Yn yr unig lythyr o'i heiddo sydd ar gael, llythyr ysgrifennodd wedi
priodi, a phan oedd ei bywyd byr ymron ar ben, dywed, -


"ANWYL CHWAER,--'Rwif yn gweled mwy o angen nac erioed am gael
treilio y rhan su yn ol dan rhoi fy hyn yn feunyddiol ac yn barhaus,
gorph ac enaid, i ofal yr hwn su yn abal i gadw yr hyn roddir ato
erbyn y dydd hwnnw. Nid rhoi fy hun unwaith, ond byw dan roi fy
hun, hyd nes ac wrth roi yr tabarnacle hwn heibio. Anwyl chwaer,
mae meddwl am i roi o heibio yn felus neillduol weithiau,--nid marw
ynddo ei hun, ond yr elw mawr sudd yw gael trwyddo."


Syrthiodd cysgodion tragwyddoldeb ar ei henaid pan nad oedd eto ond
ieuanc iawn; daeth y mynyddoedd tywyll i'r golwg pan oedd yn teithio
rhan rosynaidd heulog ei llwybr, a'i hysbryd yn ysgafn a'i ffurfafen
heb gwmwl; y mae nwyf a melusder ieuenctid yn ei chan, a mawredd
tragwyddoldeb hefyd. Am bob un o'i hemynnau gellir dweyd y geiriau
sydd ar ddiwedd ei llythyr, -


"Hyn oddiwrth eich chwaer yn cyflum deithio trwy fyd o amser i'r byd
mawr a bery byth."


Ac wedi ofni grym pechod, wedi "cario corff o lygredd," wedi
"wynebu'r afon donnog," aeth heibio i'r byd mawr a bery byth.

O'r fynwent trois tua chartref Ann Griffiths. I'm cwestiwn parthed
hyd y ffordd cawn amrywiol atebion,--pedair milldir a hanner ebai
un, tair milldir ebai un arall, a sicrhai y trydydd fi mai dwy
filldir a hanner union oedd i Ddolwar Fach. Cerddais i lawr y bryn,
croesais afonig red dan goed cysgodfawr, a dringais ochr bryn sydd
ar gyfer y pentref. Cefais fy hun ar ffordd fryniog, weithiau'n
dringo bryn ac yn disgyn yn ebrwydd wedyn, gan syllu ar addfedrwydd
cyfoethog y wlad, a'r haul yn gwenu drwy gymylau ar y gwlith, -


"Gwlad dda, heb wae, gwlad wedi ei rhol dan sel,
Llifeirio mae ei ffrwyth o laeth a mel;
Grawn sypiau gwiw i'r anial dir sy'n dod,
Gwlad nefol yw, uwch law mynegi ei chlod."


Toc dois at groesffordd ar waelod cwm; trois ar y dde hyd ffordd a'm
denai i'w chysgodion. Ar y naill law yr oedd craig, weithiau'n
noeth, weithiau'n dwyn baich o goed a blodau; ar yr ochr arall yr
oedd caeau gwyrddion serth. Rhedai afonig yn dryloew, dan furmur yn
ddedwydd. Uwch ei phen ymblygai bedw a chyll; estynnai y goesgoch
ei phen dros y lan, i weld ei llun mewn llyn tawel; aml lecyn gwyrdd
welais ar fin y dwr, llawn o lysiau'r neidr a llafrwyn a'r
olcheuraid, gyda chwys Mair a'r feidiog las dipyn ymhellach oddi
wrth y dwr, a rhedyn tal yn edrych ar eu prydferthwch oddiar ochr y
bryn. Canai miloedd o adar,--ni wiw i mi ddechre enwi'r cor,--
oddigerth pan ddistawent tra canai'r gog, yr hon oedd heb weld gwair
wedi ei dorri yn unlle. Sylwn yn fanwl ar bopeth, oherwydd gwyddwn
fod Ann Griffiths wedi cerdded y llwybr hwn filoedd o weithiau;
gwyddwn mai wrth syllu ar ryw afonig neu fynydd y byddai'n dechreu
canu, ac yna ehedai ei meddwl ymhellach bellach oddiwrthynt at
bethau byd a bery byth. Pwy a wyr nad yn swn yr afon hon y canwyd
gyntaf, -


"Ffrydiau tawel, byw rhedegog,
O dan riniog ty fy Nuw,
Sydd yn llanw, ac yn llifo
O fendithion o bob rhyw;
Dyfroedd gloew fel y grisial,
I olchi'r euog, nerthu'r gwan,
Ac a ganna'r Ethiop duaf
Fel yr eira yn y man."


Ac ym miwsig yr afon, gyda'i nodau llon a lleddf, dychmygwn glywed
geneth yn canu o lawenydd ei chalon, -

"Byw i weld yr Anweledig,
Fu farw ac sydd eto'n fyw;
Bythol, anwahanol undeb,
A chymdeithas a fy Nuw."

Yn nes ymlaen y mae'r afon, fel merch ieuanc yn wynebu treialon byd,
yn disgyn i lawr glynnoedd dyfnach,--weithiau yn y dyrysleoedd, fel
pe mewn anobaith; weithiau'n llithro'n wyllt dros greigiau, fel
pechadur afradlon ar ei yrfa; weithiau'n gorffwys mewn llyn tawel,
dan wenu ar yr haul neu lechu'n wgus dan goed. Ychydig y mae Ann
Griffiths wedi ganu am droion yr yrfa,--Williams Pant y Celyn a'u
darlunia hwy o'u canol, a David Charles Caerfyrddin o fryniau
Caersalem,--yr oedd ei hiraeth cryf am Dduw yn gwneyd iddi hi
anghofio blinder ac ofnau'r daith. Ni sonia hi am demtasiynau, ond
er mwyn cael canu am goncwest; ni chan am flinder, ond er mwyn cael
canu am yr Hwn a'i cysurai, -


"Digon mewn llifeiriant dyfroedd,
Digon yn y fflamau tan."


Toc gadawodd yr afonig a minne gwmni ein gilydd; aeth hi trwy gwm
dwfn tua'r Fyrnwy, dechreuais inne ddringo bryn lled serth, a gwelwn
Ddolwar Fawr ar y llaw dde i mi, dipyn o'r ffordd. Yr oedd y
cymylau erbyn hyn wedi clirio, yr oedd yr hin yn boeth orlethol, ac
yr oedd tarw mewn cae cyfagos yn beichio dros y wlad ac yn dilyn ar
fy ol. Daeth i'm meddwl bennill welais, wedi ei ysgrifennu gan Ann
Griffiths a'i llaw ei hun, -


"Er mai cwbl croes i natur
Yw fy llwybur yn y byd,
Ei deithio wnaf, a hynny'n dawel,
Yng ngwerthfawr wedd dy wyneb pryd;
Wrth godi'r groes, ei chyfri'n goron,
Mewn gorthrymderau llawen fyw,
Ffordd yn uniawn, er mor ddyrus,
I ddinas gyfaneddol yw."


Ni welwn o'm blaen ddim, cyfannedd nag anghyfannedd, ond y llwybr
syth yn mynd i fynu'r bryn, a'r gwrychoedd o bobtu'n gwywo yng
ngwres llethol yr haul poeth. Ond yn y man, wrth edrych ar hyd y
llwybr, fel yr oeddwn yn dynesu at ben y rhiw, gwelwn fynyddoedd
pell, fel breuddwyd gwr ieuanc, yn ymgodi'n brydferth a gwyrdd.
Cerddais hyd ffordd weddol wastad hyd nes y dois at lidiart y
mynydd. Ar yr aswy yr oedd y mynydd rhydd braf, gydag eithin a
danadl poethion a brigau'r twynau'n tyfu ar hyd-ddo, a bryniau
Maldwyn yn hanner cylch y tu hwnt iddo. Ar y dde gwelais lidiart, a
banadlen Ffrainc, yn holl gyfoeth ei chadwyni aur o flodau, yn crogi
uwch ei phen. Eis trwy'r llidiart hon, ac wedi cerdded ychydig
funudau gwelwn Ddolwar Fechan o'm blaen. Nid oes dim yn hynafol nac
yn rhyfedd yn y lle, gwelir ugeiniau o ffermdai tebyg rhwng bryniau
hyfryd Maldwyn. Y mae'r ty'n newydd, a golwg lan a chysurus arno
yng nghanol ei erddi blodau ar lethr y bryn. Ychydig yn nes i lawr,
ar waelod y dyffryn bychan, y mae'r adeiladau,--yr ysguboriau, y
beudai, yr helm drol,--rhai ohonynt fel yr oeddynt pan oedd Ann
Griffiths yn dysgu cerdded gyda'u muriau. Yn nes i lawr y mae'r
cadlesoedd, dan gysgod pinwydd, ac yna gweirgloddiau dan eu gwair.

Prysurais i lawr at yr adeiladau, gan groesi'r ffrwd sy'n rhedeg o'r
ffynnon,--dyfroedd gloew fel y grisial welodd Ann Griffiths lawer
blwyddyn cyn darllen hanes y dwfr yn tarddu dan yr allor yn seithfed
bennod a deugain Eseciel. Oddiwrth yr adeiladau hyn, dringais i
fyny at y ty, gan geisio dyfalu pa fath bobl oedd yno. Eis trwy
lidiart yr ardd, a phan oeddwn yn edmygu'r blodau, daeth hen wraig
hardd, a'i gwyneb yn wenau i gyd, i'm croesawu.

"Dyma Ddolwar Fach, ynte?"

"Ie, dowch i fewn o wres yr haul. Ydech chwi'n dwad o bell, gen mod
i mor hyf a gofyn?"

"Mi gerddais o Lanfyllin; sawl milldir gerddais i?"

"Wyth. Y mae arnoch chwi eisio bwyd; dowch at y bwrdd i gymeryd
tamed o ginio."

Ni fynnwn ginio, ond gofynnais a roddai hi i mi gwpanaid o ddwr oer.
Daeth a gwydriad o lefrith i mi, a'r hufen melyn yn felus arno.
Lawer gwaith wedyn, pan yn yfed llefrith a'i hanner yn ddwfr a'i
hufen wedi ei hel yn ofalus oddiarno, bum y'n hiraethu am y glasiad
llefrith a gefais yn Nolwar Fechan. Tra'r oeddym ni'n ysgwrsio,
clywem droediad ysgafn ar y llofft uwchben. Gwelodd y wraig fy mod
yn dyfalu pwy oedd yno, a chododd ei llais i alw, -

"Ann!"

"Ann," ebe finne, "a ydyw teulu Ann Griffiths yn yr hen gartref o
hyd?"

"O nag ydyw, ar ol ei theulu hi y daethom ni"

"A oes rhai o ddodrefn yr hen deulu wedi aros?"

"Nag oes ddim, ac nid wn i a oes rhai o'r hen deulu yn aros
ychwaith."

Wedi i mi gael ysgwrs a'r wraig am amaethyddiaeth, ac a'r ferch am
flodau'r ardd, daeth yr ysgolfeistr, yr hwn a letyai yno, i'r ty. Y
mae'n wr deallus, yn sylwedydd craff. Dywedai am ei anhawsder i
ddysgu plant Cymreig, oherwydd Sais uniaith yw, a mawr ganmolai
gyflymder meddwl plant y bryniau rhagor plant Saeson y gwastadeddau.
Ond ni chlywsai air erioed am Ann Griffiths; ac edrychai'n
ddrwgdybus arnaf, fel pe bawn un heb arfer dweyd y gwir, pan
ddywedais wrtho ei fod yn byw yn nhy emynyddes oreu'r byd.

Ni welais erioed liwiau mwy gogoneddus na lliwiau'r blodau y
prydnawn hwnnw; yr oedd y rhosynau gwylltion, welwn rhyngof ag awyr
Mehefin ar bennau'r gwrychoedd, yn orlawn o oleuni; yr oedd
goleuni'r haul yn brydferthach pan adlewyrchid ef o'u gwynder hwy na
phan yr edrychid ar yr haul ei hun, fel pan yn


"Disgleirio mae gogoniant Trindod
Yn achubiaeth marwol ddyn."


Wedi'r ffordd hir hyfryd oedd cyrraedd mynwent Llanfihangel yng
Ngwynfa, a gadael y gwres anioddefol, a myned i mewn i'r eglwys
dywell oer. Nid oes dim neillduol yn yr eglwys; ond tra yr oeddwn
ynddi daeth cyfnewidiad dros y diwrnod,--yn sydyn duodd yr awyr,
ymrwygai taranau dychrynllyd trwyddi, fflachiai mellt nes y byddai'r
eglwys dywell yn oleu a beddergryff teulu Llwydiarth yn ymddangos,
fel ysgrif gwledd Belsasar, yn amlwg ar ei mur. Doi rhyw ddarn emyn
o waith Ann Griffiths i'm cof o hyd, -


"Pan fo Sinai i gyd yn mygu,
Sain yr udgorn uchaf radd,
Caf fynd i wledda dros y terfyn
Yng ngrym yr aberth, heb fy lladd."


Rhedais drwy'r gwlaw bras trysfawr i'r hen westy hwn, a dyma fi. Y
mae amryw fforddolion fel y finne wedi troi i mewn am nodded ar fy
ol, ac mewn hwyl ysgwrsio a mi. Treiais dynnu ysgwrs am ysbrydion a
rheibio, ond cynnil iawn oedd eu hatebion,--yr oeddwn yn rhy debyg i
bregethwr. Yr oedd yno un dyn deallus a llais dwfn mwyn, ffarmwr o
ardal Pontrobert; nid oedd gan y clochydd air ond ambell i amen yng
nghanol ysgwrs y lleill; yr oedd yno was ffarm, wedi gorfod ymadael
o'i le oherwydd yr "wimwimsa," fel y galwai yr influenza. Efe oedd
y prif siaradwr yn ein mysg. Cwynai nad oedd ganddo unlle ar y
ddaear las i droi iddo, ie, ei bod "wedi mynd yn draed moch ac yn
botes llo" arno. Wrth weled cot ddu am danaf, dechreuodd siarad ar
bwnc dybiai oedd yn gydweddol a'm chwaeth, sef Sian Hughes,
Pontrobert, glywais unwaith ar stryt y Bala, amser Sasiwn, yn
pregethu yn erbyn y diafol a sol-ffa. "Mi fydde'n son am iffern, a
pheth whithig o bethe, wrth fechgin ifinc," ebai'r gwas ffarm, yr
hwn a ddychrynasid lawer o weithiau, mae'n debyg, gan bregethau'r
hen wraig. Yr oedd y Sian Hughes honno, os nad wyf yn camgymeryd,
yn ferch i Ruth, morwyn Dolwar Fechan, ar gof yr hon y cadwyd
emynnau Ann Griffiths.

Ond y mae'r cerbyd wrth y drws yn disgwyl, rhyw fath o drol ysgafn
gwlad, ac ystyllen ar ei thraws. Y mae'r awyr yn goleuo, y mae'r
gwlaw wedi troi'n wlithwlaw tyner, y mae'r aberoedd yn llawn at yr
ymylon, y mae'r coed yn tyfu i'w gweled wedi'r gwlaw maethlon. Cyn
hir bydd dau ar yr ystyllen groes, mewn trol glonciog, ar ffordd
Llanfyllin; a bydd un o honynt, o leiaf, yn meddwl am emyn, os nad
yn ei ganu, -


"Gwna fi fel pren planedig o fy Nuw!
Yn ir ar lan afonydd dyfroedd byw;
Yn gwreiddio ar led, a'i ddail heb wywo mwy,
Yn ffrwytho dan gawodydd dwyfol glwy."



TY COCH



Anaml y bu neb mor hoff o gartref ag Ap Vychan, ac anaml iawn y bu i
neb gartref tlotach. Ymysg mawrion gwlad, soniai am gymdeithion
dinod ei ieuenctyd; ac o balasau ehedai ei ddychymyg i'r ty to brwyn
yn yr hwn y dioddefodd eisieu bara, ac o'r hwn y gorfod iddo gychwyn
i gardota aml dro.

Saif y Ty Coch yn agos at aberoedd o ddwfr tryloew, yn ymyl hen
ffordd Rufeinig, dan gysgod castell rhy hen i neb fedru adrodd ei
hanes, ar fin mynydd sy'n ymestyn mewn mawredd unig o Lanuwchllyn i
Draws Fynydd. Y mae'n anodd cael taith ddifyrrach na'r daith o
orsaf Llanuwchllyn i Gastell Carn Dochan, os gwneir hi yn yr haf, a
chan un hoff o dawelwch ac awel iach oddiar eithin a grug y mynydd.

Dyma ni'n gadael yr orsaf, gan syllu ar brydferthwch yr Aran draw.
Toc trown ar y dde, a cherddwn dan goed sy'n taflu eu cysgodion dros
y ffordd. Dyma'r "adwy wynt," a hen gapel y Methodistiaid wedi ei
droi'n dai. Wrth y tai hyn, yn enwedig wrth y siop draw, digon
tebyg y cewch rywun y gellwch dynnu sgwrs ag ef, os ydych yn hoff o
ymgom. Hwyrach y tarewch ar hen ddiwinydd a'i bwys ar ei ffon.
Hwyrach y cyfarfyddwch a rhywun bydol,--hen wr a gwallt fel nadroedd
sonia wrthych am ddyfais newydd i wneyd cribiniau, neu am ryfeddodau
gwledydd pell. Hwyrach y cewch hen hanesydd ddywed wrthych fel y
byddem ni yn Llanuwchllyn yn byw yn yr hen oesoedd. Os na fydd neb
yno, a bydd y lle heb neb yn yr haf weithiau, cerddwch ymlaen ar hyd
y "Gwaliau, ac wedi croesi'r bont cawn ein hunain yng nghwr y Llan,
rhwng y fynwent a thai fu unwaith yn dy tafarn. Yn y fynwent honno,
y tu hwnt i'r eglwys, gorwedd Ap Vychan hyd ganiad yr udgorn. Ac yn
y ty tafarn hwnnw temtiwyd ef, pan yn laslanc tlawd, i yfed ei
lasied cyntaf o gwrw mewn cyfarfod beirdd.

Wedi gadael y Llan yr ydym yn dod i ffordd y Bala, ac yn cerdded yn
ein blaenau ar hyd-ddi, hyd nes y down at y Bont Liw a phentref
bychan Pen y Bont. Cyn croesi'r bont yr ydym yn troi ar y chwith,
ac yn cymeryd ffordd drol sydd yn ein harwain i gyfeiriad tarddle'r
afon Liw. Ar un ochr i ni y mae gwrych; ac ar yr ochr arall y mae
dol lydan werdd, a'r afon yn dwndwr gyda'i godreu. Yr ochr arall
i'r afon y mae'r Cei, ffordd gul wedi ei chodi'n uwch na'r tir
gwastad o bobtu iddi. Ar hyd y cei noethlwm hwn, dyfal gyrcha'r
pererinion Anibynnol i'r Hen Gapel a welwn draw. Anodd cael rhodfa
fwy dymunol na'r Cei yn yr haf, pan fo'r brithylliaid i'w gweled yn
chwareu yn yr afon, a phan fo awel ysgafn gynnes yn crwydro dros
laswellt a meillion aroglus. Ond yn y gauaf, pan fo dwfr oer
rhewllyd o bobtu, pan chwyth awel lem finiog oddiar fynydd sydd dan
ei lwydrew, y mae golwg triglyd truenus ar lawer hen Gristion
ffyddlon yn tynnu yn erbyn y rhew-wynt tua'r cyfarfod gweddi.

Llawer gwaith y clywais fy nhad yn adrodd hanes gwr tyn yn cerdded
hyd y Cei yn nyfnder gauaf oer. Er mwyn cynhesrwydd, yr oedd wedi
gwthio ei ddwylaw i bocedi ei lodrau, ie, i'w gwaelod, oherwydd yr
oedd yn erchyll o oer. Pan ar ganol y Cei, llithrodd ei droed ar y
rhew, a syrthiodd ar ei wyneb ar y llwybr. Yno yr oedd mewn
enbydrwydd mawr. Yr oedd ei ddwylaw'n ddyfnion, fel y dywedwyd, ym
mhocedau ei lodrau. Os ymegniai i dynnu y naill law allan, treiglai
oddiar y llwybr i'r dwfr ar y naill du, oherwydd yr oedd y llwybr yn
gul iawn. Os tynnai'r llaw arall, ai drosodd yr ochr aroll, ac yr
oedd dwfr yr ochr honno hefyd, yr un mor oer, a rhewllyd. Nid oedd
dim i'w wneyd ond aros yn llonydd hyd nes y delai rhywun heibio. Ni
fedrai neb, fel y Lefiad a'r offeiriad y sonnir am danynt yn yr
Ysgrythyr, fyned "o'r tu arall heibio" a daeth rhyw Samaritan o'r
diwedd i fwrw ei anwyd trwy godi'r gwr oedd yn methu tynuu ei
ddwylaw o'i bocedi.

Ond haf ydyw'n awr; y mae'r, defaid yn y mynydd, nid ydyw Awst wedi
darfod, y mae'r glaswenwyn a blodau'r taranau hyd y cloddiau, ac y
mae'r corn carw hyd lethrau'r mynydd. Dyma'r llwybr yn dod a ni at
yr afon eto, a dacw'r "Hen Gapel" yr ochr draw,--hen gapel Lewis
Rhys ac Abraham Tibbott, Dr Lewis a Michael Jones. O'n blaenau y
mae craig serth yn ymgodi i'r nefoedd, ac ar ei hael y mae muriau
toredig Castell Carn Dochan. Dywedir fod telyn aur wedi ei chuddio
dan y llawr ar ben y graig uchel acw; ond daw'n fellt a tharanau
ofnadwy os dechreuwch, gloddio ati. Nis gwn i sicrwydd a oes telyn
aur dan lawr yr hen amddiffynfa, ond gwn fod gwallt y forwyn yn tyfu
yn rhigolau'r muriau, a gellir syllu ar ei bryd-ferthwch heb ofni
mellt na tharanau na dim.

Ond dyma ni wrth y Deildref, cartref John Parry, athraw barddonol Ap
Vychan,--"bardd rhagorol, llawn o athrylith a than awenyddol, fu
farw o'r darfodedigaeth yng nghanol ei ddyddiau." Ychydig yn uwch i
fyny dyma'r Deildref Ucha, cartref Cadwaladr Jones Dolgellau, hen
olygydd y Dysgedydd. Ar y chwith, rhyw ddau hyd cae o'r ffordd, y
mae'r Wern Ddu, cartref yr hen Gadwaladr Williams garedig fu'n
ceisio darbwyllo Ap Vychan pan yn hogyn nad ai plant llygaid
gleision i'r nefoedd, ac mai Deio'r Graig oedd yn achosi'r taranau
trwy fynd o ben y castell i lawr y nefoedd, a gyrru olwyn ar hydddo.
Ymhellach ymlaen, wedi mwynhau golygfeydd rhamantus, dyma ni wrth y
Ty Mawr lle y daeth Ap Vychan yn hogyn cadw pan yn ddeg oed, a'r lle
y bu am saith mlynedd, yn mwynhau llawer o fanteision crefyddol, dan
lywodraeth gref gariadlawn y wraig fwyaf deallus mewn duwinyddiaeth
a welodd erioed.

Cyn hir, gyda ein bod wrth droed craig y castell, dyma ffordd yn
croesi ein ffordd ni, ac yn rhedeg ar draws y cwm. Trown ar y
chwith ar hyd-ddi, a dyma ni wrth Hafod y Bibell. Clywodd llawer un
Ap Vychan yn dweyd mai yn Hafod y Bibell y dymunai fyw, Darluniai'r
golygfeydd welid o'r hafod honno,--y mynyddoedd, gwaelod dyffryn
Penanlliw a Llanuwchllyn, a Llyn Tegid hefyd am wn i. Tybiai pobl
ddieithr, wrth glywed Ap Vychan yn darlunio'r lle, mai palas y
gellid ei alw'n Ddymunol, yng ngwlad Beulah, oedd Hafod y Bibell. A
dyma'r lle. Y mae'n dechre adfeilio erbyn hyn,--nid oes yno ond to
diferllyd a ffenestri gweig ion, fel tyllau llygad ysgerbwd. Y mae
das o hen wair yn y gadles yn ymyl, a llwybr glaswelltog i'r caeau,
llwybr nad oes erbyn hyn fawr o wahaniaeth rhyngddo a'r cae. Pe
gwelai Ap Vychan ef yn awr, hawdd fuasai iddo ddweyd geiriau Dafydd
ab Gwilym am y murddyn welodd mewn lle y buasai unwaith "yn glyd
uwchben ei fyd mwyn,"-


"Yn ddiau mae i'th gongl ddwy-och,
Gwely im oedd, nid gwal moch."


Oddiyma awn i fyny hyd y caeau, gan adael gwaith aur y Castell ar y
dde. Toc croeswn gae, ac y mae'r Ty Coch draw yn ei gwr uchaf. Y
mae mawredd gwaith bysedd Duw ar y creigiau sydd y tu cefn i'r Ty
Coch, ond tlodaidd iawn yw'r olwg ar y ty ei hun.

Gadewch i ni ddynesu ato. Y mae'n eithaf clyd a glan, er mai bechan
iawn yw ei ffenestr a phur anwastad ei lawr. Dyma ddau wr ieuanc yn
dod o'r ty i'n cyfarfod, ac yn cymeryd dyddordeb mawr ynnom pan
ddeallant ein bod ar bererindod i wlad Ap Vychan. Peth digon hawdd
i bobl ddieithr fel y ni, a ninnau wedi darllen papurau newyddion ac
yn medru siarad Saesneg, ydyw ei lordio hi dipyn, fel y dywed pobl y
fro hon, yng ngwydd pobl wledig. Gwell i chwi beidio mewn cwm fel
Penanlliw; y mae'r gwr ieuanc gwalltddu yna wedi gweled mwy ond
odid, nag a welsoch chwi; ac y mae aml un trahaus wedi gwingo dan
ffrewyll awen chwerw'r llall.

Dan gyfarwyddyd dau nai Ap Vychan awn o amgylch y ty. Yn y pen
uchaf iddo yr oedd tad Ap Vychan yn byw, darn sydd eto dan ei do
brwyn. Dyma'r drws diaddurn o'r hwn y cerddodd Ap Vychan i'r byd
gyntaf, i ymdrechu'n galed am ei damaid bara i ddechreu, ac i
gyfrannu bara'r bywyd i lawer enaid newynog wedyn. Dacw'r ffenestr
eto'n aros drwy yr hon y gwelodd oleuni dydd Duw gynta erioed
rywbryd tua diwedd y flwyddyn 1809. Dyma'r lle y bu ei dad,--dyn
duwiol, duwinydd, a llenor da,--yn ymladd yn galed yn erbyn yr
amseroedd enbytaf welodd y llafurwr Cymreig, efallai, yn holl hanes
ei wlad. Dacw'r mynyddoedd, y naill y tu hwnt i'r llall, y
mynyddoedd sy'n ymddelwi yn enaid pob Cymro. Bum yn meddwl lawer
gwaith fod Ap Vychan, wrth ddarlunio ieuenctyd Cadwaladr Jones, yn
darlunio,--na, nid ei ieuenctyd ei hun,--ond y peth ddymunasai'r
bachgen tlawd fod. Yr oedd bywyd Cadwaladr Jones, "mab ffarm," yn
fywyd yr hiraethai'r "hogyn cadw" am dano.


"Gallwn yn hawdd ddychymygu iddo dreulio llawer dydd teg, yn hafau
dyddiau ei faboed, ar lan y nant sydd yn myned heibio i'r Deildref
Uchaf, a'r afon Liw, sydd yn golchi un ochr i ddol a berthyn i'r
tyddyn, yn chwareu, ac yn ceisio dal y pysgod gwylltion a heigient
ynddynt. A gallwn farnu, yr un mor naturiol, ei fod yn ddiwyd yn
ymlithro ar hyd ei rhewogydd yn y gauafau, ac yn cael ei geryddu gan
ei fam pan ddigwyddai gael codwm, a tharaw ei wegil yn y blymen, neu
pan wlychai ei draed, oblegid torri o'r rhew o dan ei bwysau, a
dyfod i'r ty, ati hi, i gwyno oblegid y damweiniau. Gallwn feddwl
mai dyddiau pwysig yn ei olwg ef, fel ereill, oedd dyddiau dasu y
mawn, golchi y defaid a'u cneifio, dyddiau cael y gwair a'r yd,
ffair Llan yr haf, a dydd cyfarfod blynyddol yr Hen Gapel. Gallwn
feddwl y chwareuodd lawer tua 'Chwrt y Person', wrth ddychwelyd yn y
prydnawniau gydag ereill, o ysgol ddyddiol Rhos y Fedwen; a'i fod yn
aml yn ofni ac yn petruso wrth geisio myned dros y sarn, pan fyddai
y llif ychydig dros y cerrig, ac wedi cyflawni y gamp honno, yn
neidio ac yn llemain o lawenydd am lwyddiant ei wrhydri, yn hynny o
beth. Digon tebyg ei fod ef, fel ei gyffelyb o ran oed, yn brysur
tua Chalanmai yn chwilio am nythod adar, ac ym Medi, yn chwilio am y
cnau yn y byrgyll. A hawdd i ni gredu ei fod ar lawer min nos yn
dyfal wrandaw ar isalaw ddofn Rhaiadr Mwy, ac yn dyfod yn ei ol i'r
ty yn llawer mwy sobr nag yr aethai allan. Bu lawer noswaith, mae
yn debyg, yn cael y fraint o aros ar yr aelwyd, yn lle myned i'w
wely, pan fyddai cymydogion yn dyfod i gyfarfod nosawl i wau
hosanau, i dy ei rieni. Bu yn gwrando eu chwedleuon am amgylchiadau
yr ardal, y rhyfel a Ffrainc, helwriaeth, ymddanghosiad ysbrydion,
dewiniaeth, llofruddiaethau, ymladdfeydd rhwng personau unigol, yng
nghyd ag ychydig o helyntion crefyddol yr Hen Gapel."


Y mae'r Ty Coch ar fin y mynydd,--"y ty agosaf i'r mynydd." Rhwng y
dwfr glan a'r mynydd-dir iach sydd yn ymyl, y mae'n lle wrth fodd
Cymro athrylithgar fo'n magu plant. Ond, yr oedd yr adeg honno'n
gwasgu'n drwm ar fwthynwyr, yn enwedig rhai'n deulu o ddeuddeg.
Dyma'r hanes fel yr adroddir ef gan Ap Vychan ei hun, -


"Yn fuan wedi terfyniad rhyfel Ffrainc, aeth ein bwthyn bychan ni,
yr hwn oedd wrth dalcen y Ty Coch, yn rhy gyfyng i'r teulu cynyddol
a gyfaneddent ynddo, a chafodd fy nhad ganiatad gan oruchwyliwr Syr
Watcyn i ail adeiladu hen dy adfeiledig yn yr ardal o'r enw Tan y
Castell. Yr wyf yn cofio mai ty newydd tlawd iawn oedd ein ty
newydd ni. Yr oeddym erbyn hyn yn deulu lluosog; a swllt yn y dydd,
ar ei fwyd ei hun, oedd cyflog fy nhad yn yr hanner gauafol o'r
flwyddyn, ac yr oedd hanner pecaid o flawd ceirch yn costio i ni
ddeg swllt a chwe cheiniog. Felly, prin y gallem gael bara, neb son
am enllyn, gan y drudaniaeth. Buom am un pythefnos heb un tamaid o
fara, caws, ymenyn, cig, na chloron. Digwyddodd i ni gael ychydig o
faip, a berwai ein mam y rhai hynny mewn dwfr, ac a'u rhoddai i ni
i'w bwyta gyda'r dwfr y berwasid hwynt ynddo, ae nid oedd ganddi
ddim oedd well iddi ei hun, er fod un bychan yn sugno ei bron ar y
pryd. Yr wyf yn cofio ei bod yn wylo am ei bod yn gorfod rhoddi i
ni ymborth mor wael."


Nid un ymffrostiai yn ei dlodi oedd Ap Vychan. Y mae ymffrost
ambell un yn ei dlodi mor anerbyniol ag ymffrost un pen ysgafn yn ei
gyfoeth. Ond adroddiad diaddurn, diymffrost o dlodi, adroddiad dyn
ddagrau o lygaid y caletaf, ydyw yr hanes rydd Ap Vychan wrth
ddarlunio tlodi ei gartref ef. Dywed haneswyr am ogoniant a bri
buddugoliaeth y blynyddoedd hynny; yr oedd mawredd yn ymwisgo, fe
feddylient, ag anrhydedd tragwyddol. Ond yn nhlodi'r bwthyn wrth
dalcen y Ty Coch yr oedd dyn gonest yn gorfod edrych ar ei wraig a'i
blant heb angenrheidiau bywyd, oherwydd uchelgais pechadurus y milwr
a'r uchelwr.

Ni ddaeth tlodi ei hun, daeth clefyd trwm i Dan y Castell. Daeth
mam y penteulu yno, a bu farw dan y clefyd. Daeth chwaer Dr. Ellis
Evans i'w gwylio y nos tra'n gweithio yn ei lle y dydd. Gorfod troi
at y plwy am gymorth. Dyma ddernyn o hanes yr amser hwnnw, -

"Yr oedd gan fy rhieni y pryd hwnnw wely pluf da; ond gan ein bod ar
y pryd yn cael cymorth plwyfol, daeth overseer y plwyf, a'i fab
gydag ef, i'n ty ni, a thynasant y gwely odditan fy nhad, yr hwn
oedd i olwg ddynol ar y pryd bron a marw, a'i synhwyrau'n dyrysu'n
fawr, gan rym tanllyd y clefyd, a gwerthasant y gwely i ddyn o'r
ardal oedd ar gychwyn i'r America, a gosodwyd fy nhad i orwedd ar
wellt."

Cyn hir daeth iechyd, a dechreuodd y plant ennill tipyn. Ond
gadewch i ni groesi, dan gysgod craig y castell, drwy goed mafon
duon a heibio cerrig enfawr sydd wedi treiglo o'r graig fry, at Dan
y Castell. Yr oedd Ap Vychan a'i frodyr a'i chwiorydd yn adnabod
pob un o'r cerrig hyn fel eu cymydogion. Un ffordd i ennill ambell
geiniog oedd hel cen oddiar gerrig. Defnyddid y cen i lifo dillad,
ac nid oes bosibl cael lliw prydferthach. Crwydrodd Ap Vychan
llawer, yn hogyn byrdew, gyda brawd hyn nag ef, i hel cen cerrig ac
i gardota. Clywais hen frawd yn dweyd yn ddiweddar ei fod wedi
cyfarfod y ddau lawer gwaith. Byddai gan Ap Vychan got laes,--hen
got oedd wedi disgyn iddo oddiwrth rywun hyn,--a dwy boced fawr y tu
mewn iddi. Yn y naill boced byddai cen cerrig a chardod flawd, ac
yn y llall byddai Beibl mawr. Crwydrodd y ddau frawd unwaith cyn
belled ag Aber Ystwyth. Cardodasant yn Sir Aberteifi, a chawsant
lawer o yd. Ond cymerodd rhywun calongaled digydwybod fantais ar y
ddau hogyn deg ac wyth oed, a mynnodd eu blawd i gyd am y grot oedd
raid iddynt dalu am groesi'r afon Dyfi. Ond yn y cwch dywedodd
rhywun tirion,--"Yr wyf fi'n talu dros y plant bach." "Ni ellais
byth," ebe Ap Vychan lawer blwyddyn wedyn, "ar fy nheithiau
pregethwrol, fyned heibio'r tai a'm lletyasent, heb deimlo diolch-
garwch i Dduw, ac i ddynion hefyd, am y tiriondeb a dderbyniais yn
nyddiau plentynrwydd a thlodi."

Er hyn oll,--cafodd Ap Vychan ieuenctyd hapus. Wedi'r clefyd, bu'r
tad a'r fam yn ddedwydd lawer awr. A phwy na fu wrth fagu plant?
Dyma ddarluniad o Dan y Castell, -


"Yn nechreu haf y fwydden 1818 yr oedd gwr a gwraig, at hyaid o
blant nwyfus a chwareus, yn byw dan gysgod craig fawr ac ysgythrog,
ac mewn ty bychan, a'i do o redyn y mynydd-dir oedd gerllaw iddo, ac
nid oedd haul yn tywynnu arno am rai wythnosau yn nyfnder y gauaf.
Yr oedd yn cael ei gysgogi'n dda rhag gwyntoedd o'r gorllewin ac o'r
deheu; ond yr oedd awelon oerion y gogledd a'r dwyrain yn ymosod
arno yn ddidrugaredd. Mynnai y mwg hefyd ymgartrefu yn y ty a'r to
rhedyn, gyda'r teulu, ac nid ai allan o'i fodd, os na fyddai'r gwynt
yn chwythu o ryw bwynt a ryngai ei fodd ef. Yr oedd megis un o'r
teulu.

"Yr oedd ffynnon o ddwfr iachus yn tarddu o ganol y mynydd mawr, yn
union wrth dalcen y ty. Ceid digon o danwydd o fawnog oedd yn y
mynydd uwchlaw'r ty, yr hyn a barai fod yr aelwyd, ar nosweithiau
hirion y dyddiau byrion, yn hynod o gysurus. Eisteddai'r tad yn un
gornel, a'r fam ar ei gyfer yn y gornel arall, a'r plant yn hanner
cylch o flaen y tan, a phob un oedd yn ddigon o faint yn gwau hosan
mor gyflym ag y gallai, fel y gallai'r fam fynd a hanner dwsin o
barau i'r farchnad ar y Sadwrn, a'u cyfnewid yno am angenrheidiau
teuluaidd."


Gadewch i ni adael Tan y Castell, a throi ein gwynebau tua'r Ty
Cerrig, a "phulpud y Crynwyr." Sylwch ar y graig fygythiol
ddaneddog, a'i chastell yn goron doredig ar ei phen. Yng
ngwythienau'r graig acw y mae aur. Pan oedd Ap Vychan yn cardota ei
fara ymhell yn Sir Aberteifi, yr oedd gronynau aur yn nhalcen ei dy.

O'n blaenau dacw Foel Llyfnant a'r Arennig, a dyna isalaw ddofn
Rhaiadr Mwy. Dacw'r mynyddoedd y bu Ap Vychan yn crwydro hyd ddynt
i hel cen cerrig, dacw dai hen breswylwyr Penanlliw,--pobl dal
gyhyrog, pobl ddi-wenwyn a heddychlon, pobl wedi eu trwytho a
duwinyddiaeth gadarn ac iach. Llawer hanes rhyfedd adroddir am
grefyddwyr y fro hon. Ond dyma ni wrth Dy Cerrig. Yn y cyntedd o
flaen y ty dywed traddodiad fod y Crynwyr wedi ymgyfarfod laweroedd
o weithiau. Byddai rhyw gyfaill crwydrol yn sefyll ar garreg agosaf
i'r ty, ac yn traethu. Eisteddai'r cyfeillion mwyaf blaenllaw ar y
garreg arall, a safai y dorf. Ni wyddis fawr o fanylion hanes y
Crynwyr, ond y mae'n sicr eu bod wedi gadael rhyw dynerwch enaid, a
rhyw hoffder greddfol o'r efengyl yn y fro hon.

Ffurfiwyd meddwl Ap Vychan dan ddylan-wadau iach. Gadewch i ni droi
i fyny tua, Chraig y Tan, lle y bu'n hogyn cadw'r caeau, ac mi
adroddaf i chwi beth glywais gan hen bobl am dano. Bu am dymor pan
y meddylid nad oedd llawer iawn o ol gras ar ei fuchedd. Pan oedd
yn egwyddorwas yn y Lon draw, yr oedd wedi ei brentisio i wr
crefyddol,--Simon Jones y Lon. Yr oedd gan Simon Jones fab,--un
athrylithgar a direidus,--ac efe oedd hoff gydymaith y prentis go.
Ambell dro canent i ryw elyn, -


"Yr un aeliau, a'r un olwg,
A'r un drem, a'r gwr drwg"


Cedwid Ysgol Sul yng Nghaer Gai; a holai Thomas Ffowc y plant. Un
tro gofynnodd i hogyn bychan sydd erbyn hyn yn wr cyfrifol yn yr
America, -

"Oes gen ti adnod, fy mhlentyn i?"

"Oes."

"Wel, tyrd a hi."


"Bydded hysbys a gwir yw.
Lle crafa'r iar, y piga'r cyw."


"Da iawn, fy machgen i, pwy ddysgodd yr adnod ene i ti?"

"Twm Seimon a Robin y Go."

"Roeddwn i'n meddwl. Paid di a chymryd dy ddysgu gennyn nhw eto."

Un tro cafodd Mari Jones y Lon, un o'r gwragedd duwiolaf welodd ei
hardal, gan Robin addaw dod i'r capel y Sul wedyn. Addawodd yntau
ar yr amod ei bod hi'n rhoddi caniatad iddo yn y bore. Nos Sadwrn
cymerodd Twm siswrn a thorrodd un ochr yn unig o wallt hir Robin, ac
eilliodd hefyd un gern iddo. Bore Sul ymddanghosodd Robin ger bron
Mari Jones, gyda gwallt hir ar un ochr i'w ben, a'r gwallt wedi ei
dorri yn y gnec ar yr ochr arall. Ni welwyd Robin ymysg y duwiolion
y bore Sul hwnnw.

Dro arall yr oedd Twm a Robin yn cychwyn i'r Bala i arddanghosfa
anifeiliaid gwylltion. Nid oedd gan Simon Jones arian parod i'w
roddi iddynt yn eu pocedau, ond rhoddodd bapur i'w roi i hen wraig y
King's Head, a ffigiwr dau arno. Deallodd y ddau mai deuswllt oedd
hynny'n feddwl, a rhoisant ffigiwr un o flaen y ffigiwr dau.

Gwahanwyd y ddau gyfaill mynweswol ac athrylithgar hyn yn eu
marwolaeth. Y mae Ap Vychan yn huno ym mynwent Llanuwchllyn, yn
ymyl Simon Jones a Mari Jones. Ac y mae Thomas Jones, mab y rhain,
yn huno yr ochr arall i'r Werydd, yn Utica. Ond y mae ei enw yntau
ar feddfaen ei deulu,--bu farw yn 1847, yn chwech a deugain oed.

Na feddylier oddiwrth hyn fod Ap Vychan wedi byw'n fachgen gwyllt.
Ni chollodd ei dad ei ddylanwad ar ei gymeriad. Ychydig cyn ei
farw, yr oedd yn adrodd breuddwyd wrth Ifan T. Davies. "Yr oeddwn
i'n breuddwydio neithiwr, Ifan," meddai, "'mod i'n gweld fy nhad, a
dene'r tro cynta i mi i weld o er pan fu o farw. Yr oeddwn i ag ef
yn cerdded ar hyd ffordd deg wastad-lefn. Yr oeddwn i'n blentyn ac
yn cydio yn i law o. Hefo'r ffordd yr oedd aber o ddwr grisialaidd
yn dwndwr. Dros y gwrych yr oedd dyrysni, o ddrain a rhedyn a
mieri, fel y Wenallt, ac yng nghanol y dyrysni 'roedd dyn. A dyma
fo'n gwaeddi ar fy nhad,--'Ddyn anwyl, fedrwch chi ddangos y ffordd
i'r bywyd tragywyddol i mi?' 'Medra,' medde nhad, ac yn dangos i
fys at y ffordd deg, 'dyma hi, mae Rhobet a minne wedi bod yn i
cherdded hi ers blynyddoedd.'"

Y ffordd a'r aber wrth ei hochr oedd y ffordd y buom yn ei cherdded
at y Ty Coch. A dacw'r t Wenallt. Ymlaen y mae golygfeydd mynyddig
rydd orffwys i'r meddwl lluddedig, os crwydrir yn eu mysg. Byddaf
fi'n hoff iawn o dreulio dyddiau yn y cymoedd hyn, a byddaf yn
meddwl yn aml, wrth bensynnu ar lannau'r aberoedd, am y bachgen fu'n
ennill ei damaid prin wrth wylio'r defaid a diosg eu gwisg oddiam
gerrig y mynyddoedd.



GERDDI BLUOG



Yr oeddwn wedi meddwl llawer am weld cartref Edmwnd Prys, y cartref
sydd yng nghanol y mynyddoedd, y cartref lle cyfieithiwyd Salmau
Israel i'r iaith Gymraeg. Tybiais mai canol haf oedd yr amser goreu
i fyned yno ar draws y bryniau, gan fy mod yn meddwl bob amser mai
haf yng Nghymru ydyw'r tymor ddarlunir yn y Salmau, pan hiraetho'r
hydd am yr aberoedd dyfroedd, a phan fo'r porfeydd gwelltog yn
hyfryd ar lan dyfroedd araf. "Gefn trymaidd yr haf," chwedl pobl
Harlech, y dechreuais ddringo'r bryniau serth sydd rhwng glan y mor
a'r cartref yn y mynyddoedd.

Pan eisteddais i orffwys gyntaf, yr oeddwn ar fryn uwchlaw Castell
Harlech,--y mor odditanaf a'r mynyddoedd uwch fy mhen, y mynyddoedd
sydd rhwng glan y mor a gwastatir uchel Traws Fynydd. Llecyn hyfryd
odiaeth oedd hwnnw. Dros gaeau o datws gwyrddion, gydag ambell
flodeuyn piws ar y cae gwyrdd, gwelwn donnau gwynion afrifed y mor,
a'r haul yn goreuro eu hewyn. Os wyt yn ymhyfrydu mewn lliwiau,
buasai yn dda gennyt fod gyda mi yno,--i weled y gwyrdd yn dy ymyl,
a'r gwyn gyda gwawr aur arno draw drosto. Tybiwn ei fod yn gyfuniad
o liwiau prydferthaf nef a daear; ac yn y cyfuniad yr oedd ei swyn.
Heibio'r garreg yr eisteddwn arni rhedai dyfr-oedd grisialaidd o
ffynnon y Bedyddwyr, dwfr clir wedi codi'n foreu ym mro y creigiau
a'r grug. Hyd ochrau sych hyfryd yr afonig, blodeuai'r goesgoch a'r
rhedyn, gan wasgar eu perarogl hyfryd gwan. Ac ar ael y bryn o'n
blaenau gwelem Gutiau'r Gwyddelod, fel ysbrydion hen amseroedd.

Nid oeddwn fy hun yn y llecyn hwnnw. Yr oeddwn i a gwr ieuanc, oedd
yn treulio ei wyliau gartref yn Harlech, wedi dod yn ffrindiau mawr.
A chan ei fod yn gwybod am bob troedfedd o'r ardal, yr oeddwn wedi
erfyn arno ddod yn gwmpeini i mi. Ni fuasai'n bosibl cael diwrnod
na chwmni gwell. A rhag fod fy nghydymaith yn meddwl fy mod wedi
blino eisoes, troais fy nghefn ar olygfa oedd mor swynol i mi.

O'n blaenau yr oedd gallt serth, ac yr oedd corn simneu unig i'w
weled drosti, fel pe buasai'n codi o'r ochr draw. Corn simneu Cefn
y Filldir oedd, a chlywais fod yno bregethwr unwaith, pregethwr y
Bedyddwyr, yn meddu dylanwad ar yr ysbrydion drwg. Hawdd gennyf fi
gredu hynny, ac ni rown fawr am bregethwr os na fydd ar yr ysbrydion
drwg dipyn o'i ofn ambell i dro.

Yr oedd yr allt yn drom a'r dydd yn boeth, ac wrth ddringo igam ogam
i ben y bryn safem yn aml, a thaflem aml olwg yn ol ar y castell a'r
mor. Yr oedd swn y mor yn dod yn fwy gwan a suol o hyd, a phrin y
clywem ef pan ddoi swn gwenynen i'n clustiau, wrth iddi grwydro dros
flodau man y mynydd.

Wedi cyrraedd pen y bryn, wele wastatir hir o'n blaenau,--cae hir
eithinog glas o'r enw y Fonllech Hir. Yr oedd awel adfywiol yn
crwydro o'r mynyddoedd i'n cyfarfod, wedi casglu perarogl mewn
cannoedd o gaeau gwair. Odditanom yr oedd cwm rhamantus Nancol, a
morfa'r Dyffryn. Dros y rhain y gwelem Fochras a'i gregin, a Sarn
Badrig yn y mor. Ehedai aml wylan tua'r tir rhyngom a'r awyr las,
arwydd fod storm yn y mor. Yr oedd gorchudd o niwl dros y Wyddfa
a'r Rhinog a'r Moelfre o'n blaenau.

Daethom i ffordd union deg yn rhedeg ar hyd y Fonllech, debyg i
ffordd Rufeinig, o Lanfair i Fedd Gelert a Nanmor. Cerddasom ennyd
ar hyd hon, gan droi ar y chwith o'r llwybr gerddem o'r blaen.
Odditanom gwelem ffermdai Drws yr Ymlid a Chil y Bronthyr. Dilynai
aber ni, gan fynd dan y ffordd weithiau; efallai i ti ei gweled,
ddarllennydd hoff, yn disgyn yn gawod wen dros y graig yn ymyl
castell Harlech.

Troisom o'r ffordd hir union wedi ei dilyn am beth amser, gan
gyfeirio ar y dde tua Chwm Bychan. Yr oedd tarw'r Ffridd ar ein
llwybr, ond ni wnaeth fwy na rhuo. Yr oeddwn wedi edrych o'm cwmpas
am le i ddianc, ac wedi methu canfod yr un. Hyfryd i mi oedd gweled
y tarw'n rhoi ei ben i lawr, ac yn ail ddechreu pori mewn heddwch.
Bum mewn ffos unwaith, ag ochrau cerrig iddi, a tharw yn bwrw a'i
ben ataf, ond fod yr ochrau cerrig yn rhy gul i'w dalcen ddisgyn
arnaf. Yr wyf yn cofio ei anadl boeth ar fy ngwyneb o hyd; a pho
leiaf o deirw fo'n y byd, goreu oll gen i.

Caeau bychain caregog oedd yno, gyda darnau o dir amaethedig ymysg
corsydd a brwyn. Yr oedd ffrydiau ardderchog o ddwfr gloew ymhob
man. I lawr odditanom gwelem gaeau gwyrddion dyffryn yr Artro, a'r
mor dyfnlas draw dros y morfa llydan a'r traeth. Yr oedd gwres yr
haul wedi codi cymylau i hulio'r nen. Doi ambell heulwen danbaid
trwy'r cymylau, ac yr oedd lliw pob peth yn troi yn ogoneddus tan ei
gwen,--lliw melynwyn brenhines y weirglodd, coch gwan blodau'r grug,
melyn tanbaid yr eithin, a'r lliwiau afrifed rhwng coch-wyrdd y
gwair addfed a glas-wyrdd yr egin yd. Yr oedd llawer o'r gwair wedi
ei gynhauafa oddiar rosydd y Ffridd a Rhyd yr Eirin, a'r syndod i mi
oedd sut yr oeddynt wedi medru lladd y byrwellt rhwng y twmpathau
caregog, os nad a siswrn. Ac yr oedd arogl y mynydd yn dod i'n
cyfarfod dros y caeau cneifiedig, arogl crawcwellt a grug.

Wedi croesi'r gefnen hon eto, daethom i olwg y Cwm Bychan, ac wele
wlad Edmwnd Prys o'n blaenau. Natur yn ei pherffeithrwydd sydd yno,
ni welir ond ychydig o ol llaw dyn arni, ac y mae'n sicr fod yr olwg
a gawn ar y Cwm Bychan yn union yr un fath a'r olwg gai Edmwnd Prys
arni wrth gyfieithu'r Salmau, dair canrif yn ol.

Gyda'n bod yng ngolwg y cwm, gwelem fynyddoedd yn codi'n sydyn o'n
blaenau, a golwg ddu fygythiol arnynt. Pan welais y cwm gyntaf, nid
fel cyfieithydd y Beibl y daeth Edmwnd Prys i'm meddwl, ond fel y
swynwr fu'n ymryson a Huw Llwyd Cynfel. Ond buan y cynefinodd fy
llygaid a'r mynyddoedd geirwon serth, a gwelais y llyn tawel sy'n
gorwedd wrth eu traed. Yr oedd rhes o goed rhyngom ag ef, a gwelem
ei ddyfroedd gleision tawel rhwng y canghennau. Y tu hwnt i'w gwr
uchaf gwelem gaeau llechweddog a rhai gwastad. Y tu hwnt iddynt yr
oedd y mynyddoedd o hyd; yr oedd niwl ar ben Carreg y Saeth a'r
Rhinog Fawr, ac nis gallem weled pa mor uchel oeddynt.

Ond ymhle mae'r Gerddi Bluog?

Yn union odditanom, yr ochr yma i'r cwm. Byddwn yno mewn ychydig
funudau. Dechreuasom ddisgyn hyd y llwybr serth, drwy gaeau
bychain, llawn o goed gwern ac eithin a grug. Ac hyd ochr y nant
gwelem y feidiog las a lliaws o flodau nad oedd gennym ni enwau
arnynt. Yr oedd yno un math o goed bychain oeddym yn adnabod yn
dda, sef coed llus.

O'r diwedd cyrhaeddasom y gwaelod, ac aethom drwy lidiart fechan
mewn mur o gerrig geirwon. Ac wele'r Gerddi Bluog o'n blaen. Wrth
ei gefn yr oedd llond y nant o goed, a ffrwd gref yn rhedeg yn wyllt
ar hyd y graig a'r graian odditanynt. Ar lan y ffrwd hon gwelem yr
adeiladau,--yr helm drol a'r beudai a'r cutiau moch,--ac ymhellach
draw na hwynt gwelem y ty. Y ddau gar mawn wrth gefn yr helm, y
cunogau llaeth yn sychu ar y graig, y buarth glan, y coed cysgodol,
yr olwg glyd a threfnus,--y mae'r Gerddi Bluog yn debyg iawn i lawer
hendre Gymreig. Ond yr oedd y pinwydd yn taflu rhyw wawr henafol a
dieithr ar y lle. Wrth i ni ddod i lawr ochrau'r buarth, yr oedd
arogl chwilys yr eithin a chamomeil yn perarogli'r awel, ac yr oedd
cymylau gwynion yr haf yn ymlid eu gilydd uwch ein pennau dros y
cwm.

Croesasom yr afonig, a dechreuasom chwilio am enwau maswniaid ar hen
furiau'r beudai. Ar garreg las fechan wrth ffenestr dalcen un beudy
gwelsom hyn, -

Morgan Prys
HYDREF: 31
1728: W. H.
Pen.: Saur

O'r adeiladau daethom at y ty, a gwelsom yr enw M. P. a'r dyddiad
1667 ar ran cydmarol newydd o hono. Yr oedd ei gefn atom, a
throisom am ei gornel i gael golwg ar ei wyneb. Cawsom olwg hen a
phatriarchaidd iawn arno. Gwelais ar unwaith mai o'r drws acw ac ar
hyd y palmant hwn y doi arch-ddiacon Meirionnydd pan ar ganol rhoi'r
salmau mewn Cymraeg mor felodaidd. Lle tawel a chlyd ac unig yw. Y
mae'r ty a'i dalcen i fryn caregog serth. Ar ben y banc y mae mur,
a'r goesgoch yn tyfu gyda'i waelod, a choeden onnen yn gwyro uwch ei
ben. Pan droisom am y gornel, yr oedd y mur a'r bryn yn union o'n
blaenau. Ar y chwith yr oedd gwyneb y ty. Yr oedd y drws yn isel,-
-yn debycach i ddrws y dewin nag i ddrws arch ddiacon,--ac yn hen
iawn; yn amser ymosodiadau ar dai y cynlluniwyd drysau felly. Yn
wyneb hir y ty yr oedd un ffenestr; ac un arall wedi ei chau yn
amser y dreth ar ffenestri. Ar gyfer y ty, ac yn gwynebu ato, yr
oedd hen dy hyn fyth, wedi ei droi yn dy mawn. Rhwng y ddau yr oedd
llawr o graig neu o balmant, oddigerth lle tyfai blodau cochion mawr
o flaen y ty mawn. Safasom ger drws y ty i weled pa olygfa geir o
hono. Yr oedd pinwydd duon yn ymyl, ac yr oedd awel ysgafn yn
gwneyd iddynt ysgwyd yn araf, fel hen wragedd y seiat dan awelon o
Seion, fel pe buasent yn clywed swn y Salmau byth. Rhwng y pinwydd
hyn gwelem fynyddoedd ardderchog,--fel y mil o fynyddoedd y sonia'r
Beibl am danynt.

Ond yr oedd yn bryd troi i'r ty. Yr oedd y gwr wedi dod allan
atom,--gwr caredig prysur,--a rhaid i ffarmwr fod yn brysur iawn i
fyw yn y dyddiau hyn, pan y mae prisiau pob peth mor isel. Aethom i
mewn dan y garreg fawr sy'n gapan i'r drws. Yr oedd cyntedd hir o'n
blaenau, yn mynd ar draws y ty i gyd. Ar ein de yr oedd palis pren,
a drws tua'i ganol. Troisom trwy'r drws hwnnw i gegin eang, gyda
nenfwd isel hen ffasiwn. Yr oedd y llawr yn lan, fel yr aur, ac yr
oedd golwg clyd ryfeddol ar y gegin. Draw ar ein cyfer yr oedd y
simneu fawr hen ffasiwn, a'r tan mawn, a'r crochanau.

Yr oedd plismon yn y ty, yn nillad ei swydd. Nid am fod drwg-
weithredwyr yng Ngerddi Bluog yr oedd wedi dod, ond oddiar ysfa
lenyddol. Y mae aml blismon yng Nghymru'n llenor; ac yr oedd hwn yn
dod o gyffiniau llenyddol Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Y tu ol iddo,
gan sythed ag yntau, gwelwn gloc enwog Edmwnd Prys. Cas hir, o
onnen, debygwn, yw cas y cloc. Nid yw'n mynd,--nid oes o hono ond
pen a chas. Ni fynnwn daflu angrediniaeth ar hen draddodiad, yn
enwedig pan fo Glasynys wedi ei wneyd yn destyn can; ond paham na
fuasai'r "Morgan Price of Gerthi Blyog," dorrodd ei enw arno yn
1734, yn torri ei enw ar rywbeth heblaw'r hen gloc.

Mam yn Israel oedd gwraig Gerddi Bluog, gallaswn feddwl. Gadawodd i
ni weld yr holl dy, a mynd i'r llofft i weled pren gwely Edmwnd
Prys. Aethom i fyny hyd risiau derw troellog, nes dod i'r llofft
lle mae'r gwely. Beth bynnag am y cloc, nis gall fod amheuaeth am y
gwely. Gall ei dderw du treuliedig fod yn llawer hyn nag Edmwnd
Prys, er feallai fod y pyst wedi eu torri yn ei amser ef neu wedyn.
Uwch ben lle'r gobennydd y mae'r pren wedi ei rannu'n banelau ac y
mae ysgrifen o gwmpas y panel canol rhywbeth yn debyg i hyn,--E. P.,
1592. O'm rhan fy hun, gwell gen i na dim yw edrych ar y golygfeydd
y bu rhai enwog ein gwlad yn edrych arnynt. Ond, er hynny, yr oedd
rhyw foddhad imi deimlo fy mod wedi gweld y gwely y bu Edmwnd Prys
yn cysgu ynddo, a'r cloc allasai fod wedi tipian llawer cyn i Forgan
Price dorri'r ffigyrau 1734 arno. Ond fy awydd oedd crwydro o
gwmpas y Gerddi Bluog.

Yr oedd y diwrnod haf yn ddiwrnod tlws. Penderfynasom dynnu i
fynu'r mynyddoedd yr ochr arall i'r Cwm Bychan, i weled y grisiau
wnaeth y Rhufeiniaid, ac i gael golwg ar gartref a gwlad Edmwnd
Prys. Gwrthodasom fwyd, heblaw llefrith i'w gofio; gan addaw dod yn
ol at de.

Cychwynasom i lawr tua gwaelod y cwm hyd lwybr troellog, a chawsom
ein hunain mewn gwlad ramantus iawn. Unwaith daethom i hafan
goediog gysgodol, gyda rhedyn tal yn dechreu melynu hyd ei hochrau,
a heulwen wan ar ei brwyn ac ar y dwfr gloewlas araf oedd yn llithro
gyda'i min. Ar ochrau'r meusydd y mae creigiau toredig, fel meini
wedi eu parotoi i deml; ac yr oedd rhyw ddistawrwydd yn teyrnasu
dros yr holl fro gysgodol, fel pe buasai unwaith wedi bod yn lle
prysur a llawn o bobl, ac yn awr wedi adfeilio.

Cyn hir yr oeddym ar lan yr Artro, ffrwd wyllt o ddwfr grisialaidd
yn rhedeg rhwng dolydd gwyrddion. Yr oedd y ffordd yn mynd yn fwy
dyddorol o hyd. Wele'r Graig Ddrwg a Charreg y Saeth o'n blaenau, a
gwelsom raiadr ac aml lecyn rhamantus. Yr oedd y ffordd yn myned ar
hyd min y llyn, ac yr oedd yr olygfa dros y dyfroedd tawel yn un i'w
chofio. Ymgodai Carreg y Saeth yn fawreddog y tu arall i'r dwr. Ar
y de yr oedd llwyni o goed, a bryn yn codi y tu ol iddynt. Ac ar y
chwith yng nghyfeiriad yr amaethdy sydd ym mlaen y Cwm Bychan, yr
oedd hesg rhwng y llyn a'r caeau gwair. Y mae'r amaethdy hwn mewn
lle tarawiadol, a dywedodd fy nghyfaill ystori eithaf cyffrous am
rai o hen deulu'r ty. O amgylch y ty y mae hanner cylch o greigiau,
fel y darlun o greigiau Edom sydd yn fy meddwl crwydrol i. Y mae y
creigiau ar lun muriau anferthol, gwaith maswniaid oesoedd y cewri.
Rhwng y creigiau a'r llyn y mae tir,--rhyw hanner gweirglodd hanner
mawnog; a throsto gwelem y llyn o hyd fel arian crych, a phinwydd
duon yn sefyll fel myfyrdodau y tu hwnt iddo. A thraw, dros y cwbl,
yr oedd y mynyddoedd dan len deneu o niwl.

Gadawsom yr amaethdy o'n holau, a dringasom i fyny gyda chlawdd
mynydd. Buom yn teithio yn hir drwy hafan goediog; ond o'r diwedd
daethom i'r mynydd agored, a daeth awel hyfryd dros y graig i'n
cyfarfod. Yr oeddwn wedi clywed llawer am y grisiau Rhufeinig yn
Ardudwy, ac yr oeddwn wedi meddwl mai rhyw ris neu ddwy oedd yno
wedi eu naddu mewn craig. A mawr oedd fy syndod wrth weled llwybr o
gannoedd, os nad miloedd, o risiau yn arwain i fyny i'r mynydd.
Anhawdd iawn, hyd yn ced i'r ieuanc a'r brwdfrydig, fuasai dringo'r
mynydd heb y grisiau; ond yr oeddym yn myned i fyny ar hyd-ddynt mor
hawdd ag ar hyd llwybr gardd. Anaml y bum mor hapus wrth gerdded
unrhyw lwybr ag wrth gerdded y llwybr Rhufeinig yn Ardudwy. Yr oedd
yr awel yn adfywiol a thyner, yr oedd murmur y neint yn felodaidd,
yr oedd y blodau'n orlawn o fywyd, ac yr oedd tawelwch distaw dwys y
mynyddoedd yn adfywiol iawn. Yr oedd y dwfr mor risialaidd, y
lliwiau mor danbaid, a'r hin mor heulog, fel mai prin y medrwn
goelio fy mod yng Nghymru. Wrth weled y llwybr Rhufeinig, tybiwn er
fy ngwaethaf fy mod ar lethrau'r Apeninau Disgynnai'r afonig fechan
i'n cyfarfod, o graig i graig, gan fynd yn llai o hyd. Weithiau
gwelem fedwen yn crymu uwch ben pistyll gwyn; dro arall gwelem y
grug blodeuog wedi ymestyn dros y llwybr. Synnwn paham na threuliwn
fy oes ar y mynydd, a daeth i'm meddwl mor ynfyd oeddwn pan oeddwn
yn treulio fy oes ar yr iseldiroedd. Toc darfyddodd yr arber, a
daethom at ffynnon loew ymysg cerrig mawr. Ond nid oeddym eto ar
ben y mynydd. Yr oedd ochrau'r mynydd, erbyn hyn, wedi cau at ei
gilydd, yn furiau o gerrig enfawr.

Yr oeddym wedi edifarhau am wrthod bwyd yn y Gerddi Bluog. Er
llawenydd i ni, yr oedd coed llus bob ochr i'r grisiau, ymron ar ben
y mynydd. Cawsom wledd arnynt, cyn dringo i ben y golwg. Ac o'r
diwedd, wele ni ar ben y fynedfa; a gwelem lwybr hir yn dirwyn i
lawr i wastadedd Traws Fynydd. Clywem yr afon yn murmur yn ddedwydd
i lawr yn y gwaelod. Ond tybiwn i mai ar ben mynydd yn unig y mae
dedwyddwch.

Edrychasom yn ol ar y llwybr gerddasem. Gwelsom fod y niwl yn
prysur godi o'n holau. Gwelem greigiau duon ysgythrog, fel tyrau
dinasoedd llosg yn codi o hono; ac yr oedd y niwl yn torri'n ddarnau
wrth daro yn erbyn y creigiau hyn. Ac yr oedd y grisiau Rhufeinig
yn arwain i lawr i'r niwl. Nid peth hawdd oedd colli golwg ar Draws
Fynydd, a chychwyn i lawr hyd y grisiau drachefn. Cofiwn, wrth
fyned i lawr ar hyd-ddynt, eu bod yno cyn i'r efengylydd cyntaf ddod
i'r wlad, a pheth hen iawn i deimlad Cymro yw peth hyn na'r efengyl.

Ni fedr dyn fyw ar lus yn unig. Mwyn oedd am y gwahoddiad hwnnw i'r
Gerddi Bluog. Yr oeddym yn newynog,--yr oedd awel y mynydd wedi
dwyn awydd am fwyd wrth roi terfyn ar ein lludded,--ond nid oedd y
ffordd brydferth yn rhy hir gennym, hyd yn oed wrth ei cherdded yn
ol.

Heibio'r llyn drachefn a thrwy'r hafan unig cyrhaeddasom y Gerddi
Bluog yn ol. Yr oedd y wraig garedig wedi ein gweled yn dod.
Arweiniwyd ni ar unwaith ar hyd y cyntedd hir hwnnw, ac i'r parlwr
yn aden y ty. Cawsom de heb ei fath; nid wyf yn meddwl fod cystal
hufen yn unlle, na chystal caws. Un o'r Bedyddwyr Albanaidd, hen
ddiadell y gwr rhyfedd o Ramoth, oedd y wraig. Holais lawer arni,
oherwydd y mae llawer rhamant am John Jones o Ramoth. Cynnil iawn
oedd ei hatebion, a distawach na llawer gwraig glywais yn adrodd
hanes. Pan ofynnais iddi am wisgoedd pobl ei chapel, ni chefais yn
ateb ond gwirionedd cyffredinol am ddynol ryw,--"Mae pawb gen
grandied ag y medra nhw yrwan," ac yr oedd y symledd a'r
caredigrwydd sydd yn nodweddu'r seiat fechan yn amlwg yn y ty hwn.
Tawel, dirodres, a mwyn iawn y cawsom ni wraig un o'r Bedyddwyr
Albanaidd yn y Gerddi Bluog. Hyfryd oedd meddwl wrth ymadael, fod
hen gartref Edmwnd Prys yn un o gartrefi croesawgar Cymru hyd
heddyw.

Dringasom ochr y mynydd, gan droi'n ol yn aml i edrych ar wlad
Edmwnd Prys, a buan y cyrhaeddasom y ffordd Rufeinig hir sy'n mynd
fel saeth hyd y grimell. Yr oedd nant yn cydddod a ni i lawr, gan
ddawnsio a gwenu. Daethom i olwg y mor, a gwelem gastell Harlech yn
ddu rhyngom a'r traeth melyn, fel angel coll yn crwydo ar ororau'r
nefoedd. Codai cymylau melyn eurog i'r nen, yr oedd lliwiau
bendigedig ar y tywod a'r ewyn mor. Nid oedd y castell ond megys
corach du bach ym mhresen-oldeb y mynyddoedd a'r mor. Yr oedd y
prydnawn yn darfod, ac yr oedd niwl a chysgodion yn dechreu ymdaenu
dros yr Eifl a Moel y Gest a'r Wyddfa. A dyna ddiwedd fy nhaith
innau i gartref Edmwnd Prys.



PANT Y CELYN



"Ym mhle MAE Pant y Celyn?" ebe athraw yn un o golegau'r
Methodistiaid Calfinaidd wrthyf unwaith. Yr oedd ton gwerylgar yn
ei gwestiwn, oherwydd ei fod yn gorfod gofyn peth oedd yn dangos
cymaint o anwybodaeth. Nid oeddwn yn ddigon rhagrithiol i ddweyd fy
mod yn synnu at ei anwybodaeth, oherwydd ni wyddwn fy hun, cyn mynd
yno, ymha un o bedair neu bum sir yr oedd Pant y Celyn. Er hynny
nid oes odid aelwyd yng Nghymru nad ydyw Pant y Celyn yn air
teuluaidd arni.

Ryw ddiwrnod yn yr haf diweddaf yr oeddwn yn teithio o fynydd-
diroedd Llanwrtyd drosodd i ddyffryn Tywi, ac i lawr ar hyd y
dyffryn enwog hwnnw. Wedi rhediad chwyrn i lawr hyd ochrau'r
mynyddoedd, daethum i Lanymddyfri gyda'r nos. Ni welwn fawr o dref
na dim, o'r orsaf; a throais i'r gwesty cyntaf gefais. Yr oedd yno
dan braf,--yr oedd yr hin yn oer a gwlawog, er mai haf oedd. Yr
oedd yno fwyd da ac iachus mewn ystafell lan hefyd. Fel rheol, pur
anghysurus ydyw lletydai Cymru o'u cydmaru a lletydai gwledydd
ereill, yn enwedig tai dirwest. Gadewir y ffenestri yng nghauad
ddydd a nos, nes y bo arogl anhyfryd ar yr ystafelloedd ac ar y
dodrefn; gadewir llwch i hen gartrefu ar bob astell ac ym mhob
cornel; a bydd rhigolau duon, digon i ladd archwaeth y cryfaf, ar y
cream-jug o wydr tawdd. Ond, yn y gwesty hwnnw ger gorsaf
Llanymddyfri, yr oedd popeth gen laned a'r aur; yr oedd ol dwfr
grisialaidd ar bob peth. Yr oedd y llian gwyn fel yr eira, yr oedd
y siwgr fel pe'n disgleirio yn y llestr gwydr mawr, taflai'r tan
oleuni rhuddgoch ar gwpanau glan fel y cwrel. Yr oedd y bara can,
yr ymenyn, a'r caws yn flasus, yr oedd yr hufen yn felyn dew, yn
ddigon tew, chwedl Kilsby, i geiniog nofio ar ei wyneb yn ddi-
brofedigaeth. Ac am y te, wel, te oedd; nid y drwyth roddir o'm
blaen yn aml, trwyth nas gwn ar ddaear wrth ei hyfed beth sydd yn yr
tepot gyda'r dwr,--pa un ai ffa'r corsydd ai dail carn yr ebol ai
sug tybaco.

Wedi dadluddedu o flaen y tan, bum yn darllen gweithiau S. R. oedd
yn yr ystafell. Ymgollais yn y rhai hynny hyd nes y daeth gwr y
gwesty i ddweyd fod y tan bron a mynd allan. Cefais hanes y wlad
ganddo, yn grefyddol a gwleidyddol yn bennaf, o safle Bedyddiwr
Arminaidd. Cefais bob manylrwydd hefyd am y ffordd oreu i gyrraedd
Pant y Celyn. Yr oedd pobl fonheddig o Saeson yn aros yn yr un ty,
a thybiwn unwaith, gan eu bod hwythau'n mynd i'r un cyfeiriad, y
medrem gyd-logi cerbyd. Ond, erbyn cael ymgom, trwy wr y ty, nid
oeddynt hwy wedi clywed gair erioed am Williams Pant y Celyn. Yr
oeddynt wedi clywed llawer o son am Dwm Sion Cati, ac i chwilio am
ei ogof ef yr oeddynt yn mynd. Pe buasai Twm Sion Cati yn ei ogof,
os gwir pob stori, ni fuasai'r brodyr hyn mor awyddus am fynd yn
agos ati.

Bore drannoeth, nid cyn i fwyafrif pobl Llanymddyfri godi, yr oedd
cerbyd wrth ddrws y gwesty, a gyrrwr ynddo, yn barod i'm cludo tua
Phant y Celyn. Nid oedd y gyrrwr yn un siaradus; yn wir, pur anodd
oedd cael ystori o hono. Rhoddodd ei ddistawrwydd fwy o hamdden i
minnau edrych o'm cwmpas, a meddwl am emyn ar ol emyn ddoi i'm cof
wrth deithio ymlaen hyd gynefin ffyrdd y per ganiedydd. Rhedodd y
merlyn, a'i fwng yn yr awel, hyd y ffordd o'r orsaf i'r dref, heibio
i ysgol Llanymddyfri. Yna trodd am y gornel tua'r gogledd; gan fynd
yn chwyrn trwy'r brif ystryd. Gadawsom gapel prydferth ar y chwith,
capel coffadwriaethol Williams Pant y Celyn,--capel Saesneg
ysywaeth. Ymhen tipyn, wrth fynd o'r dref i'r wlad agored, yr
oeddym yn pasio adeilad arall. Ar y dde yr oedd hwn, ac yr oedd
golwg urddasol arno, er gwaethaf ei henaint a'i dlodi. Gofynnais
i'r gyrrwr a'i hwnnw oedd ty'r Ficer, a dywedodd yntau mai ie.

Dol werdd lydan a Llanfair ar y bryn i'w weld drosti,--dyna welsom
gyntaf wedi gadael y dref. Gwyddwn mai yn y Llanfair hwnnw y
claddwyd Williams. Collodd Llanfair ar y bryn o'n golwg, a
dilynasom ffordd wastad hyfryd gydag ymyl y ddol a than gysgod bryn
creigiog. Daethom i gwm cul, lle'r oedd yr afon wedi torri ffordd
iddi ei hun i adael y mynyddoedd. Dyma ddol wastad eto, a choed o
bobtu iddi, lle hyfryd ddigon. Dacw fynydd yn codi o'n blaenau;
daeth awydd canu drosom, -


"Ar ddisgwylfa uchel gribog
Disgwyl 'rwyf er's hir brydnawn,
Edrych am yr hindda hyfryd
'Nol cawodydd geirwon iawn,
Ac i'm hysbryd,
Trwy'r cymylau, weld y wlad."


Hyd yn hyn yr oedd wedi bod yn bwrw gwlithlaw, ac yr oedd y wlad dan
niwl llwydlas. Fel yr oeddym yn agoshau at y mynydd hwnnw, daeth
awel o'r de, a dechreuodd y niwl dorri a chilio. Llawer gwaith y
gwelodd yr emynnwr awyr las drwy'r cymylau ar y ffordd hon, a llawer
gwaith yr hiraethodd am dani, -


"Pa bryd caf deimlo'r awel gref
Sy'n chwythu i ffwrdd gymylau'r nef,
I mi gael gweled Salem bur?
Gogoniant ddwyfol uwch y rhod
Nas gwelodd llygaid dyn erioed,
Ac nas mwynheir mewn anial dir."


Dyma'r ffordd yn troi i'r ochr arall i'r dyffryn; dacw'r afon yn
troelli, ol a gwrthol, fel pechadur yn yr yrfa trwy'r anialwch. Ond
y mae swn dedwydd yn ei dwndwr, wrth adael ei gyrfa wyllt yn y
bryniau a dechreu llifo'n esmwyth gydag ymyl y ddol, -


"Mi deithiais ran o'r anial maith,
'Dwy'n deall pellder pen fy nhaith,
Mewn gwledydd sychion, dwr nid oedd;
Yn awr rwy'n disgwyl, fore a nawn,
O'r nefoedd ddwr a sypiau grawn,
Wna'm henaid egwan wrth ei fodd."


Dacw'r ffordd yn rhedeg yn syth yng nghyfeiriad y mynydd unig hwnnw.
Ni wyddem beth oedd y bryn yn guddio,--dyffrynnoedd, gwlad wastad,
ynte mynyddoedd uwch. Dyma drofa yn y ffordd, o honi gwelem draw,
heibio'r mynydd, fynyddoedd ereill, uwch o lawer, heb rif, -


"Er c'uwch y bryniau uchel fry,
A swn tymhestloedd tywyll, du.
A'r holl freuddwydion ofnau sy,
Anturiaf eto 'mlaen;
Mae nerth y nefoedd fry yn fwy
Na myrdd o'u dychryniadau hwy;
Mae haeddiant dwyfol farwol glwy
Yndrech na dwr a than."


Gydag inni gael golwg ar y wlad y tu hwnt i'r mynydd, cauodd
gorchudd o wlaw am dani. Dechreuodd y gwlaw yrru dros y
dyffrynnoedd, ac yr oedd y gwynt yn dolefain wrth ysgubo dros fryn a
phant. Pe buaswn yn hollol ddieithr i'r wlad, tybiaswn mai dros ryw
wastadedd mynyddig, heb ddim ond pyllau mawn a chrawcwellt ac ambell
ddafad esgymun, yr oer anadlai'r awel. Ond yr oeddwn wedi cael
golwg ogoneddus ar y wlad dan haul nawn y dydd cynt; a gwyddwn,
oddiwrth emynnau Williams, fod ei gartref mewn gwlad brydferth, -


"Dyma'r man dymunwn drigo,
Wrth afonydd gloewon, llawn,
Syddyn llifo o ddwr y bywyd
O las foreu hyd brydnawn,
Lle cawn yfed
Hyfryd gariad fyth a hedd."


Oddiwrth olygfeydd yr ardal hon y cafodd Williams ei liwiau i
ddarlunio gwlad yr hedd, -

"Mi welaf draw, o bell,
Baradwys hardd ei gwedd,
A phrennau llawer gwell
Yn perarogli hedd;
O hyfryd wlad, tu draw pob gwae,
Gwyn fyd gawn heddyw dy fwynhau."


Ond y mae'r gwynt yn dolefain, a'i swn fel swn cornchwiglen, ond ei
fod yn fwy parhaus ac yn fwy lleddf. Daethom at le yr oedd yr afon
a'r ffordd yn ymrannu'n ddwy. Troisom ni ar y chwith i lawr ffordd
serth, a gwelem ffordd union o'n blaenau, a bryn uchel, a chlawdd ar
ei draws, fel cadwen wedi ei thaflu drosto. Ond ychydig ymlaen
fedrem weld, gan y niwl a'r gwlaw. Mynych ddymuniad oedd am i'r
niwl godi, ac am gael gweled gogoniant y wlad, -


"Rwyf yn dechreu teimlo eisoes
Beraroglau'r gwledydd draw
Gyda'r awel bur yn hedeg,
Diau fod y wlad ger llaw,
Tyrd, y tir dymunol hyfryd,
Tyrd, yr ardal sydd heb drai.
Dy bleserau o bob rhywiau,
Gad im bellach eu mwynhau."


A chyn bo hir daeth awel eilwaith o'r de, ysgafnhaodd yr awyr, a
gwelem rimin glas o fynyddoedd pell o'n blaen. Yr oedd y ffordd
erbyn hyn yn debycach i ffordd dre ddegwm nag i brif-ffordd, yn
dirwyn i fyny hyd ochr bryn serth. Wrth i ni godi i fyny, yr oedd
yr olygfa'n ehangu o hyd, gan roddi teimladau hyfryd i ninnau, a
gwneyd inni feddwl ein bod yn gadael gwlaw a'r gelltydd serth ar ein
hol -


"Rwyf yn teimlo gwynt y deheu,
Yn anadlu awel bur,
Ac yn ysgafn gario f'enaid
Draw i fryniau Canan dir;
Aeth y gauaf garw heibio,
Darfu'r oer dymhestlog wynt;
Na ddoed mwy'r cawodydd duon
I fy mlino i megys cynt."


O'r diwedd daethom i ben yr allt, a chawsom olwg ogoneddus ar y
bryniau dan orchudd ysgafn tyner o niwl. Llawer gwaith y bu
Williams yn syllu arnynt oddiar y ffordd hon, ac nid rhyfedd fod ei
emynnau gore mor llawn o honynt.


"Rwyf yn gweled bryniau uchel
Gwaredigaeth werthfawr lawn,
O na chawn i eu meddiannu
Cyn machludo haul brydnawn;
Dyma'm llef tua'r nef,
Addfwyn Iesu, gwrando ef."


Llawer gwaith, wedi taith flinderus, y bu Williams yn edrych tua
bryniau ei gartref oddiar y ffordd uchel hon, ac ar yr eangder o
fynyddoedd welem y tu hwnt iddynt, -


"Rhwng cymylau duon, tywyll,
Gwelaf draw yr hyfryd wlad;
Mae fy ffydd yn llefain allan, -
'Dacw o'r diwedd dy fy Nhad.
Digon, digon!
Mi anghofia'm gwae a'm poen."


Ond nid ydym eto ym Mhant y Celyn, er ein bod yng ngolwg y wlad.
Rhed y cerbyd yn chwyrn i lawr y bryn, a dyma ni mewn dyffryn cauad
coediog, gyda chapel bychan uwch ben y nant. Capel Anibynwyr Pentre
Tygwyn ydyw, ac y mae'r dyddiad 1719 arno. Ni chefais fawr o amser
i edrych arno, ond yr wyf yn cofio gweled bedd Daniel Howells o
Lanymddyfri, fu'n pregethu am bymtheng mlynedd a deugain.

Wedi gadael y pentre bychan hwn, yr oedd rhiw serth o'n blaen; ac
erbyn i mi ddod o fynwent y capel, gwelwn y cerbyd tua hanner y
ffordd i fyny'r rhiw, a'r ceffyl yn gorfod ei dynnu o ochr i ochr,
er mwyn lladd yr allt rywsut. Deuai un o emynnau Williams i'm cof
innau o hyd, -


"Wel, f'enaid, dos ymlaen,
'Dyw'r bryniau sydd gerllaw
Un gronyn uwch, un gronyn mwy,
Na hwy a gwrddaist draw;
Dy angrhediniaeth gaeth,
A'th ofnau maith eu rhi,
Sy'n peri it' feddwl rhwystrau ddaw
Yn fwy na rhwystrau fu."


Ond dyma fi wedi dal y cerbyd, ac ar ben y rhiw. O'n blaen, o
bobtu'r ffordd, yr oedd caeau gweiriog, ac awel esmwyth aroglus yn
anadlu drostynt. Troisom trwy lidiart ar y dde, a dilynasom ffordd
oedd yn croesi'r cae gwair i gyfeiriad yr afon. Toc daeth yr afon
i'r golwg, a gwelsom ei bod yn rhedeg gyda godrau'r cae. Wrth i ni
droi gyda'r ffordd gwelem lwyn o goed o'n blaen, yr oedd coed hefyd
yn nyffryn yr afon, a throstynt oll gwelem y mynydd yn dawel a
thlws. Lle hyfryd, pell o dwrf y byd, ydyw Pant y Celyn, -


"Dyma'r man dymunwn aros
O fewn pabell bur fy Nuw,
Uwch terfysgoedd ysbryd euog,
A themtasiwn o bob rhyw;
Dan awelon
Peraidd hyfryd tir fy ngwlad."


Cerddais ymlaen tua'r ty, nid ydyw yn y golwg tan ddeuir i'w ymyl.
Wedi mynd i mewn i'r buarth, gwelwn o'm blaeu dy newydd, gydag un
talcen i'r llechwedd a'r llall at yr afon. Rhyngddo a'r afon yr
oedd glyn bychan swynol, llawn o goed. Yn union o'i flaen, i dorri
grym y gwynt ac i gadw pethau, yr oedd hen dy to brwyn. Teimlwn, er
nad oedd dim yn darawiadol iawn yn y ty, fod y fangre'n un hyfryd a
tharawiadol iawn. Eis ymlaen at y ty, cnociais, a daeth geneth
lygat-ddu, rhyw bedair ar bymtheg oed, i'r drws. Yr oeddwn wedi
gweled y darlun o Williams sydd yn llyfrgell Abertawe, a theimlwn
fod yn rhaid fod yr eneth hon yn perthyn iddo.

"Dyn dieithr o'r Gogledd ydwyf," ebe fi, "wedi dod i weld Pant y
Celyn."

"Chwi gewch ei weld, a chroeso. Dowch mewn. Mae'n resyn eich bod
yn cael diwrnod mor wlawog."

Arweiniwyd fi i mewn, a gwelais fod lletygarwch Cymreig o'r iawn ryw
ym Mhant y Celyn. Nid oeddynt wedi'm gweled i erioed o'r blaen, ac
ni wyddent a welent fi byth wedyn. Ond mynnent gael gwneyd te i mi;
a phan wrthodais, daethant a glasiad o lefrith oedd yn gwneyd i mi
sylweddoli dymunoldeb "gwlad yn llifeirio o laeth a mel."
Arweiniwyd fi i ystafell Williams, ystafell isel dan drawstiau mawr.
Yr oedd cader Williams yno, yn yr hon yr ysgrifennodd ei hanes
ysbrydol mewn cynifer o ddulliau. Cynhygiwyd i mi eistedd yn y
gader, ond yr oedd rhyw hanner ofn yn rhwystro i mi wneyd hynny. Yr
oedd IHS,--Iesus hominum Salvator, Iesu Gwaredwr dynion,--ar
galchiad y nenfwd yn yr ystafell fechan unwaith. Trwy'r ffenestr yr
oedd llecyn gwyrdd bychan i'w weled, a'r ty to brwyn dros ei ben.
Ar ben y grisiau, gwelais gloc Williams, gyda gwyneb o bres gloew, a
thic trwm marw. Yr oedd yr hen gloc a'r hen gader yn dwyn i'm
meddwl lafur ei oes ryfedd. Hwyrach fod llawer o'r Diwygwyr yn
bregethwyr mwy nerthol na Williams Pant y Celyn. Ond ni weithiodd
yr un o honynt yn galetach, ac ni fydd dylanwad yr un o honynt mor
barhaol a'i ddylanwad ef. Efe, trwy ei emynnau, sydd wedi gwneyd y
Diwygiad yn rhan o fywyd Cymru, ac wedi gwneyd iddo esgor ar
ddeffroad cenedl,--deffro i feddwl ac i fyw. Fel cydoeswyr
Shakespeare yn Lloegr, nid edrychai cydoeswyr Williams Pant y Celyn
arno fel y bardd na'r meddyliwr mwyaf yn eu mysg. Barnent ei
emynnau gan gofio am anhawsderau cynghaneddu,--gwaith, o fawr ofal
Rhagluniaeth am ddyfodol Cymru, na cheisiodd efe ei wneyd. Yr oedd
mwy o ramadeg yn emynnau Thomas Jones o Ddinbych a mwy o gynghanedd
yn emynnau'r gwr rhyfedd athrylithgar o Ramoth, ond Williams ydyw'r
per ganiedydd er hynny. Clywais fod Dr. Edwards wedi chwilio am un
i ysgrifennu erthyglau ar hymnau Pant y Celyn, a'i fod wedi gofyn i
Eben Fardd ymgymeryd a'r gwaith. Safodd Eben Fardd uwch eu pennau
fel gramadegydd. Gwrthododd Dr. Edwards ei feirniadaeth, a
gofynnodd i Wilym Hiraethog sefyll uwch eu pennau fel bardd.
Clywais ddweyd fod Williams wedi ysgrifennu gormod, ac y buasai'n
well iddo fod wedi aros mwy uwchben ei linellau, i'w gloewi gogyfer
a'r beirniad gor-fanwl byr ei lathen ddeuai gyda'r oes wannach oedd
yn dod ar ei ol. Dyna ddywedir hefyd am Wordsworth, dyna ddywedir
am Geiriog,--ac y mae'n dangos mor ddiwylliedig ac mor fas ydyw tir
meddwl y rhai a'i dywed.

Ond dyma wr ty Pant y Celyn. Diacon gyda'r Anibynwyr ydyw, ac un
diddan iawn ei ystori. Gwyddai hanes John Penri'n dda, ac yr oedd
yn cofio'r Siartwyr yn y De. Ond, rhag ofn i mi feddwl ei fod yn
rhyw eithafol iawn, dywedodd, gyda gwen chwareus yn ei lygaid, ei
fod yn talu'r degwm fel yr oen.

Yr oedd hen gloc Pant y Celyn, gyda'i dipiadau trymion, yn mynd mynd
ar ben y grisiau, a gorfod i minnau ymadael heb gael holi ond
ychydig iawn. Ond dymunol i mi oedd teimlo fod teulu'r emynnwr ym
Mhant y Celyn o hyd.

Wrth sefyll ger Pant y Celyn, teimlwn fy mod yn cael esboniad ar
lawer emyn. Ar y llecyn hwn bu Williams, lawer tro, yn teimlo awel
y deheu, fel y teimlaf finnau hi'n awr, ac yn ei chroesawu, -


"Deuwch yr awelon hyfryd,
Deuwch dros y bryniau pell,
Dan eich aden dawel, rasol,
Dygwch y newyddion gwell;
Dygwch newydd at fy enaid, -
Fy enaid innau yno gaed,
Dedwydd enw'n argraffedig
Yn yr iachawdwriaeth rad."


Yma y bu'n disgwyl am y gwanwyn, ac am yr awel dyner o'r de, -


"Na'd i'r gwyntoedd cryf dychrynllyd
Gwyntoedd cryf y gogledd draw,
Ddwyn i'm hysbryd gwan trafferthus
Ofnau am ryw ddrygau ddaw;
Tro'r awelon
Oera'u rhyw yn nefol hin."


Yma y gwelodd y wawr, lawer diwrnod hyfryd, yn torri ar y mynyddoedd
draw, wedi noswaith o golli cysgu wrth ofni am ei ffydd, -


"Draw mi wela'r nos yn darfod,
Draw mi welaf oleu'r dydd,
Yn disgleirio dros y bryniau,
Melus yn y man a fydd;
Ffy gelynion pan ddel goleu,
Ni all pechod, er ei rym,
A'i holl wreiddiau yn fy natur.
Sefyll haul cyfiawnder ddim."


O'r llecyn hwn y bu'n gweld y caeau'n tyfu, a'r blodau'n lledu eu
hwynebau i oleuni cynnes yr haul. Dacw'r llygad dydd ar y weirglodd
brydferth, a'r glaswenwyn, a mantell fair, a'r ben-galed, a chynffon
y gath,--ond


"Ofer imi weld y ddaear
Yn egino'i hegin grawn,
Ofer imi weld yr heulwen
Fawr yn estyn ei phrydnawn,
Ofer imi weld y blodau
Yn datguddio'u dirif liw,
Tra fo neb rhyw un creadur
Yn cysgodi gwedd fy Nuw."


A dacw fynyddoedd yn ymestyn i'r gogledd, i gyffiniau Ystrad Ffin.
Yma y bu'r hen emynnwr, pan na fedrai deithio mwy, yn canu ei emyn
bendigedig ei hun, -


"Rwy'n edrych dros y bryniau pell,
Am danat bob yr awr;
Tyrd, fy anwylyd, mae'n hwyrhau,
A'm haul bron mynd i lawr."


Teimlwn, wrth adael Pant y Celyn, fy mod yn troi'm cefn ar un o
lanerchi mwyaf cysegredig Cymru. Y mae golygfeydd y fro hon wedi
ymddelweddu yn yr emynnau sydd, yn eu tro, wedi rhoddi eu delw ar
feddwl Cymru. Synnwn fod golygfeydd Pant y Celyn mor gartrefol i
mi; yr oeddwn wedi eu gweled yn yr emynnau, bob un. Trwy'r
golygfeydd hyn y cafodd Williams y darluniadau o'r nefoedd sydd,
erbyn hyn, yn rhan o freuddwydion ac o obeithion pob Cymro. Gwened
yr haul arnat byth, ti gartref per ganiedydd Cymru!

Cyn y nos, ail gychwynnais o Lanymddyfri, a dringais i fyny i eglwys
Llanfair ar y bryn. Y mae bedd a chofgolofn Williams wrth ochr Pant
y Celyn i'r eglwys. Y mae golygfa brydferth oddiar ben y bryn hwn,
oddiwrth y bedd, ar y wlad oddiamgylch; ond ofer fuasai dechreu
dweyd hanes y fro hanesiol hon. Y mae'r golofn o wenithfaen
Aberdeen, ac y mae'r argraff sydd arni wedi ei godi oddiar y garreg
las oedd ar fedd Williams o'r blaen.

Cyn i mi adael Llanfair ar y bryn daeth un heulwen hyfryd euraidd ar
yr yw ac ar wlith y beddau; ac yn fuan iawn gwelwn yr eglwys a'i
bedd yn diflannu o'm golwg yn y pellder ac yn y gwlaw.

Darllennais emynnau Pant y Celyn wedi mynd adre gyda mwy o flas nag
erioed. Darllennais hwy droion wedyn, ac yr wyf yn barod i ddweyd
gydag Elfed wrth bob Cymro, -


Dante--dos i'w ddilyn;
Shakespere--tro i'w fyd;
Cofia Bant y Celyn
Yr un pryd.



BRYN TYNORIAD



Yna ganwyd Ieuan Gwynedd--hynaws.
Ynghanol dinodedd;
A'i wylaidd swyn hawliodd sedd
Orielau anfarwoledd.
- GWAENFAB.

Cartref Ieuan Gwynedd,--pa Gymro na theimla ei galon yn cynhesu wrth
feddwl am dano? Yn y cartref tlawd ac anghysbell hwnnw y bu mam
bryderus yn ceisio dysgu ei Hieuan bach bregethu, ac yn agor i'w
feddwl plentynaidd gynnwys rhyfedd ei Beibl Coch,--oedd wedi brynnu
gan Charles o'r Bala ei hun, ac wedi talu am dano bob yn ychydig o'i
henillion prin. Pwy aberthodd fwy dros ei wlad na'r bachgen hwnnw,
pwy welodd ddyfodol Cymru a threm gliriach, pwy ddanghosodd
brydferthwch bywyd ei gwerin mor ddiofn? A wnaeth rhywun fwy mewn
oes mor fer a than gymylau mor dduon? Naddo, neb.

Ar fore hyfryd yn yr haf diweddaf, cefais fy hun yng ngorsaf fechan
y Bont Newydd, rhyw dair milltir o Ddolgellau. Aeth y tren ymaith,
gan adael dim ond meistr yr orsaf a minnau. Ar un ochr yr oedd bryn
coediog, yr ochr arall yr oedd yr afon; a phrin yr oedd digon o le
i'r ffordd fawr a'r ffordd haiarn rhwng yr afon a'r bryn. Ond dros
yr afon yr oedd ychydig o gaeau gwastad, a bryn coediog arall y tu
hwnt iddynt. Y mae'r dyffryn ymysg y culaf o ddyffrynnoedd Cymru.
Ger yr orsaf, dyma bont i groesi afon Wnion. Y mae golygfeydd
swynol i'w gweled oddiar y bont hon,--mynyddoedd uchel gleision i'w
gweled ymhob cyfeiriad dros lwyni o goed, a'r afon risialaidd yn
murmur yn ddedwydd rhwng y bryniau sydd fel pe'n ymdyrru ati i
edrych ar ei thlysni. Gwlad goediog garegog ydyw hon, y mae'n
amlwg, a glynnoedd llawn o ir-gyll a rhedyn.

Ond rhaid peidio aros ar y bont. Dyma ffordd deg, rhwng gwrychoedd
cyll, a rhosynau gwylltion claerwyn fel pe'n gwylio'r teithwyr
anaml. Ar ochrau'r ffordd y mae blodau gwylltion lawer, y llysiau
mel tal aroglus, a gwawr felen ar eu gwynder; clychau'r gog gwelw-
leision, rhyfeddod i blentyn; a'r ben-galed arw, gyda'i thegwch
cartrefol. Ie, ar y ffordd deg hon, ac ymysg y blodau hyn, y
treuliodd y plentyn Ieuan Gwynedd lawer o ddiwrnodau haf ei
blentyndod.

Ond dyma'r Ty Croes yn ymyl. Ydyw, y mae yn union fel y darlunia
Ieuan ef pan yn hiraethu am ei fam a bore oes. Y mae ei dalcen
atom, a'i wyneb gwyngalchog i'r ffordd. Dacw'r dderwen lydanfrig ar
ei gyfer, dacw'r cae porfa o flaen y drws, dacw'r pistyll bach mor
glir a phan gyrchai Catharin Evans ddwfr o hono a phan geisiai Ieuan
Gwynedd gydio ynddo pan yn ddwyflwydd oed. "Cawsant ran y cyffredin
o lafurwyr a man amaethwyr Cymru," ebe Ieuan am ei fam a'i dad. "Ni
buont heb y fuwch yn y beudy, yr ychydig ddefaid yn y Cae Porfa,
na'r pistyll gloew grisialaidd o flaen y drws drwy yr amser." Mewn
ychydig funudau croesir y cwm o fryn i fryn,--ond mor ddyledus ydyw
Cymru i'r fangre fach! Yn y bwthyn hwn y bu'r bachgen yn darllen
ychydig lyfrau ei dad,--Grawn Sypiau Canan, Taith y Pererin, Llyfr y
Tri Aderyn, Ffynhonnau yr Iachawdwriaeth, yr Ysgerbwd Arminaidd,
Bardd Cwsg,--a Beibl Coch ei fam. Dyma'r garreg olchi; oddiar ei
phen y bu'r plentyn yn pregethu i'r dderwen fawr a'r pistyll,--
blaenor ac arweinydd y gan. Ac yn rhywle yn ymyl y mae'r llannerch
lle syrthiodd ar ei liniau dan argyhoeddiad i weddio, llannerch yr
ymwelai a hi bob tro y deuai i edrych am ei fam. Yma y dadblygodd
ei feddwl, dan arweiniad cariadus ei fam; oddiyma yr aeth yn fachgen
ieuanc i ymgodymu a holl gyfyngderau myfyriwr tlawd; yma y bu, yn
Ionawr, 1849, yn edrych ar wyneb ei fam cyn y wylnos,--yn awr heb na
gair na deigryn fel y bu. Pell y bo'r dydd yr anghofio Cymru y fam
hon a'r mab hwn.

"Faint o ffordd sydd oddi yma i Fryn Tynoriad?" ebe fi wrth wraig
oedd yn sefyll gyda dau blentyn wrth y drws. Dywedai fod siwrne hir
i fyny i gyfeiriad pen y Garneddwen, hyd ffordd y Bala. Bu dadl
rhyngof a'r bachgen bach am oed Ieuan Gwynedd pan symudodd ei rieni
o'r Bryn Tynoriad i'r Ty Croes. O'r diwedd dywedai fod ganddo lyfr
setlai'r cwestiwn, llyfr oedd ei frawd hynaf, sydd yn gwasanaethu
yng Nghwm Hafod Oer, wedi ei yrru iddo. Aeth i'r ty, a daeth a
rhifyn o Gymru'r Plant yn fuddugoliaethus, i roi taw arnaf.

Cychwynnais hyd ffordd dan y coed tua Bryn Tynoriad. O'm blaen yr
oedd Dol Gamedd, ar fryn, yn debycach o bell i dy Elizabethaidd neu
fynachlog na dim arall. Oddiyno cefais lwybr troed i lawr y cae a
thrwy goedwig fechan i'r ffordd haiarn. Cerddais ennyd hyd hon, gan
ryfeddu at ddistawrwydd ac unigedd gwaelod y cwm, lle nad oedd prin
le i'r afon a'r ffordd. Toc gwelwn feudy megis pe'n edrych arnaf
dros ochr rugog y ffordd. Dringfais i fyny ato, a gwelais gaeau, yn
lle coedwig fel o'r blaen. Dechreuais ddringo i fyny. Yr oedd y
distawrwydd yn teyrnasu o hyd, oddigerth fod swn carnau meirch
carlamus yn dod o'r ffordd islaw. Ond wele wlad fawr boblog yn
ymddangos wrth i mi ddringo i fyny, ffermydd laweroedd a beudai, a
chynhaeaf gwair prysur. O gwmpas y cylch o ffermydd yr oedd cylch
pellach ehangach o fynyddoedd ysgythrog, a gwelwn Gader Idris yn
codi'n bigfain i'r niwl tua'r de. Ni fum mewn lle hyfrytach erioed
nag ar ben y banciau hyn. Aberoedd grisialaidd, ffrwythau addfed,
arogl gwair sych cynhauafus, awel y mynydd ac awel y mor,--dyma le
i'r gwan gryfhau. Ar ein cyfer dacw'r Hengwrt Ucha; a thraw ar fin
y mynydd, uwch ei ben, dacw'r Blaenau, cartref Rhys Jones,
cynhullydd "Gorchestion Beirdd Cymru." Ymhellach fyth y mae'r
Rhobell gawraidd yn edrych i lawr ar y llethrau a'r dyffryn.

Cefais ymgom ddifyr a llawer amaethwr y diwrnod hwnnw. Dywedent fel
y byddai pawb ar ei dir ei hun unwaith,--Pant y Panel, Coed
Mwsoglog, Coed y Rhos Lwyd, Maes y Cambren, Brith Fryniau, a llu
ereill,--oll erbyn heddyw wedi eu gwerthu i dir-feddiannwr mawr.
Sylwais gymaint yn dlysach oedd yr hen dai na'r tai sydd newydd eu
codi; ond nid oedd amser i holi beth oedd y rheswm.

Heibio llawer cartref dedwydd, a phawb ond y plant a'r cwn yn prysur
gario gwair, cyrhaeddais Esgair Gawr. Yr oedd y cerdded hyd ael y
bryniau a thrwy'r coed wedi codi mawr eisieu bwyd arnaf. Cefais
lawer gwahoddiad gan y ffermwyr caredig i droi i mewn "i gael
tamaid," ond yr oeddwn yn cadw fy hun at y te oedd yn Esgair Gawr.
O'r cartref croesawus hwnnw cefais ffordd hyfryd, dros gaeau a than
goed, i Fryn Tynoriad. Gwelais y llyn lle y bu ond y dim i Ieuan
Gwynedd foddi cyn bod yn ddwy flwydd oed,--ond anfonodd Rhagluniaeth
ryw ffermwr yno mewn pryd. Y mae Bryn Tynoriad yn agos iawn i ben y
Garneddwen,--y mynydd sy'n gwahanu dyffryn y Ddyfrdwy oddiwrth
ddyffryn yr Wnion. Y mae'n bur neilltuedig, mewn cwm main, a
gelltydd coediog bob ochr. Yn awr y mae'r ffordd haiarn yn mynd
heibio iddo, a gorsaf Drws y Nant ychydig yn nes i lawr. Ond unig a
thawel ydyw eto. Y mae dwy aden i'r ty, a chanol, y canol yn dy
annedd, a'r adenydd yn ysgubor a beudy. Wrth ei gefn y mae coed a
ffridd serth y Celffant. O'i flaen y mae cae bryniog dymunol.
Oddiar y cae gwelir yr Wnion fechan islaw, a'r Wenallt goediog ar
gyfer. Gwelir agoriad rhwng y mynyddoedd i gyfeiriad y Bala, dros
ddraenen y cymerodd rhywun lawer o ofal gyda'i thyfiant.

Ond gadewch i ni fynd i'r ty. Y mae ynddo wraig garedig, siaradus,
a doniol dros ben,--Anibynwraig bid siwr. Awn i fyny gris neu ddwy,
a dyna'r gegin ar y dde. Llawr tolciog ydyw, wedi ei lorio a
cherrig bychain. Yr oedd yna dan braf o dan y simnai fawr, a'r
tegell yn berwi ar gyfer y cynhauafwyr gwair,--yr oedd y gwlaw wedi
gorchuddio'r fro erbyn hyn, a'r gwair mewn diddosrwydd neu ar y cae.

Ac yma y dysgodd Ieuan Gwynedd gerdded. Nid oedd yn cofio llawer am
y lle; ond yr oedd yn cofio'r diwrnod mudo i'r Ty Croes, er nad oedd
yn ddwyflwydd oed, oherwydd ei fod wedi medru cario "ystol mam" ar
draws yr aelwyd. Ac ar yr aelwyd hon y suwyd ef gan ei fam, y
magwyd ef gan ei dad, ac y cusanwyd y "bachgen bach" gan ei frawd.
Danghoswyd y "siamber" imi hefyd, yr ochr arall i'r drws, lle ganwyd
Ieuan.


Ryw dro bu ef ei hun yn edrych ar fan ei eni. "Amgylchais y ty yn
ol ac ymlaen. Chwiliais am le y ffenestr o flaen pa un y'm ganesid;
ac fel yr oeddwn yn myned ol a blaen o gylch y fan, teimlwn fel na
theimlais erioed o'r blaen. Dyna y llannerch lle y dechreuaswn fyw.
Yno ym brys-fedyddiwyd rhag fy marw'n ddi-fedydd, a chael yr helbul
o fy nghladdu yn y nos ym mynwent Dolgellau, yr hon oedd dros saith
milltir o ffordd o'r lle. Yno y gorweddaswn i a fy mam am oriau,
a'r bobl yn disgwyl i ni farw am y cyntaf; ac yno y cyneuwyd ynnof y
ganwyll yr hon na losga tragwyddoldeb allan. Yno y dechreuaswn fyw,
yno y dechreuaswn farw. Yno y dechreuais fy llwybr i'r wybrennau,
ac yno y dechreuais fy ffordd i'r bedd."


"Ffordd i'r bedd," a'r diwedd yn y golwg yn ddigon aml, oedd bywyd
byr a brau Ieuan Gwynedd.

Ymysg y gwladgarwyr newidiodd wedd meddwl Cymru yn y blynyddoedd
diweddaf, nid y lleiaf oedd ef.

Gwnaeth gymaint am fod ei fywyd mor debyg i fywyd ei frodyr, tra yr
oedd amcanion y bywyd hwnnw mor anrhaethol uwch. Plentyn Cymru oedd
ym mhob peth,--ar y Beibl y cafodd ei fagu, sel dros ddirwest
ddeffrodd ei enaid, awydd angerddol am wybodaeth wnaeth iddo fyrhau
ei ddyddiau o fyfyrdod tlawd a gwaith amhrisiadwy.

Dyhead ei fywyd oedd gweled Cymru'n lan ac yn rhydd; yn lan oddiwrth
bechod, a'i mheddwl yn anibynnol ar bawb ond ar ei Duw. Ond er mor
chwerw oedd yn erbyn ei phechodau, ni fedrai oddef i neb ei
chamddarlunio a'i gwawdio, fel y dengys ei ysgrifau miniog yn erbyn
bradwyr y llyfrau gleision.

Fel ysgrifennydd y gwasanaethodd Gymru oreu. Yr oedd ei sel,--a'i
afiechyd, efallai,--yn ei wneyd yn chwerw weithiau at ei
wrthwynebwyr, ond maddeuir pob gair garw pan gofir am ei lafur
llethol gyda'r Adolygydd, a chyda'r Gymraes yn enwedig. Gwelodd mor
bwysig oedd merched Cymru; gwyddai y medrent hwy newid y ffasiwn o
ddirmygu iaith eu gwlad. Gwelodd fod ar feddwl Cymru eisieu sylfaen
o wladgarwch oleuedig, a buasai wedi ysgrifennu llyfr ar hanes Cymru
pe tebyg y rhoddasai ei gydwladwyr groesaw iddo.



TREFECA



"Dyma'r fan, tr'wy byw mi gofiaf,
Gwelais i di gynta erioed,
O flaen porth yr eglwys eang
Heb un twmpath dan dy droed,
Mewn rhyw ysbryd dwys sylweddol,
Fel yng ngolwg dydd a ddaw,
Yn cynghori dy blwyfolion,
A dweyd fod y farn ger llaw."

A dyma'r eglwys lle gorwedd Howel Harris, udgorn y Diwygiad! Yn yr
eglwys acw yr argyhoeddwyd ef, a rhoddwyd ef i orwedd lle y clywodd
lais Duw yn cynnyg trugaredd iddo. A dacw'r fan lle pregethai pan
basiodd William Williams, ar ei ffordd adref o'r ysgol i Bant y
Celyn. Bore gofiwyd byth gan William Williams oedd hwnnw, -


"Dyma'r boreu, byth mi gofiaf,
Clywais innau lais y nef;
Daliwyd fi wrth wys oddiuchod,
Gan ei swn dychrynllyd ef."


Ychydig o lanerchi ar ddaear Cymru sydd mor gysegredig i deimlad
Cymro a'r llannerch hon,--lle gwelwyd apostol cynhyrfus y Diwygiad
yn pregethu argyhoeddiad i emynnwr y Diwygiad.

Llannerch dawel, brydferth ydyw. Y mae ar ychydig o godiad tir, a
dringir iddi o dref fechan Talgarth welwn o bobtu i aber Enig a
helyg ac ysgaw rhyngom a hi. Y mae golwg hyfryd ar y wlad
oddiamgylch, saif cylch o fynyddoedd gwyrddleision fel gwylwyr
uwchben y fynwent, a chyfyd twr ysgwar yr eglwys i fyny'n uchel ac
yn hyf, i ddangos yspotyn mwyaf cysegredig y fro ddyddorol a
phrydferth hon. Y mae'n bedwar o'r gloch ar gloc yr eglwys, ac y
mae distawrwydd adfywiol nawn haf wedi disgyn, fel gwlith, ar y wlad
ffrwythlawn dyfadwy. Y mae rhyw orffwys breuddwydiol yn meddiannu
f'enaid innau wrth neshau at y fynwent; a su hen ddigwyddiadau, fel
ysbrydion llawer cnul a llawer claddfa, yn llenwi'r distawrwydd ar
nawn haf. Y mae hud dros bopeth, prin y mae digon o natur beirniadu
ynnof i gael poen oddiwrth y cerrig beddau di chwaeth, gyda'u
llythrennau efydd, sydd ym mhlith hen gerrig mwsoglyd y fynwent.
Sefais, ar ddamwain, cyn dod at borth yr eglwys, a disgynnodd fy
ngolwg ar enw Howel Harris. Carreg fedd ei dad oedd. Ar hon y
dywedir fod Howel Harris yn pregethu pan safodd Williams Pant y
Celyn wrth fynd heibio, i glywed ei alwad ef ei hun. Y mae'r
llythrennau mor berffaith ag oeddynt pan safai Howel Harris, os
safai hefyd, ar y garreg i gyhoeddi ei newyddion rhyfedd. Yr oedd
gwirioneddau'r byd tragwyddol mor fyw o'i flaen ef fel mai prin y
sylwai, hwyrach, ar yr olygfa o'i gwmpas. Eneidiau anfarwol, nid
mynyddoedd a lamant fel hyrddod a bryniau a branciant fel wyn
defaid, a welai ef. Ond maddeuer i mi, o gyneddfau gwannach a chyda
llai o ddychymyg, am syllu ar yr olygfa. Y mae'n araf godi o'm
blaen, fel yr oedd y diwrnod y daliwyd yr emynnwr a gwys oddi uchod.
Dacw Howel Harris ar y garreg fedd, a'i lais yn ddychryn i'r dyrfa
sy'n gwelwi o'i flaen. Dacw wr ieuanc ar ei ffordd adref o'r ysgol
wrth ddrws y fynwent, yn gwasgu'n agosach i gwr y dorf, ac yn colli
golwg arno ei hun wrth wrando, mewn syndod a dychryn, ar y llais
taran hwnnw. O flaen y pregethwr y mae chwech o yw mawreddog,--y
maent yno eto yn eu duwch wylofus,--a thref Talgarth. Uwchben
dacw'r Mynydd Du; ac o amgylch y mae bryniau blodeuog ardal sydd
ymysg ardaloedd tlysaf Cymru.

Ni raid myned ymhell i gael hanes olaf y pregethwr gynhyrfodd fwyaf
ar Gymru o'r holl bregethwyr fu yng ngwlad y pregethu erioed. Eis
ymlaen trwy'r fynwent, ac at ddrws yr eglwys. Y mae'r eglwys yn
isel a llydan; ac yn drymaidd iawn y tu mewn. Cerddais yng
nghyfeiriad y cor, a gwelwn ysgrifen hanes Howel Harris ar garreg.

Gwelais lawer carreg fedd mewn llawer gwlad mewn llawer lle
rhyfedd,--gwelais y garreg ar fedd gwag Dante, gwelais fedd
Chateaubriand mewn craig yn nannedd y tonnau, gwelais feddau rhai
enwog mewn eglwysi mawrwych,--ond ni theimlais gymaint yn unlle ag
yn eglwys drymaidd dywell Talgarth. Hyfryd i Howel Harris oedd huno
lle y clywodd y bywyd newydd yn ymweithio yn ei enaid. Teimlwn fod
mwy na bedd yn eglwys Talgarth; teimlwn fy mod ar lecyn genedigaeth
Cymru newydd. Beth bynnag arall fedrir ddweyd am ei hyawdledd ac am
ei athrylith, ac am ei gynlluniau rhyfedd, gellir priodoli deffroad
Cymru, o gwsg oedd yn marweiddio ei nherth cenhedlaethol, iddo ef yn
fwy nag i neb arall.

Ond y mae ychwaneg na'i hanes ef ar y garreg, digon i'm hadgofio am
y teimladau daiarol,--teimladau ag arlliw y nef arnynt,--oedd mor
gryf yn ei enaid. Ar ei deithiau pregethu, yn ei weddiau, yn ei
freuddwydion, yn ei ofnau, y mae un nad enwa yn bresennol yn
barhaus. Bum yn darllen ei lythyrau ati, a'r cynnyg priodas. Wedi
hanes yr ymserchu a'r ofni,--stori sydd mor hen, ac mor newydd,--
dyma ei hanes olaf hithau, wedi siarad am yr lesu a'i hanadl olaf.

Mewn awr hamddenol, ryw dro, cesglais lythyrau caru dyddorol. Yn eu
mysg yr oedd un oddiwrth Nathaniel, mab Daniel Rowland, at ferch
Howel Harris. Y mae yma air o'i hanes hithau, unig blentyn eu
gofal, ar waelod y garreg.

Cwsg yn hyfryd, apostol Cymru, -


"Cwsg i lawr yn eglwys Talgarth,
Lle nad oes na phoen na gwae;
Mi gai godi i'r lan i fywyd,
Sy'n dragwyddol yn parhau."


Cawsom fwynhau golygfeydd prydferth ac awel nawnol yn suo dros gae o
feillion peraroglus wrth gerdded y filldir sydd rhwng Talgarth a
Threfeca.

A dacw Drefeca yn y golwg. Ymgyfyd fel llinell hir o gestyll a thai
diwedd y Canol Oesoedd, dros gaeau gweiriog. Oni bai am y capel
hyll ar y chwith, buasai'n adeilad tarawiadol a phrydferth iawn.
Yma, mewn tawelwch, y treuliodd Howel Harris y rhan fwyaf o'i oes.
Wedi'r ymrafael, pan welodd ei fod yn colli gafael ar y
dychweledigion drowd trwy ei weinidogaeth ef ei hun, gadawodd ei
bregethu teithiol, ac ymneillduodd i'w gartref, gan wneyd Trefeca yn
gartref i bawb hoffai adael ei fro a dyfod i gydweithio ac i gyd-
addoli. Ffurfiai'r holl gwmni un teulu, yr oedd eu heiddo'n
gyffredin, ac yr oedd cynilun eu bywyd yn debycach i freuddwyd rhyw
athronydd nag i gynllun yn cael ei weithio allan gyda brwdfrydedd a
llwyddiant. Tuag at gadw cymdeithas fel hyn gyda'i gilydd yr oedd
eisiau mwy na chrefydd a hyawdledd, yr oedd eisieu medr anghyffredin
mewn trin dynion. Nid oes odid i ddim yn hanes Cymru mor ddyddorol
ag ymgais Howel Harris i sylweddoli, rhwng bryniau Cymru, gynllun yr
eglwys yn nyddiau yr apostolion. Yng ngwyneb pob anhawsderau,--
diogi, ymrysonau, gwrthgiliad, priodi anghydmarus ymysg aelodau'r
teulu,--yr oedd Trefeca dan Howel Harris yn llwyddo ac yn blodeuo.
Bu'n fwy llwyddiannus, hwyrach, na'r un a geisiodd sefydlu
cymdeithas o'r fath. Yn grefyddwyr, yn filwyr, yn weithwyr,--
enillodd "Teulu Trefeca" barch ac edmygedd rhai wawdiai, ar y
cyntaf, y syniad o godi mynachlog yn Nhrefeca. Ebe Williams Pant y
Celyn, -


"Pam y treuliaist dy holl ddyddiau
I wneyd rhyw fynachlog fawr,
Pan y tynnodd Harri frenin
Fwy na mil o'r rhain i lawr?
Diau buasit hwy dy ddyddiau,
A melusach fuasai'n 'nghan.
Pe treuliasit dy holl amser
Yng nghwmpeini'r defaid man."


Nid yn aml y cofir mai ychydig o'i oes roddodd Howel Harris i
bregethu. Cwestiwn ei frodyr oedd, -


"Pam y llechaist mewn rhyw ogof,
Castell a ddyfeisiodd dyn.
Ac anghofiaist y ddiadell
Argyhoeddaist ti dy hun?"


Ond ffurfio "teulu," tebyg, i'r eglwys yn adeg yr apostolion, oedd
ei amcan ef; a gwastraffodd ar Drefeca y llafur yr oedd holl Gymru
yn dyheu am dano, -


"Ai bugeilia cant o ddefaid,
O rai oerion, hesbion, sych,
Ac adeilo iddynt balas
A chorlannau trefnus gwych, -
Etyb seinio pur Efengyl,
Bloeddio'r Iachawdwriaeth rydd,
O Gaerlleon bell i Benfro,
O Gaergybi i Gaer Dydd?"


Dyma ni'n troi o'r ffordd, ar hyd rhodfa trwy gae gwair, at wyneb y
coleg. O'i flaen y mae coed bytholwyrdd lawer; ac y mae golwg
henafol ar yr holl adeilad mawr di drefn, ar ei ffenestri crynion
tyrog, gyda'r cloc a'r lantar yn sefyll uwchben y cwbl. Aethom
heibio'r wyneb, a thrwy ddrws yn yr ochr i ystafelloedd bychain, ond
hynod ddiddos a chysurus. Wedi hwyr-bryd blasus, digwyddais edrych
ar nenfwd wyngalchog yr ystafell yr eisteddem ynddi, a gwelwn enw
Jehofah mewn llythrennau Hebraeg uwch ein pen. Dywedodd yr athraw
wrthyf mai yn yr ystafell hon yr arhosai Countess Huntingdon pan ar
ymweliad a Howel Harris, ac y mae'n sicr fod arddeliad mawr wedi bod
ar lawer dyledswydd deuluoidd yn yr ystafell gysegredig.

Treuliais amryw ddyddiau dedwydd yn Nhrefeca. Crwydrwn, wrth
f'ewyllys, drwy'r ystafelloedd lluosog, fu unwaith yn gartref i
"deulu" rhyfedd Howel Harris. Teimlwn fod Trefeca yn gynllun o
goleg,--mewn lle iach tawel. Hen weithdy'r "Teulu" ydyw un o'r
ystafelloedd darlithio, a danghoswyd i mi dwll trwy yr hwn y gallai
Howel Harris weled, yr adeg a fynnai, pa fodd yr oedd pethau'n mynd
ymlaen yn y gweithdy. Y mae'r llyfrgell yn cynnwys un o'r
casgliadau goreu o lyfrau Cymraeg welais erioed; casglwyd hi, yr wyf
yn meddwl, trwy lafurus gariad y Parch. Edward Matthews. Cynhwysa
hefyd ddyddiaduron a llythyrau Howel Harris, a llawer o lythyrau
ereill deifl oleuni dyddorol iawn ar gynlluniau a gwaith Howel
Harris.


Nid oes fawr o ffordd o Drefeca i Lyn Safaddan. Llecyn mwyn ydyw'r
llyn hwn, treuliais ddiwrnod hyfryd ar ei ddyfroedd. Croesasom ef
droion a gadawsom i'r cwch sefyll ymysg yr hesg tal sy'n tyfu o
waelod y llyn tra'r oeddym yn gwylio'r eleirch ac yn mwynhau'r
golygfeydd oedd wedi ymddelwi yn y dyfroedd clir. Dyma le tawel,
lle wrth fodd y myfyrgar, dan gysgod Mynydd Troed, ac o fewn ychydig
i gyrchfannau miloedd glowyr y Deheudir. Tra'n mwynhau'r awelon
hafaidd, cofiwn am y traddodiad sydd ynglyn a'r llyn,--fod ei
ddyfroedd yn cuddio dinas bechadurus suddodd i'r ddaear dan bwys ei
drygioni.

Gadewais Drefeca yn blygeiniol, ac yr oedd awel iach y bore yn
gwneyd fy meddwl yn ddigon effro i gofio darluniad Williams adeg
marw Howel Harris, -




 


Back to Full Books