Cartrefi Cymru (Welsh Homes)
by
Owen M. Edwards

Part 2 out of 2



"Mi af heibio i'r palas euraidd
Sydd a'r angel ar ei ben,
'Drychaf ar y castell cadarn
Sy a'i begynau yn y nen;
Ac mi rof ochenaid ddofon,
Gan ryw synnu ynnwyf f'hun,
Fel mae'r nef yn trefnu ei throion
I ddiddymu dyfais dyn.

"Er cadarned yw'r adeilad,
Ac er teced yw ei wedd,
Y mae'r perlyn goreu ynddo
Heddyw'n gorwedd yn ei fedd
Ac nis gwel e mwy mo hono
Fel y gwelodd ef o'r bla'n,
Hyd y dydd bo'n cael ei losgi
Gyda'r byd yn danllwyth dan."



CAER GAI



Y mae'n ddiameu mai Gwerfyl Fychan ac Ann Griffiths ydyw dwy
brydyddes oreu Cymru. Yr oedd Gwerfyl yn byw yn amser adfywiad
dysg, a rhoddodd ei hathrylith ar waith i weu caneuon aflendid,--ac
y mae bron a medru gwneyd yr aflan yn brydferth. Yr oedd Ann
Griffiths yn byw yn amser adfywiad crefydd, a daeth emynnau pur o'i
chalon fel dwfr glan o ffynnon y mynydd.

Y mae'r ddwy wedi eu claddu,--ac fel y mynnai pethau fod, yn yr un
fan. Yn Llanfihangel yng Ngwynfa y claddwyd Gwerfyl Fychan hefyd,--
y mae'r un ymddigrifodd mewn meddyliau cnawdol yn huno ochr yn ochr
a'r hon ymhyfrydodd mewn meddyliau sanctaidd.

Saif Caer Gai ar fryn uwch pen gorllewinol Llyn Tegid, a haul y
bore'n tywynnu arno'n gynta man. Y mae traddodiadau boreuaf ein
hanes ynglyn ag ef. Ar y dolydd islaw iddo, meddid, y cafodd Arthur
ei addysg. Bu'n balas Rhufeinig; ac aml iawn y cwyd swch yr aradr
briddfaen Rhufeinig, neu garreg fedd rhyw filwr, neu ddarn arian a
delw ymherawdwr arni, neu ddarn o lestr loew goch.

Mewn amser diweddarach yr oedd yn gartref y Fychaniaid. Y mae
darnau o brydyddiaeth Gwerfyl yn nofio ar gof gwlad eto. Gwyr pawb
am yr hen frenhinwr pybyr Rowland Fychan, cyfieithydd yr Ymarfer
Duwioldeb. Ond gwyr yr efrydydd am aml Fychan arall hyddysg mewn
cywydd ac englyn.

Wrth rodio'r hen fynedfa i fyny at Gaer Gai, er cymaint o feddyliau
ddaw am hanes ein cenedl, rhaid syllu ar fawredd rhyfeddol y fro. Y
mae cefn mawr llwm yr Aran tuag atom, y mae'r Garneddwen yn gorwedd
yn isel rhwng ei chwiorydd cawraidd, a gwga olion hen gastell Carn
Dochan oddi ar gopa craig serth ysgythrog ar ein cyfer. Odditanom
cwsg dyfroedd gloew Llyn Tegid, ac ar ein cyfer, dros y dwr, y mae
bryniau gwyrddion uchel groesid gynt gan ffordd Rufeinig. Mae'r
gerddi'n aros ar y llecyn heulog, ac y mae pantle'r ffos yn amlwg;
ond ni chlywais erioed hanes cloddio i chwilio am drysorau neu
feddau y Rhufeinwyr fu yma gynt.

Y ty adeiladodd Rowland Fychan, ond wedi ei adgyweirio ymron
drwyddo, sydd yno'n awr. Y mae geiriau yr hen frenhinwr selog wrth
ben y drws, -


"Rho glod i bawb yn ddibrin,
A char dy frawd cyffredin;
Ofna Dduw, cans hyn sydd dda,
Ac anrhydedda'r brenin."



CEFN BRITH



"Os anghofiaf di, Jerusalem, anghofied fy neheulaw ganu. Glyned fy
nhafod wrth daflod fy ngenau oni chofiaf di, oni chodaf Jerusalem
goruwch fy llawenydd pennaf."--SALM cxxxvii. 5-6. Ar wynebddalen
"Supplication" John Penri dros Gymru.

Yr oedd cyfaill i mi unwaith yn cyd-deithio yn y tren a'r diweddar
Barch. J. Kilsby Jones, o Lanfair Muallt i Lanwrtyd. Ymhen tipyn
wedi gadael Llechryd, dyma Mr. Jones yn tynnu ei het, ac yn dweyd,--
"Yr ydym yn awr ar dir clasurol. A welwch chwi'r llwyn o goed acw?
Dacw Gwm Llywelyn. A welwch chwi'r ty ar ochr y bryn i fyny acw?
Dacw'r ty y ganwyd John Penri ynddo. John Penri a ddywedodd wrth yr
Ymneillduwyr am fynd i'r Amerig. Ie, yn y bwthyn acw y ganwyd y
syniad am weriniaeth fawr y Gorllewin."

Y mae'n sicr mai'r awydd am ryddid cydwybod,--yr awydd gafodd John
Perni'n ferthyr iddo,--a roddodd fod i'r weriniaeth fawr honno. Ond
nid am yr hyn a wnaeth Penri i'r Weriniaeth nas gwelsai ond trwy
ffydd, nid am hynny y meddyliwn wrth ddisgyn yng ngorsaf Llangamarch
ym mis Gorffennaf diweddaf, eithr am yr hyn a wnaeth dros Gymru, cyn
rhoddi ei fywyd ieuanc i lawr drosti am bump o'r gloch y prydnawn,
ar y nawfed dydd ar hugain o Fai, 1593.

Y mae ardal Llangamarch yn un o'r ardaloedd mwyaf mynyddig yng
Nghymru, er nad yw Mynydd Epynt a mynyddoedd Aber Gwesin mor uchel
a'u brodyr sy'n sefyll rhyngddynt a gwynt ac eira'r gogledd. Wrth
fynd tua Llangamarch o Fuallt yr oeddym yn dringo i fyny o hyd, yng
nghyfeiriad y mynyddoedd sy'n derfyn rhwng dyffrynnoedd yr Wy a
dyffrynnoedd y Tywi. Teithiem i fyny dyffryn yr afon Dulais, un o
ganghennau'r Wy; o bobtu i ni yr oedd rhes o fynyddoedd, a gwlad
fryniog rhyngddynt, a thai ar y bryniau. Dyma'r tren yn aros ar
lethr y dyffryn, mewn man cul arno. Ar y llaw dde y mae eglwys ar
ochr y bryn, yr eglwys lle mae claddfa Cefn Brith, a'r eglwys lle'r
huna Theophilus Jones, hanesydd Brycheiniog. I lawr odditanom, ar y
chwith, y mae'r Ddulais dryloew ond yn rhy bell i lawr i ni glywed
ei dwndwr ar ei cherrig a'i graian. Cerddais i lawr o'r orsaf, a
sefais ennyd ar y bont sy'n croesi'r afon brydferth. Tra'r oeddwn
yn edrych i fyny'r afon ar y glennydd coediog, ac ar y mynyddoedd
oedd draw dan eu gorchudd llwyd o wlaw, clywn swn troed trwm, swn
rheolaidd fel swn troed rheng o filwyr. Heddgeidwad oedd yno.
"Rhagluniaeth a'i hanfonodd yma," meddwn wrthyf fy hun, "daeth i'r
dim, caf ei holi am y ffordd."

"Wr braf," meddwn wrtho, "a welwch chwi'n dda gyfarwyddo dyn dieithr
i Gefn Brith?"

"I don't know what you say, you should speak English."

"Mae hynny'n orthrwm mawr," meddwn innau, "na chawn siarad Cymraeg a
swyddogion cyflog mewn lle mor Gymreig a Llangamarch. Ffordd
bynnag, er siarad Saesneg ag ef, a Saesneg llawer gwell na'i Saesneg
ef hefyd, ni chefais ddim gwybodaeth ganddo. Gwelais yn eglur mai
nid Rhagluniaeth wnaeth hwn yn heddgeidwad, ond prif-gwnstabl
Seisnig. A rhyfeddwn yn fawr fy mod wedi camgymeryd gwaith y naill
am waith y llall. Ar ororau'r Deheudir y mae llawer o syniadau hen
ddyddiau'r Lords Marchers eto'n aros, tybir gan yr awdurdodau mai
llywodraethu'r Cymry yw eu gwaith, ac nid eu gwasanaethu. Ac y mae
gormod o'u hen waseidd-dra yn y Cymry hyn eto, mwy o ofn plismon
anwybodus o Sais nag o ofn Cymro gonest a chydwybodol. Ond tybed,
er hyn, mai Sais uniaith ddylai ofalu am heddwch Llangamarch?

O'r bont cerddais i'r pentref, pentref bach ar lan yr afon dan
gysgod bryn. Gofynnais i'r wraig gyntaf gyfarfyddais am y ffordd i
Gefn Brith; atebodd hithau, gen gynted a'r gwynt, drwy ofyn cwstiwn
arall, "Ich chi'n blongo iddi nhw?" Wedi i mi ddweyd digon o fy
hanes i'w boddloni, rhoddodd gyfarwyddiadau manwl i mi, a
desgrifiadau maith o ffyrdd, trofeydd, coed, a thai. Anghofiais y
rhan fwyaf wrth gerdded i fyny gyda glan yr afon; ac erbyn i mi holi
yr ail waith yr oeddwn wedi mynd yn rhy bell o lawer hyd ffordd
Llanymddyfri, ac wedi anghofio troi. Troais yn ol; a gwelwn ffordd
drol ar y llaw dde yn arwain o'r gwastad, ac yn dirwyn i fyny ochr y
bryn. Cerddais innau hyd hon, ffordd leidiog is na'r caeau o'i
chwmpas. Erbyn hyn yr oedd yn gwlawio'n drwm, a da oedd cael cysgod
y gwrychoedd uchel trwchus. Bum am gwarter milltir heb weled fawr
ond bedw a gwern; yna, wrth i mi godi uwchlaw'r dyffryn, daeth y
wlad agored i'r golwg, ac ambell lygeidyn o haul arni trwy'r gwlaw.
Wedi cyrraedd pen y bryn, cefais olygfa ogoneddus ar fryniau a
dyffrynnoedd yn ymestyn i'r gorllewin. Bum yn cerdded am beth,
amser hyd ffordd wastad, gyda'r dyffryn ar y llaw dde, a mynyddoedd,
at y rhai yr oeddwn yn dod agosach agosach, ar y llaw chwith. Ar
odrau'r mynyddoedd hyn yr oedd ffriddoedd, llawer glyn cul coediog,
a llawer hafan werdd. O'r diwedd dois i olwg y ty; nid oedd y
pellder gerddais ond rhyw ddwy filldir a hanner, ond tybiwn ei fod
yn ychwaneg, oherwydd fod cymaint o dynnu i fyny a fod y ffordd mor
drom gan y gwlaw.

Ond anghofiais bol lludded a dillad gwlybion wrth edrych ar yr
olygfa welir o ymyl Cefn Brith. Gwelwn lwybr yn mynd at wyneb y ty
trwy ganol gweirglodd weiriog wlithog; ac yr oedd y ffordd yn rhoi
tipyn o dro, ac yn mynd heibio'r adeiladau. I ba gyfeiriad bynnag
yr edrychwn, gwelwn fynyddoedd yn edrych arnaf or tu cefn i
fynyddoedd. I'r gorllewin, dros Gefn Gorwydd a phentref a chapel
mawr, yr oedd mynyddoedd Llanwrtyd ac Ystrad Ffin; ac ar yr ochr
arall yr oedd hafannau gwyrddion mynyddig, gydag ambell goeden
griafol ac ambell fedwen yn ymddyrchafu mewn tlysni dan wlith y
cawodydd a gwen yr haul. Dyma'r ardaloedd y bu John Penri yn meddwl
am danynt pan yn ffoadur yn Lloegr a'r Alban, yr ardaloedd gafodd
bryder ei fywyd a'i feddyliau olaf.

Adeg ryfedd oedd yr adeg y bu Meredydd Henri yn disgwyl John adre
o'r ysgol i'r lle mynyddig hwn. Yr oedd teimlad angerddol dros
undeb Lloegr, yn wladol ac yn eglwysig. Dyma'r adeg yr oedd
Elisabeth yn "Faerie Queene" i Loegr a Chymru, dyna'r adeg yr aeth
Lloegr drwy beryglon oddiwrth alluoedd pabaidd Ewrob, dyna'r adeg y
danghosodd Shakespeare mai aflwydd ddaw i wlad lle y gwrthwynebir y
brenin, eneiniog Duw. Ufuddhau i'r frenhines, caru'r eglwys
genhedlaethol, a diolch i Ragluniaeth am gael byw yn yr amser hwnnw-
-dyna dybiai ysbryd yr oes oedd dyledswydd dyn. Ac i Gymro, beth
oedd mor unol a'i natur?

Ond yr oedd yn yr amaethdy mynyddig hwn un welodd hanes oesoedd i
ddod, un ddanghosodd yn glir beth fyddai dyfodol Cymru. Gwelai fod
yr eglwys yn esgeuluso Cymru, ac yn gwrthod rhoi yr efengyl iddi yn
ei hiaith ei hun; teimlodd rym yr efengyl a gwelai Gymru yn ei
phechodau. Agorodd tosturi a phryder ei lygaid, a daeth mab yr
amaethwr yn broffwyd ei wlad.

Ganwyd John Penri yng Nghefn Brith, yn y ty sydd o'm blaen, yn 1559.
Aeth i Gaer Grawnt yn bedair ar bymtheg oed, ac yno clywodd y
Piwritaniaid cyntaf,--rhai ddywedai nad oedd y Diwygiad wedi ei
orffen. A feallai iddo gael cipolwg ar wirionedd mawr y dyfodol,--y
medrai gwlad fod yn gadarn ac unol heb grefydd genhedlaethol y
gellid goddef i gydwybod pob dyn ffurfio ei grefydd ei hun. O'r
brifysgol, deuai Penri i fynyddoedd Brycheiniog yn ystod ei wyliau,
ac nis gallai lai na theimlo mor ofergoelus oedd Cymru,--gwlad oedd
wedi colli ei Phabyddiaeth, ac heb gael eto ddim yn ei lle. Yn 1586
daeth i Rydychen, ac yma, y mae'n debyg, yr ysgrifennodd ei bamffled
ar sefyllfa resynus Cymru, y pamffled anfonodd yn 1587 i'r frenhines
a'r senedd. Dychrynnodd y pamffled hwnnw lawer, a pha ryfedd,
oherwydd gofynnid ynddo am hawl i leygwyr Cymru bregethu'r efengyl.
Er i'r hyn ddywedid ynddo gael ei ddweyd yr y Senedd hefyd, gwysiwyd
Penri o flaen yr awdurdodau eglwysig, o flaen yr Archesgob Whitgift
a'r esgobion. Rhaid maddeu llawer i'r rhain pan gofiwn mai cred eu
hoes oedd fod yn rhaid, er diogelwch, lladd pob gwrthryfel yn erbyn
sefydliadau cenhedlaethol. Dywedasant wrth Benri nas gellid goddef
ei syniad nad oedd clerigwr na phregethai yn weinidog Crist.
Cyhoeddodd yntau ryfel yn erbyn yr awdurdodau trwy ddweyd y collai
ei fywyd cyn y rhoddai'r syniad hwnnw i fyny.

Yn 1588, blwyddyn yr oedd Lloegr yn hanner addoli ei brenhines a'i
heglwys wedi'r Armada, blwyddyn Beibl yr Esgob Morgan, yn y flwydd-
yn honno cyhoeddodd Penri bamffled arall. Mewn iaith hyawdl,
condemnia'r ymgais ffol i "geisio achubiaeth i ddynion trwy ddarllen
iddynt yr hyn na fedrant ddeall"


"Ychydig salmau, gydag un bennod o'r Testament Newydd yn Gymraeg,--
oherwydd ni siaradodd yr Hen Destament Gymraeg yn ein dyddiau ni, er
ei fod, er llawenydd mawr i mi, yn barod i'w argraffu,--hyn yn unig
yn cael ei ddarllen mewn dull gresynus, heb un mewn deg yn ei
ddeall, ai dyma'r moddion, ysywaeth, a ordeiniodd Duw i hysbysu i
bawb yng Nghymru beth yw cymdeithas y dirgelwch?"


Trydd at yr esgobion yn gynhyrfus, -

"O chwi esgobion Cymru, y rhai a ddibrisia ei enw Ef, os gofynnwch
pa fodd y dibrisiasoch ef, atebir mai trwy gynnyg y cloff a'r dall
a'r anafus i weinidogaeth yr Arglwydd, gan ddweyd nad ydyw hyn yn
ddrwg. Felly dibrisiwch enw Duw trwy ddweyd nad oes eisieu gofalu
am ei wasanaeth. Wrth weled eich bod chwi eich hunain yn gwybod, a
fod holl Gymru'n gwybod, eich bod wedi rhoddi yn yr alwedigaeth
gysegredig ddynion cnafaidd a drwg fu'n crwydro drwy'r wlad dan enw
ysgolheigion, afradloniaid a gwyr gweini wnaeth y weinidogaeth yn
noddfa olaf iddynt; wrth weled eich bod yn gadael yny weinidogaeth
rai y gwyddis eu bod yn buteinwyr a meddwon a lladron a rhai'n
tyngu'n erchyll, rhai y dywed Job mai gwaelach na'r ddaear ydynt,--
oni ddywedwch, trwy hyn oll, nad oes eisieu gofalu am wasanaeth yr
Arglwydd? Os goddefwch hwynt, ac os arhoswch eich hunain yn
lladronllyd o faes eich dyledswydd, a ydych chwi'n meddwll am
anrhydedd yr Arglwydd ac am iachawdwriaeth ei bobl?"


Mewn adeg ogoneddus yn hanes a llenyddiaeth Lloegr yr ymddanghosodd
y llyfr chwerw hwn, pan oedd pob un yn tybied mai ei ddyledswydd
oedd cynnal breichiau'r frenhines Gymreig oedd ar orsedd Lloegr a'r
Iwerddon a Chymru. Dyma gyfnod gwladgarwch ar ei gryfaf, oes aur
Eglwys Loegr a llenyddiaeth Seisnig. Ond nid oes Gymro fedr
ddarllen llyfr Penri heb gydymdeimlo ag ef yn llwyr, a hynny ymhell
cyn dod at y geiriau olaf, -


"Your poore countrey-man, who in all dutiful good will hath wholy
dedicated himself to doe you good in the Lorde.
IOHN PENRI."


Yr oedd ar lywodraethwyr Cymru ofn yr iaith Gymraeg, yr oedd y
gyfraith yn gwahardd i'r un swyddog ei siarad, a gwelodd Penri nad
oedd obaith i Gymru oddiwrth y frenhines na'r Senedd,--yr oedd
pregethwyr lleyg a chyfraniadau gwirfoddol yn bethau rhy newydd.
Diangodd i'r Alban rhag ei erlidwyr, ond ni fedrai aros mewn heddwch
yno, gan ei gariad angerddol at Gymru. Daeth yn ol i Lundain, gan
ddisgwyl cael caniatad i fynd i Gymru i bregethu, ac ymunodd a'r
ddiadell o Anibynwyr oedd yno. Yr oedd ei erlidiwr ar ei ol, a
gwysiwyd ef o flaen y Court of High Commission, llys eglwysig y
frenhines. Cyhuddid ef ar gam o ysgrifennu'r Martin Mar-Prelate
Tracts, rhai y mae eu hyspryd chwerw gwawdlyd yn anhebyg i ysbryd
tyner a difrifol ei ysgrifeniadau ef. Ychydig o obaith am
gyfiawnder oedd i un garcherid gan weinidogion y Tuduriaid; ac yn
l592 yr oedd Penri yng ngharchar, wedi rhoddi i fyny bob gobaith am
gael byw. Peth anodd iawn oedd marw mor ieuanc, yn dair ar ddeg a'r
hugain oed. Peth anodd iawn oedd marw a gwaith mor fawr i'w wneyd,
rhoddi'r efengyl i Gymru dywell dlawd. O garchar caeth,
ysgrifennodd yn nechreu Ebrill, 1593, at ei wraig a'i bedair geneth
fach. Nid oedd ganddo ddim i'w adael iddynt ond Beibl bob un.
Gofyn iddynt, os medrent rywbryd, wneyd rhywbeth dros ryw blentyn o
Gymru, ac yn enwedig i'w fam oedrannus oedd wedi aberthu drosto pan
yn fyfyriwr.

Ac yng Nghefn Brith yr oedd ei fam yn byw, a'i frodyr a'i chwiorydd
oedd i ofalu am ei enethod bach na wyddent eto beth oedd gweddi.
Ond gadewch i ni anghofio'r dienyddiad hwnnw,--gwyr yr hen
oruchwyliaeth yn llofruddio proffwyd y newydd,--ac edrych pa fath le
yw ei gartref, dri chan mlynedd ar ol iddo ei adael.

Eis i fyny at y ty hyd y ffordd, yr oedd gormod o wlith ar y llwybr.
Yr oedd dyn ar ben das gwair yn ei doi, a dywedodd fod "llawer o
hynafiaethwyr" yn dod i edrych y lle,--yn enwedig o Landrindod a
Llanwrtyd ym misoedd yr haf. Eis heibio'r beudy, ac i'r buarth,--
lle wedi ei amgylchynu bron gan adeiladau. Ar un ochr i'r ysgwar y
mae'r ty, a phorth o'i flaen, a'r coed yn ei gysgodi o'r tu ol. Yr
oedd golwg dawel arno, fel pe buasai wedi ei adael fel y mae er
amser Meredydd Penri. Nid oedd dim arwyddion bywyd ond y cunogau
llaeth oedd newydd eu golchi yn y porth, a'r hen gi defaid gododd ei
ben cysglyd i edrych arnaf.

Eis ymlaen heibio'r ty i'r caeau. Rhedai aber risialaidd i lawr o'r
mynydd, ac yr oedd coeden wag wedi ei gwneyd yn gafn i'r pistyll. A
thraw yr oedd y gweirgloddiau hyfryd, a'r mynydd y tu hwnt iddynt.
Nid oedd yno greigiau nac ysgythredd, dim ond mawredd esmwyth a
thawelwch. Yr oedd edrych ar drumau prydferth Mynydd Epynt yn rhoi
gorffwys i'r meddwl, nid y gorffwys sy'n arwain i ddiogi, ond y
gorffwys sy'n arwain i waith. Dyma orffwys fel gorffwys y nefoedd,
gorffwys sy'n deffro'r meddwl ac yn ei gryfhau at waith. Nid
rhyfedd mai meddwl effro a gweithgar oedd meddwl John Penri. Ni
fedd y mynyddoedd hyn fawredd mynyddoedd y gogledd, rhywbeth hanner
y ffordd rhwng Bro Morgannwg a'r Wyddfa ydynt. Ac nid rhyfedd mai
eu prydferthwch hwy, o'r holl fynyddoedd, ddarganfyddwyd gyntaf, gan
rai o'r ardaloedd hyn,--John Dyer a Henry Vaughan. Bum yn syllu'n
hir ar y coed unig welwn hyd drumau'r mynyddoedd, ac yna'n edmygu
lliwiau'r rhedyn a'r ysgaw a'r drain. Trois wedyn i wylio'r
gwenoliaid oedd wedi nythu tan y bondo, ac yna mentrais i'r ty.

Eis trwy'r porth, a gwelwn ddrws cegin fawr yn agored ar y llaw dde.
Cegin eang, isel do, hen ffasiwn oedd, a llawer o gig moch yn crogi
oddiwrth y trawstiau. Yn y pen draw yr oedd lle tan isel, ac
ychydig o dan gwiail ynddo. Wrth y pentan yr oedd gwr canol oed, a
gofynnais hen gwestiwn iddo, -

"Sut yr ydych chwi heddyw?"

"Gweddol fach, gweddol yn wir, dewch ymlan. Mi ges yr anwyd yn y
gaua," meddai, dan besychu, "ac mi cesho fe wedin yn y mish bach
dewch ymlan."

Eisteddais tan fantell y simdde, ac agorodd ci oedd yn cysgu ar y
pentan ei lygad i edrych arnaf, fel pe'n drwgdybio fod fy mryd ar
gynnwys y crochan enfawr oedd ar y tan. Tybiai'r gwr mai prynnu
gwlan oedd fy mwriad, a gofynnodd ai ni wyddwn beth oedd pris y
gwlan 'nawr. Llonnodd pan ddywedais ei fod yn codi ychydig, ond
gwelodd ar unwaith mai nid porthmon oeddwn. Yr oedd ganddo, meddai,
bedwar neu bum cant o ddefaid yn pori ar y mynyddoedd. Tra'r oeddwn
yn syllu ar yr hen ddodrefn derw, daeth cwestiwn wedyn,--yr oedd ar
wr y ty awydd gwybod o ba grefydd yr own. Atebais innau trwy ddweyd
peth wyddai eisoes, sef mai Bedyddiwr oedd ef.

"Pwi wedodd wrthich?"

"Ddywedodd neb; ond gwelaf ddarlun Spurgeon a darlun Christmas
Evans, a dyma Emau Robert Jones, Llanllyfni. A glywsoch chwi hanes
Robert Jones yng nghanol y chwarelwyr meddwon?"

"Naddo i."

"Wel, codi ei ddwylaw yn eu canol a wnaeth, a diolch fod gan Dduw
uffern i roi'r fath rai ynddi."

"Gweid difrifol oedd e, cofiwch rhi. O'r North yr ych chi'n dod?"

Wedi gwrando tipyn ar hanes y fro, gofynnais a gawn weld y rhannau
hynaf o'r ty. Dywedodd y gwr fod croeso i mi ei weld i gyd. Aethom
trwy ddrws y gegin yn ol, a gwelem fynedfa hir yn rhedeg gyda mur y
wyneb. Rhwng y fynedfa hon a mur y cefn yr oedd dwy ystafell, yn
edrych i'r gadles, ystafelloedd oerion lleithion, ac yn llaethdai y
defnyddid hwynt. O'r rhain daethom yn ol i ddrws y ty, ac aethom
ymlaen hyd y cyntedd hir hyd nes y daethom at ddrws ymhen draw y ty,
drws parlwr bychan, a'r lleithder wedi amharu yr ychydig ddodrefn a
darluniau oedd ynddo. Danghosai'r cynllun yn amlwg fod y ty'n hen
iawn, ac nid oedd gennyf un amheuaeth nad ydyw'n awr yr un fath yn
union ag oedd pan ddysgodd John Penri gerdded ynddo. A braidd na
thybiwn glywed y llais a ddistewyd gan yr archesgob wrth glywed y
gwynt yn codi, -


"O chwi bobl Cymru, yr ydych on yn esgymun ac yn wrthodedig. O chwi
bobl Cymru, yr ydych yn estroniaid o gymundeb y wir eglwys. O chwi
bobl Cymru, nid ydych hyd yn oed yng nghyfamod yr addewid, yr ydych
heb obaith dedwyddwch y nef. O chwi bobl Cymru, pa wybodaeth bynnag
o Dduw a ddywedwch sydd gennych, yr ydych yn wir yn anffyddwyr; ac
heb Dduw,--pob un o honoch ar nas dygwyd, er yr adeg y daethoch o
ogof eilunaddoliaeth a Phabyddiaeth, i gyfranogi yng ngallu Duw, yr
hwn yw'r efengyl."


Yna, wrth i'r gwynt yn y coed ostegu, tybiwn fod ei lais yn tyneru
mewn cydymdeimlad, -


"Ond yn wir, fy mrodyr, ni phregethwyd yr efengyl i chwi, llenwir fi
a gofid wrth glywed gwawdio enw Cymru."


Pe crwydrai ysbryd John Penri heddyw trwy wlad a garai mor fawr,
gwelai fod ei weddi dros Gymru wedi ei hateb, a fod addoldai drwy'r
broydd fu gynt yn ofergoelus ac yn isel eu moes. Os byth y rhydd
Cymru gofgolofn ar odrau Mynydd Epynt i ddweyd wrth ei phlant am
dano, rhodder arni y geiriau hyn anfonodd o'i garchar, yn ei
ddyddiau olaf, at Burleigh, -


"Gwr ieuanc tlawd ydwyf, wedi'm geni a'm magu ym mynyddoedd Cymru.
Myfi yw'r cyntaf, wedi blodeuad diweddaf yr efengyl yn y dyddiau
hyn, lafuriodd i hau ei had bendigedig ar y mynyddoedd anial hynny.
Llawenheais lawer tro o flaen fy Nuw, fel y gwyr ef, am y ffafr o'm
geni a'm magu dan ei Mawrhydi, er mwyn gwneyd y gwaith. Yn fy
nymuniad cryf i weled yr efengyl yng ngwlad fy nhadau, ac i weled
symud y llygredigaethau a'i rhwystra, hawdd oedd i mi anghofio fy
mherygl fy hun; ond ni anghofiais fy nheyrngarwch i'm Tywysog
erioed. Ac yn awr pan wyf i orffen fy nyddiau, a hynny cyn dod i
hanner fy mlynyddoedd yn ol trefn natur, yr wyf yn gadael llwyddiant
fy llafur i'm cydwladwyr a gyfyd yr Arglwydd ar fy ol i, i orffen y
gwaith, yr hwn, wrth alw fy ngwlad i wybodaeth am efengyl fendigedig
Crist, a ddechreuais i."

Trwy holl droion hanes Cymru, nid oes dim mor hyawdl i deimlad Cymro
ag ewyllys John Penri,--pedwar Beibl, gofal ei fam, a llwyddiant ei
waith.



GLAS YNYS



Pan fum i drwyddi, tybiwn mai priodol iawn fyddai galw bro Elis Wyn
yn Wlad Cwsg. Tybiwn fod rhywbeth yn ddieithr yn ei goleuni, a fod
su esmwyth yn tonni trwy ei hawyr o hyd. Prin y teimlwn y
gwahaniaeth rhwng bod yn effro ac ynghwsg ynddi. Yr oeddwn fel pe'n
breuddwydio wrth gerdded drwyddi; a phan ddoi cwsg, nid oedd
breuddwyd yn newid dim ar y wlad. Y mae delw'r wlad ar y
gweledigaethau sydd wedi synnu ac wedi dychrynnu cymaint. Nis
gallasai'r bardd ddychmygu fel y gwnaeth am y byd ac angeu ac
uffern, ond mewn gwlad fel hon.

Un peth tarawiadol ynddi ydyw ei distawrwydd. Nid yn unig y mae'n
ddistawach na gwlad boblog, lawn o bentrefydd; y mae'n ddistawach na
mynydd-dir eang unig y Berwyn neu Blunhumon. Ni fum mewn lle
distawach erioed. Y mae'r don i'w gweled yn symud draw ymhell yn
ewyn i fyny'r traeth, ond mewn distawrwydd perffiaith. Y mae'r
wylan yn ehedeg uwch ben; ond, o ran pob swn, gallai fod yn ddarlun
o wylan ar ddarlun o awyr. Ac y mae'r mynyddoedd mawr yn gorwedd yn
berffaith ddistaw yng ngwres y canol ddydd haf; tybiwn fod y defaid
a'r aberoedd yn cysgu arnynt.

Peth tarawiadol arall yng ngwlad Bardd Cwsg ydyw cyfoeth ei lliwiau,
ac amrywiaeth ei chymylau a'i lleni teneuol o niwl. Pan fo'r haul
yn tywynnu y mae melyn a gwyn y traeth y tu hwnt i ddesgrifiad; pan
fachludo'r haul, cyll y mor ei ddisgleirdeb ar unwaith, ac y mae
golwg ddu frawychus ar y llu mynyddoedd mawr sydd o gwmpas Gwlad
Cwsg. Ac nis gall neb ddarllen y tair Gweledigaeth heb adnabod niwl
a tharth Harlech, ac heb weled mor hoff yw Elis Wyn o gyferbynnu
goleuni disglaer a thywyllwch dudew. Fel Spenser a Milton yn
llenyddiaeth Lloegr, y mae'n hoff o ddesgrifio goleum tanbaid neu'r
fagddu ddilewyrch. Efe yw Rembrandt llenyddiaeth Cymru. Dacw
belydryn yn gloewi o'r tu hwnt i gwmwl melynwyn, fel hwnnw welodd y
Bardd Cwsg pan weddiodd yng ngafael y Tylwyth Teg,--"Gwelwn ryw
oleuni o hirbell yn torri allan, O mor brydferth!"

Gwaith caled ar ddiwrnod gwresog yw dringo i fyny dan gysgod castell
Harlech. Rhaid fod Bardd Cwsg wedi treulio llawer o amser yn yr hen
gastell hwn; a hwyrach fod edrych i lawr dros ddibyn ei graig wedi
ei helpu i ddychmygu am y ceulannau a'r dibynnau y gwelodd daflu'r
colledigion drostynt yn ei Uffern. A'r ffrwd acw, tybiaf i mi weled
darlun o honi fel un o raiadrau y Fall. Ond dyma ben y bryn o'r
diwedd, a hen wr llygad-lon wedi bod yn fy ngwylio'n dringo.

"Mi gewch ddiwrnod braf i weld y wlad heddyw," ebe'r hen wr a'm
cyfeiriai o Harlech tua Glasynys, "mi fydd y dydd i gyd fel y
pelydryn yna gyda hyn." A gwir a ddywedodd, cefais ddiwrnod
poetha'r haf hwnnw. Y mae Harlech ar godiad tir serth, a rhaid cael
un chwim iawn i ddod i fyny iddi o'r traeth heb golli ei wynt. Un
ystryd hir y tybiwn ei bod, o bobtu i'r ffordd sy'n rhedeg hyd y
bryniau, yn gyfochrog a glan y mor. Y mae'n lan, er nad oes
adeiladau mawrion yn ei rhan hynaf. Hawdd gweled ei bod yn hen dref
oddiwrth ei chastell ac amlder ei thafarnau. Trois ar y chwith, hyd
ffordd Talsarnau, a chefais gwmni bardd am ran o'r ffordd. Toc
gadewais y ffordd gysgodol sy'n rhedeg hyd fron y mynydd, a throais
hyd lwybr i lawr i'r gwastadedd glas odditanaf. Ar ganol y
gwastadedd gwelwn fryncyn yn codi, ac o bob tu iddo,--ar ochr y
mynydd ac ar ochr y mor,--y mae amaethdy o'r enw Glasynys. Oddiar
ben y bryn y mae golygfa ardderchog ar for a mynydd. Ynys, mae'n
ddiameu, oedd y bryn unwaith, ac yr oedd y gwastadedd yn for. Ar
ein cyfer codai'r mynydd yn serth, gyda choed yn aml ar ei lethrau.
Aml waith y bu Elis Wyn yn dringo i ael y mynydd acw; a dacw'r
llecyn, hwyrach, oedd o flaen ei lygad pan yn darlunio ei
weledigaeth gyntaf, -


"Arryw brydnawn-gwaith teg o haf hir-felyn tesog, cymerais hynt i
ben un o fynyddoedd Cymru, a chyda mi yspienddrych, i helpu'm golwg
egwan, i weled pell yn agos, a phethau bychain yn fawr; trwy yr awyr
denau eglur, a'r tes ysblennydd tawel canfyddwn ymhell bell, tros
for y Werddon, lawer golygiad hyfryd. O hir drafeilio a'm llygaid,
ac wedyn a'm meddwl, daeth blinder, ac yng nghysgod blinder, daeth
fy Meistr Cwsg yn lledradaidd i'm rhwymo; ac a'i agoriadau plwm fe
gloes ffenestri fy llygaid, a'm holl synwyrau ereill, yn ddiogel."


Cerddais dros y bryn bychan gan ddod i lawr at gefn Glasynys y
bardd,--amaethdy a'i wyneb tua'r mynyddoedd. Gwelais ar unwaith ei
fod wedi ei adeiladu fel y dylid adeiladu ty ar lethr craig; gyda
drws i fynd oddiallan i'w ystafelloedd uchaf, a mor naturiol ei
safiad a phe buasai wedi codi, fel blodeuyn, yng nghwrs natur ar
ochr y bryn. Curais wrth y drws, a daeth merch ieuanc i'w agor.
Dywedodd fod croesaw imi weled cartref y Bardd Cwsg, a danghosodd i
mi brif ystafelloedd y ty. Yr wyf yn cofio fod rhyw hanner arswyd
arnaf wrth grwydro trwy'r ystafelloedd lle crewyd golygfeydd ofnadwy
Bardd Cwsg; a thybiwn mai hyfryd i'r bardd, pan fyddai ei ddychymyg
wedi ei arwain trwy erchyllderau uffern a'r fall, oedd sylweddoli ei
fod ef mewn lle mor hyfryd.


Yr oedd llwybr Elis Wyn rhwng ei gartref a'i eglwys, rhwng Glasynys
a Llanfair. Y mae Glasynys rhyw ddwy filldir o Harlach i'r gogledd,
ac y mae eglwys Llanfair rhyw ddwy filldir o Harlech i'r de. Bum yn
Llanfair hefyd, lle y gorwedd Elis Wyn mewn bedd dinod, bron
anadnabyddus. Y mae'r daith o Harlech i Lanfair yn fwy digysgod
na'r daith i Lasynys, ar wres neu ar gurwlaw, ond nid yw'n llai
hyfryd. Wedi tynnu i fyny'r rhiw oddiwrth y mor, a gadael yr hen
gastell gwgus ar ein hol, trown ar y dde. Y mae mwy o Harlech i'w
weled wrth fynd i Lanfair nag wrth fynd i Lasynys. Wedi cerdded
drwy ystryd gweddol hir, deuir i lecyn dymunol iawn dan goed, ar
gyfer prif westy'r lle. Y mae golwg brydferth iawn oddiyma drwy'r
coed ar y mor sy'n mhell odditanodd, ac y mae pob trofa newydd ar y
ffordd yn hyfrydwch. Creigiau, coed, mynydd, a'r mor,--nid oes
braidd dy yn y cilfachau hyn heb olygfeydd o'i ffenestri y buasai
cynllunydd palas brenin yn falch o honynt. Ond yn fuan iawn yr ydym
yn gadael yr hen dref ar ein holau, ac yn teithio hyd ffordd deg ar
y dibyn uwch ben y mor, a'r hen gastell du gwgus yn ein gwylied o'n
hol. Dyma ffordd y bu Bardd Cwsg yn ei cherdded filoedd o weithiau,
ac y mae golygfeydd ei weledigaethau o'n hamgylch heddyw, er fod
syniadau gwlad wedi newid llawer er yr adeg y bu yn ei cherdded
ddiweddaf, tua chant a thrigain o flynyddoedd yn ol.

Aml dro, y mae'n ddiameu, bu Elis Wyn yn edrych ar ddyffrynnoedd fel
dyffryn Nancol; ac i'w feddwl ef, fel i feddwl pawb yn yr oes honno,
yr oedd yr aruthredd rhamantus yn erchylldra di-drefn. Yn ei
freuddwydion y mae'r cwm mynyddig yn ymddangos yn uffern, lle
gwelai'r colledigion, a'r ysbrydion aflan


"a phigffyrch yn eu taflu i ddisgyn ar eu pennau ar heislanod
gwenwynig o bicellau geirwon gwrthfachog, i wingo gerfydd eu
hymenyddiau; ymhen ennyd, lluchient hwy ar eu gilydd yn haenfeydd, i
ben un o'r creigiau llosg, i rostio fel poethfel. Oddi yno cipid
hwy ymhell i ben un o fylchau y rhew a'r eira tragwyddol; yna yn ol
i anferth lifeiriant o frwmstan berwedig, i'w trochi mewn
llosgfeydd, a mygfeydd, a thagfeydd o ddrewi anaele."


Weithiau tybiwn ein bod yn adnabod rhai o gymoedd Meirion, hyd nes y
dadlennir y darlun erchyll i gyd, -


"Tu isaf i'r gell yma gwelwn rhyw gwm mawr, ag ynddo megis myrdd o
domenydd anferth yn gwyrddlosgi; ac erbyn neshau gwybum wrth eu
hudfa mai dynion oeddynt oll, yn fryniau ar eu gilydd, a'r fflamau
cethin yn clecian trwyddynt."


Nid un yn gwenu ar bechod oedd Elis Wyn. Y mae'n amhosibl cael
darluniad mor ddychrynllyd o feddwdod ac aflendid ac anghrefydd, hyd
yn oed ym mhregethau'r Diwygiad, ag yn ei weledigaethau ef. Ac nid
arbed y boneddigion na'u cynffonwyr. Ychydig o lafurwyr welodd yn
uffern; ac o'r rhai welodd, os oedd rhai wedi dod yno am gau talu'r
degwm, yr oedd ereill wedi dod oherwydd gadael eu gwaith i ddilyn
boneddigion. Oes y boneddigion oedd y ddeunawfed ganrif; hwy oedd
yn rheoli mewn llan a llys. Hwy oedd yn y fyddin, hwy oedd yn
ustusiaid, hwy oedd yn rheoli ymhob man. A dysgeidiaeth pulpudau'r
oes oedd fod yn rhaid ymostwng iddynt. Ond trinir yr ustusiaid a'r
cyfreithwyr a'r physygwyr yn ddiarbed yng ngweledigaethau Bardd
Cwsg. Ie, unwaith clywodd chwerthin yn uffern, -


"A mi yn dyfod allan o'r gilfach ryfeddol honno, mi a glywn gryn
siarad; ac am bob gair y fath hyll grechwen a phed fuasai yno
bumcant o'r cythreuliaid ar fwrw eu cyrn gan chwerthin. Ond erbyn i
mi gael neshau i weled yr ameuthyn mawr o wenu yn uffern, beth
ydoedd ond dau o bendefigion newydd ddyfod, yn dadleu am gael parch
dyledus i'w bonedd; ac nid oedd y llawenydd ond digio'r gwyr
boneddigion. Palff o ysgweier a chanddo drolyn mawr o femrwm, sef
ei gart achau, ac yno yn dadgan o ba sawl un o'r Pymtheg Llwyth
Gwynedd y tarddasai ef; pa sawl Ustus o heddwch, a pha sawl Sirydd a
fuasai o'i dy ef. 'Hai, Hai,' ebe un, 'nid ych chwi ond aer y
fagddu, fflamgi brwnt, prin y teli i ti lety noswaith,' eb efe, 'ac
eto ti a gai ryw gilfach i aros dydd:' a gyda'r gair, dyma'r ellyll
ysgethrin a'i bigfforch yn rhoi iddo, wedi deg tro ar hugain yn yr
wybr danbaid, ond oedd ef yn disgyn i geudwll allan o'r golwg."


Y mae'n hawdd gweld athrylith Elis Wyn oddiwrth y gosb rydd i bob un
yn uffern. Nis gwyr y darllenydd yn iawn beth i'w wneyd wrth
ddarllen hanes y gosb, pa un ai dychrynnu ai chwerthin, gan mor
anisgwyliadwy ydyw'r gosb, ac eto mor naturiol. Y meddw, y rhegwr,
yr aflan, y rhodreswr, y chwedleuwr,--y maent i gyd yn y fro erchyll
honno wrth eu hen waith. Er esiampl, cymerer y pedwar ffidler oedd
newydd farw, ac oedd yn eu bywyd wedi bod yn lwcusach am gynulleidfa
na'r person, -


"'Ffwrdd, ffwrdd, a'r rhai hyn i wlad yr anobaith,' ebe'r brenin
ofnadwy; 'rhwymwch y pedwar gefn-gefn, a theflwch hwy at eu
cymheiriaid, i ddawnsio yn droednoeth hyd aelwydydd gwynias, ac i
rygnu fyth heb na chlod na chlera."


Ond dyma Lanfair yn y golwg. Dacw'r eglwys y bu Elis Wyn yn
gwasanaethu ynddi, a'r lle y claddwyd ef. Y mae gwlad agored
brydferth Llanfair a Llanbedr o'n blaenau. Y mae'r mor gryn bellder
odditanom, a thraw ar ei lan wele eglwys fechan Llandanwg. Pentref
bychan ydyw Llanfair, rhyw ychydig o dai o bobtu i'r ffordd.

Gydag i mi gyrraedd y pentref ymgasglodd lliaws o'r plant, rhai yn
awyddus am rywbeth i'w weled neu i'w wneyd, o'm cwmpas. Nid oedd yr
un o honynt wedi clywed gair am Elis Wyn nac am weledigaethau Bardd
Cwsg. Yr oeddynt yn foddlon iawn i'm gwasanaethu, a medrodd un o
honynt gael allwedd y fynwent ac allwedd yr eglwys i mi. Saif yr
eglwys hir a'i thalcen i'r mynydd, o fewn mynwent lawn a threfnus.
Yr oedd hanner arswyd arnaf wrth fynd i'r eglwys, ac yr oedd y plant
a'm dilynent mor ddistaw a phe gwybuasent fod Bardd Cwsg, un
ddychmygodd weled pethau mor ofnadwy, yn huno yno. Y mae'r allor yn
llenwi y pen agosaf i'r mynydd o'r eglwys, o fur i fur. Hysbyswyd
fi fod lle'r allor yn fyrrach unwaith, a fod lle i un set rhwng yr
allor a'r mur. Tan y set honno, set Glas Ynys, a claddwyd y Bardd
Cwsg; ond erbyn hyn y mae'r allor dros ei orweddle. Ac ni wyddai
plant ei bentref, oedd mor ddistaw a llygod yn yr eglwys dawel, ddim
am ei waith nac am ei enw.

Troais i unig westy'r pentref i ofyn lluniaeth, oherwydd yr oedd
erbyn hyn yn hen brydnawn. Tra'r oedd y forwyn yn gosod y llian ar
y bwrdd mewn parlwr bach cysurus ddigon, gofynnais iddi, -

"Yn yr eglwys yma y claddwyd Elis Wyn o Lasynys, ynte?"

"Hwyrach wir, syr, ond 'doeddwn i'n nabod mo hono fo."

Yr oedd gwr y gwesty gerllaw, ac amryw las hogiau yn y gegin, ond
nid oedd yr un o honynt yn gwybod dim am Elis Wyn. Dywedodd un y
gallai'r ysgolfeistr fod yn gwybod, fod llawer o bethau ynghadw yn
ei ben ef, ond ei fod ar ei wyliau ar hynny o bryd.

Wedi te troais yn ol tua Harlech, a daethum at y ffordd sy'n arwain
i lawr at Landanwg a min y mor. Gwelwn mai rhibin hir iawn o ffordd
ydoedd, ond daeth awydd angerddol drosof am weled gorweddfan Sion
Phylip. Ac i lawr a mi, hyd ffordd ddigon tolciog, nes cyrraedd ty
neu ddau heb fod nepell o lan y mor. Dywedwyd wrthyf na fu claddu
ym mynwent Llandanwg er ys blynyddoedd, ac nad oes un math o
wasanaeth ynddi'n awr. Croesais ffrwd ddwfr, a chefais fy hun mewn
cae gwyrdd o flaen yr eglwys. Yr oedd y llecyn yn un hyfryd ar y
nawn haf hwnnw. Chwythai awel dros y mor, ag iechyd ar ei haden, ac
yr oeddwn yn meddwl fod y ffrwd oedd ar golli yn y mor yn berffaith
loew, fod y glaswellt yn berffaith wyrdd, a fod yr awyr yn berffaith
bur. Bechan iawn ydyw'r eglwys, a dieithr yr olwg arni. Ni welais
ond llwybr i fynd ati, a hwnnw'n cithaf anodd ei gael. Y mae porth
i fynd trwyddo i'r fynwent, ar gyfer ffenestr fawr y dwyrain. Y mae
drws yr eglyws i'r stormydd a'r mor. Saif yr eglwys yn llythrennoll
ar fin y mor, ac y mae'r tywod luchiwyd gan ystormydd hyd ei llawr.
"Llan dan wg y mor" ydyw ystyr ei henw, ebe un hen ramadegydd
gyfarfyddais. Mynwent unig a thawel, hyd yn oed ymysg mynwentydd,
ydyw. Y mae'r eglwys yn wag oddigerth fod yno ychydig o hen goed
derw. Anaml, yn sicr, y bydd neb yn torri ar unigedd y fan. Y mae
enwau ffermydd yr ardal ar y cerrig beddau, ond yr wyf yn meddwl mai
anaml y cleddir yno'n awr. Gwelais fedd Sion Phylip, wedi tipyn o
chwilio ymysg y twmpathau gleision a'r cerrig beddau mwsoglyd. Y
mae yng nghysgod yr eglwys, yn union dan ffenestr y dwyrain. Wrth
dynnu'r mwsogl oddiar y ddwy lythyren a'r dyddiad a'r englyn sydd ar
y garreg, ceisiwn gofio peth o Gywydd y Wylan, cywydd goreu Sion
Phylip. Ac yn sicr ddigon yr oedd gwylan unig yn hofran uwch fy
mhen, fel pe'n gwylio bedd y bardd a'i darluniodd.

Bu Elis Wyn yn darllen gwasanaeth yr eglwys yma, yn swn y mor.
Tybed ei fod wedi cerdded hyd y traeth, gan synfyfyrio, i aros i'r
plwyfolion ddod? Ai ar y llecyn hwn, wrth syllu ar y feisdon, y
dychmygodd yr ymddiddan rhyngddo a Thaliesin Ben Beirdd, pan y
gofynnodd Taliesin iddo am y prydydd,--"Pa le mae'r pysgodyn sy'r un
lwnc ag ef? Ac mae hi yn for arno bob amser, eto ni thyr y mor heli
mo'i syched ef."


Yr oedd y nos yn dod, a'm ffordd innau i'm llety yn hir. Nosodd
arnaf cyn i mi ddod i'r ffordd fawr, ac ni welwn wahaniaeth rhwng
daear a mor. Nid oedd arnaf lai nag ofn yn y gwyll, yr oeddwn wedi
meddwl cymaint yn ystod y dydd am y bodau erchyll ddarlunnir gan
Fardd Cwsg. Gan nad oedd ond amlinellau llymion y wlad i'w gweled,
yr oeddwn bron a meddwl weithiau fy mod yn y dyffryn hwnnw
ddarlunnir yng "Ngweledigaeth Angau yn ei Frenhinllys isaf, -


"Mi'm gwelwn mewn dyffryn pygddu anfeidrol o gwmpas, ac, i'm tyb i,
nid oedd diben arno; ac ymhen ennyd, wrth ambell oleuni glas, fel
canwyll ar ddiffodd, mi welwn aneirif, O! aneirif, o gysgodion
dynion, rhai ar draed, a rhai ar feirch, yn gwau trwy eu gilydd fel
y gwynt, yn ddistaw ac yn ddifrifol aruthr; a gwlad ddiffrwyth, lom,
adwythig, heb na gwellt na gwair, na choed nac anifail; a chwipyn,
er maint oedd y distawrydd o'r blaen, dyma si o'r naill i'r llall,
fod yno ddyn bydol."


Y mae'n debyg fod Bardd Cwsg wedi llenwi bywydau llawer a
dychrynfeydd, wedi gwneyd pob nos yn llawn o ellyllon, ac wedi
dyrysu synhwyrau llawer un. Pa ryfedd fod y llyfr hwn wedi
effeithio cymaint ar fywydau dynion? Mor dryloew yw ei arddull, mor
gain a naturiol ei Gymraeg! Ac mor ryfedd ydyw ei ddychymyg pan yn
crwydro trwy'r eangderoedd dychrynllyd hynny, pan yn dilyn o'i ledol
ar ol milwyr disglaer Lusiffer wrth iddynt deithio fel mellt hyd y
fagddu hyll!

Rhyfedd ac ofnadwy ydyw'r pethau ddarlunnir ganddo, ac nid heb
ychydig ofn y medrir meddwl am danynt ar ffordd unig fel hon wedi
nos. Cyn i oleuadau Harlech ddod i'r golwg, yr oedd fy meddwl wedi
troi at emyn y Bardd Cwsg, emyn sy'n dangos beth fuasai ei
weledigaeth ym Mharadwys pe'r ysgrifenasai hi, -


"Myfi yw'r Adgyfodiad mawr,
Myfi yw gwawr y bywyd;
Caiff pawb a'm cred, medd f'Arglwydd Dduw,
Er trengu, fyw mewn eilfyd.

"A'r sawl sy'n byw mewn ufudd gred
I mi, caiff drwydded nefol
Na allo'r angau, brenin braw,
Ddrwg iddaw yn dragwyddol.

"Yn wir yn wir, medd Gwir ei hun,
Pob cyfryw ddyn sy'n gwrando
Fy ngair gan gredu'r Tad a'm rhoes,
Mae didranc einioes ganddo."



TY'R FICER



Llawn o ddyfroedd oedd Llanymddyfri pan welais i'r lle gyntaf, er
fod hynny yn niwedd mis Mehefin.


Bran a Gwydderig
A Thywi fynheddig
A Bawddwr fach fawlyd
Yn rhedeg drwy'r dre," -


nid yn unig yr oedd y rhain yn llifo dros y dolydd, ond yr oedd y
gwlaw yn tywallt fel diluw. Yr oedd wedi golchi swyddogion y ffordd
haiarn yn lan; a thybiwn innau, wrth edrych o'r tren pan safodd yn
Llanymddyfri, mai mewn dillad gwlybion y byddai raid i mi dreulio
gweddill y dydd. Gwelwn nad oedd y dref yn ymyl, ac ni welwn gerbyd
fuasai'n noddfa rhag y gwlaw. Ond, wedi disgyn, gwelais westy ar fy
nghyfer, a medrais ei gyrraedd ar draws y ffordd cyn gwlychu at fy
nghroen.

Daeth gwraig dawel, a swn penderfyniad yn ei llais, i'm croesawu.
Yr oedd golwg gysurus ar bob peth yn y ty, yr oedd tan braf yn
cynneu yn y parlwr cyn pen y chwarter awr, ac yr oedd pryd
danteithiol o fwyd wedi ei arlwyo.

Yr oedd yno lyfrau hefyd, dyna'r gwahaniaeth rhwng gwesty Cymreig a
gwestai ereill. Cefais ymgom a gwr y ty,--y mae hyn yn rhan o fywyd
fforddolyn,--a dywedodd bopeth wrthyf am grefydd a gwleidyddiaeth
Llanymddyfri. Ond, fel gwestywr call, ni soniodd air am ei grefydd
na'i gredo wleidyddol ei hun; ac yr wyf yn meddwl iddo fethu cael
gweledigaeth eglur ar fy amryw dybiau innau. Gwr tawel oedd, yn
siarad Cymraeg da.

Cyn huno, yn swn y gwlaw, bum yn ceisio dyfeisio fath dref a welwn
yfory, a fath dy oedd ty'r Ficer enwog. Yr oeddwn wedi gweld y lle
o bell. Pan oedd fy nhren yn croesi'r nentydd hyd ochr y mynydd, yr
oeddwn wedi gweld dyffryn swynol i lawr odditanom, a gwastadeddau
coediog niwliog draw. Ond cyn dychmygu darlun eglur yr oeddwn yng
ngwlad cwsg. A chyn hir daeth yn ystorm yn fy mreuddwydion, a
thybiais weled melldith y Ficer wedi dod ar Lanymddyfri, a'r dwfr yn
ei chludo hi a minnau tua'r mor. Ond pan ddaeth y bore, yr oedd
haul disglaer ar bob peth, a minnau'n meddwl mor hyfryd oedd fy lle.

Wedi cael cyfarwyddiadau manwl, cychwynnais tua thy'r Ficer.
Gadewais ysgol Llanymddyfri ar y dde, a chefais fy hun cyn hir ym
mhrif heol y dref. Wrth grwydro drwyddi, tybiwn mai tref yn prysur
adfeilio ydyw Llanymddyfri. Ni welais ddim gwaith yn cael ei wneyd
yn unlle, ac nid oedd neb prysur yn y golwg. O'r negeseuwr i'r
meddyg, yr oedd pawb yn rhodio'n hamddenol, fel pe mai unig amcan
bywyd ydyw treulio'r dydd i ddisgwyl y nos a threulio'r nos i
ddisgwyl y bore. Ni welwn gwsmer yn yr un o'r siopau; yr oedd pob
siop fel pe'n hepian, a'r prentisiaid dan y cownter yn disgwyl
diwrnod ffair. Gwelais siop lyfrau, arwydd sicr o ddiwylliant, ond
ol-rifynnau oedd yn y ffenestr, rhai'n traethu am faterion
gwleidyddol na chymer ond yr hanesydd ddyddordeb ynddynt yn awr.
Gwelais laswellt yn tyfu yn y farchnad, gwelais yriedydd yn golchi
ei gerbyd y drydedd waith er pan gafodd gludo neb, gwelais saer yn
cysgu yng nghanol ei shavings, gwelais gapel Wesleaid--pwy mor
weithgar--wedi ei gau. Cyfarfyddais asiedydd deallgar, yr hwn
ddywedodd lawer o hanes y dref i mi. Cyfeiriais fy ffon at laswellt
oedd yn ceisio ymwthio i fyny rhwng cerrig yr heolydd, a gofynnais a
oedd Llanymddyfri'n adfeilio Sicrhaodd fi nad oedd, ond ei bod yn
sefyll,--yn cynyddu dim ac yn adfeilio dim.

Cefais dy'r Ficer ymron ym mhen uchaf y dref. Pasiais ef heb ei
weled, a chyrhaeddais y bont, lle y danghoswyd mynwent ar fryn uwch
ben i mi,--Llanfair ar y bryn, man bedd Williams Pant y Celyn.
Troais yn ol, ac ar y llaw chwith gwelwn dy oedrannus, ac ychydig o
ol gofal arno. Meddyliwn wrth ei weled am hen foneddwr wedi torri,
ac yn goroesi ei gyfoeth mewn cot ddu lom a het dolciog a throwsus
du seimlyd rhy fyr i guddio ei esgidiau drylliog. Daeth hen wraig,
debyg iawn i'r ty, i'r drws i gynnyg dangos y lle i mi, gan ostwng
yn ei garrau wrth gynnyg. Y mae ambell ddernyn o bren cerfiedig a
phlastr yn dangos mor fawr ydyw'r cyfnewidiad ddaeth dros y ty hwn.
Unwaith bu yn orwych, yn awr y mae ei ystafelloedd cyfaneddol yn
gartrefi llwm i dlodion Llanymddyfri.

Daeth rhyw brudd-der drosof wrth adael yr ystafelloedd tywyllion
gwag lle y goleuwyd "Canwyll y Cymry." Meddyliais am y noson y
safodd ceffyl heb ei farchog wrth ddrws y Ficer, tra yr oedd corff
llofruddiedig ei unig fab yn y Tywi. Meddyliais am lawer bore y
bu'r Ficer yn cychwyn allan i rybuddio mewn amseroedd enbyd, ac i
rybuddio'n ofer, -


Mene Tecel, tre Llanddyfri,
Pwysodd Duw hi yn dy frynti;
Ni chadd ynnot ond y sorod,
Gochel weithian rhag ei ddyrnod.

Bore codais gyda'r ceiliog,
Hir ddilynais yn dy annog
Droi at Dduw oddiwrth dy frynti,
Ond nid oedd ond ofer imi.

Cenais iti'r udgorn aethlyd
O farn Duw a'i lid anhyfryd,
I'th ddihuno o drwmgwsg pechod,
Hwrnu er hyn 'rwyt ti yn wastod.

Cenais bibau, ond ni ddawnsiaist,
Tost gwynfannais, nid alaraist;
Ceisiais trwy deg a thrwy hagar,
Ni chawn gennyt ond y gwatwar.

Esau werthai ei 'tifeddiaeth
Am y ffiolaid gawl ysywaeth;
Tithau wethaist deyrnas nefoedd
Am gawl brag, do, do, o'm hanfodd.


Ond, pa beth bynnag fu ei hanes, y mae Llanymddyfri'n anwyl i bob
Cymro, ac yn anwyl yng ngolwg y nefoedd, oherwydd o honi hi y daeth
y Ficer Pritchard a Pher Ganiedydd Cymru.

Cerddais drachefn drwy'r dref, gadewais y castell ar y chwith,
gadewais y dref o'm hol, a dois i fynwent Llandingad. Yma, meddir,
y claddwyd y Ficer, ond nid edwyn neb le ei fedd. Yn wir dywed
traddodiad nad ydyw yma mwy, ond fod yr afon wedi rhuthro drwy'r
fynwent unwaith, ac wedi cario'r corff i'r mor.

Dychwelais trwy'r dref gysglyd dawel i'r gwesty i gael bwyd; ac yn y
prydnawn cychwynnais tua'r castell. Saif ar dalp o graig yn ymgodi
ar lan yr afon. Yr oedd dannedd y graig i'm gwyneb wrth i mi neshau
ato, a gwelwn yr eiddew yn ymglymu am ei fur toredig. Cerddais
rhyngddo a'r afon, a dringais y bryn. Y mae'n sicr fod llawer o
dref Llanymddyfri wedi ei hadeiladu a'i gerrig. Nid oes ond dau
ddarn o'r mur trwchus yn aros, y darn agosaf at y dref, ond yr
anhawddaf cael cerrig o hono. Y mae'r gornel, gyda thwr mae'n
debyg, wedi syrthio, ac yr oedd coed yn estyn eu canghennau dros y
muriau oddiar ben y bryn y tu allan. Gwelwn ddrysau y bu'r gwylwyr
yn esgyn ar hyd-ddynt i'r muriau unwaith. Tawel iawn ac unig ydyw'r
adfail, o'i gydmaru ag ef y mae eglwys a mynwent Llandingad, welwn
dros gornel y bryn, yn lle byw. Bu Gruffydd ab Rhys yn gwarchae
arno, yn adeg amddiffyn Cymru. Cymerodd Rhys ei fab ef yn 1202; ac
wedi hynny bu Gwenwynwyn, Rhys Ieuanc, a Rhys Grug yn ymladd yn ei
wydd. Llawer un fu farw yn y ffos sydd eto i'w gweled yn amgylchu
darnau'r castell,--ond mwynach yw'r olygfa geir o hono heddyw na
golwg ar ei hanes. Y mae gwastadedd bychan gwyrdd rhyngddo a'r
afon, y mae'r dref ar y gwastadedd odditano, ac onid ofer i mi
geisio darlunio prydferthwch dyffryn y Tywi?



Y GARREG WEN



Cychwynnodd tri o Gricieth ar fore hyfryd ym mis Awst diweddaf i
weled cartref Dafydd y Garreg Wen, ac un o'r tri hynny sy'n
ysgrifennu yr hanes di-addurn ond cywir hwn.

Yr oeddym yn tybied, er i ni weled llawer bau tlws, na welsom ddim
tlysach erioed na Bau Cricieth y diwrnod hwnnw. Yr oedd y mor
diderfyn o'n blaen, ac yr oedd y glesni hwnnw arnom na welsom yn
unlle ond ar draethell Mor y Canoldir, dan gysgod mynyddoedd
Liguria. Ar un ochr iddo yr oedd bryniau Meirion, fel llinell
euraidd rhy dyner i ddisgleirio. O'n blaen ymgodai Moel y Gest fel
caer anferth, a gwelem y ffordd hir yn dirwyn hyd yr ochr tuag ati.
O'n hol safai castell Cricieth, yn hyf fel pan y canai Iolo Goch
iddo, ond heb ogoniant ac heb oleuni mwy. Ar ein chwith yr oedd
pigau mynyddoedd gleision yn codi ac yn colli o'n golwg gyda phob
codi a gostwng yn y ffordd. Ar ein llaw dde yr oedd y mor, ac
adlewyrch haul ar grib bob ton, yn gwneyd i ni feddwl am fyddin
Sennacherib, -


"A phigau picellau fel ser ar y lli
Pan dywynno yr haul ar las ddwr Galili."


Anadlai gwynt braf o'r Wyddfa arnom wrth i ni deithio ymlaen, fel pe
buasai'r gauaf yn dod i ddweyd ei fod wedi tyneru, ac i ofyn cymod.
Yn ol yr oedd hafannau o borfa las rhwng creigiau, a'r mor tawel
dwfn islaw. Ymlaen wele fynyddoedd a chreigiau mawr, ar ffurf
muriau, megis wedi eu codi drwy hud. Ac yr oedd gwenau'r haul yn
aros ar flodau gwylltion ochr y ffordd. Ffordd eithaf unig ydyw, yr
oedd yn pasio ty bychan adfeiliedig o hyd. Yr oedd y tai hyn yn
sefyll yn y lleoedd mwyaf dymunol,--dan gysgod craig neu ar lan aber
wyllt,--ond y mae eu preswylwyr wedi mudo, mae'n debyg, i'r tai mwd
newyddion sy'n codi megis cabanau un-nos, o amgylch Cricieth.
Gwelsom un fynedfa adfeiliedig hefyd, gyda'r glaswellt yn prysur
orchuddio'r graian, fel pe buasai'n arwain at balas anghyfannedd.

Wrth Fron y Gader, troisom o'r ffordd i lecyn caregog, ac yna i lawr
i gyfeiriad y mor. Yr oedd yn boeth orlethol, ac araf iawn y
teithiem ymlaen. Cawsom ein hunain mewn morfa hir. Braich o'r mor
oedd unwaith, mae'n ddi-ddadl, ond llenwodd rhyw afonig fach brysur
y gilfach a daear. Y oedd ffosydd wedi eu torri ar hyd y morfa, ac
yr oedd gwair yn ei ystodiau yn sychu'n braf. O ganol y morfa cyfyd
bryn bychan, bryn fu'n ynys unwaith, ac ar ben y bryncyn gwelem
eglwys ddi-addurn. Dyna Ynys Cynhaiarn, ac yn ei mynwent y gorwedd
Dafydd y Garreg Wen. Cyfeiriasom ati'n araf ar hyd y ffordd las
gwmpasog, tra'r oedd y caeau a'r mor yn ymddangos yn gydwastad,--y
naill yn wyrdd a'r llall fel arian byw.

Yr oeddym braidd yn lluddedig, ac ni waeth cyfaddef nad oeddym wedi
bwriadu dadluddedu yn Ynys Cynhaiarn uwch ben cwpanaid o de Ond och!
Nid oes yn ymyl yr eglwys, nac yn agos, ond beudy to brwyn
adfeiliedig. Y mae porth yr eglwys ymron mynd a'i ben iddo, ond y
mae rhyw fath o drwsio musgrell wedi bod ar yr eglwys droion.
Morwyr ac amaethwyr sy'n gorwedd yn y fynwent. Y mae rhyw Lywelyn
Cymreig yn gorwedd yno, a Charreg o Gernyw, a Mac Lean o'r Alban.
Gwelsom fedd pilot wedi boddi, a gwelsom lawer enw prydferth heblaw
Llwyn y Mafon. O'r diwedd, yn un o'r corneli agosaf i'r mor, cawsom
y bedd yr oeddym yn chwilio am dano. Carreg las sydd ar y bedd
hwnnw, ar ei gorwedd, ychydig yn uwch na'r lleill. Ar ben y garreg
y mae llun telyn mewn cylch, ac yna yr ysgrifen hon, -


BEDD DAVID OWEN
neu Ddafydd y Garreg Wen.
y Telynor rhagorol
a gladdwyd 1749,
Yn 29 oed.

Swynai'r fron, gwnai'n llon y llu--a'i ganiad,
Oedd ogoniant Cymru;
Dyma lle cadd ei gladdu,
Heb ail o'i fath, Jubal fu.
E.O.


Y mae'r bedd yn un o'r rhai mwyaf dinod ymysg y beddau dinod sy'n
llenwi'r fynwent hon; ac oni bai am ofal Elis Owen o Gefn y Meusydd,
ni fuasai yno garreg o gwbl. Uwch ben bedd y cerddor saif danadl
poethion a checs a llysiau bras, anhyfryd eu harogl. Y mae'r
fynwent a'r eglwys yn ddarlun o bethau wedi eu gadael. Y mae'r
eglwys wedi ei phlastro drostri, heb neb i ofalu am ei
phrydferthwch, ac yn wag. Y mae'r fynwent mor anhrefnus a phe
buasai pla wedi difa holl drigolion y fro, ac wedi gadael i'r marw
gladdu'r marw.

Eto i gyd, nid ydyw'r fan dawel unig heb brydferthwch. Yr oedd un o
honom wedi blino, a rhoddwyd ef i gysgu ar fedd Dafydd y Garreg Wen,
a'i glust ar y delyn. A glywodd alawon yn ei gwsg, nis gwn.
Cerddasom ninnau, y ddau effro, o amgylch y llannerch gysegredig.
Gwelsom mai mynwent bedair-onglog oedd, gyda choed yn estyn eu
canghennau drosti. O'i hamgylch y mae'r morfa isel, ac yna cylch o
fynyddoedd yn edrych dros y morfa arni. Pan oedd yn ynys, yr oedd
yn brydferthach nag ydyw'n awr.

Wedi treulio rhyw awr yn y fynwent, yr oeddym yn effro ein tri, ac
yn newynog iawn. Troisom yn ol i'r ffordd, a chyrhaeddasom Bentre'r
Felin. Te fynnai dau o honom, byddai'n hawdd cerdded ar ei ol,
llaeth fynnai'r llall. Troisom i dy hen ffasiwn a'r enw
"Temperance" wrth ben ei ddrws. Tra bo'r tecell yn berwi, buom yn
edrych ar lun llongau oedd hyd y mur, ac yn ysgwrsio a'r cwsmeriaid
oedd yn dod i'r siop pob peth. Yr oedd y cloc awr yn rhy fuan, yr
oedd Beibl a llyfr hymnau ar y bwrdd, ac yr oedd cylch o addurniadau
o amgylch carreg y llawr. Gwnaeth y wraig garedig de da, ac nid
oedd yn esmwyth heb ganlyn arnom i fwyta'n ddibaid.

Wedi ymgryfhau fel hyn, ail gychwynasom hyd ffordd Porth Madog.
Gwelem eglwys Ynys Cynhaiarn ar y gwaelod wedi dringo i fyny bryn ac
yna collodd y mor o'n golwg. Teithiasom ymlaen ar hyd y ffordd
lychlyd, ac yr oedd yn mynd yn boethach o hyd.

O'r diwedd daeth y lle i droi o'r brif-ffordd i ffordd gwlad. Yna
cawsom gysgod hyfryd coed derw bychain, ac yr oedd mantell Fair yn
tyfu dan eu cysgod. Arweiniai'r ffordd i fyny o hyd, ac odditanom
yr oedd nant,--gwyddem ei bod yno oherwydd ei dwndwr mwyn ac
oherwydd fod brenhines y weirglodd yn tyfu uwch ei phen.
Cyrhaeddasom ben y golwg, a daethom o'r coed. Yr oedd y tawelwch yn
adfywiol anesgrifiadwy,--nid oedd yno ond su pell y mor a sain
ambell aderyn mynydd, a gwelem ehedydd yn codi ar ael y goleu.
Gwelem gastell Cricieth, a mynyddoedd Lleyn yn y pellder y tu hwnt
iddo. A gwelem ein ffordd ninnau'n ymdroelli dros y ffriddoedd a'r
bryniau, drwy wlad o greigdir, dros y mynyddoedd oedd rhyngom a'r
mor. Yr oedd anadlu'r awyr iach yno yn bleser,--yr oedd arogl grug
a rhedyn arni. Yr oedd arnom eisiau bwyd er mai newydd fwyta
oeddym. Gwyn fyd, ni a dybiem, y bobl sydd yn byw yn y fro iach
hon. Holasom y ffordd i'r Garreg Wen yng Ngarth Morthin, ac wedi
dringo aml fryn serth cyrhaeddasom eglwys Treflys. Saif yr eglwys
fechan hon yng nghanol caeau gwair, heb na thy na thwlc yn agos ati,
a buom yn crwydro tipyn o'i hamgylch cyn darganfod llwybr troed i
fynd ati. Y mae golwg newydd iawn ar yr eglwys ac ar y beddau; yr
oedd y fynwent yn debycach i fynwent ar hanner ei gorffen nag i hen
un. Gwelais lawer pennill ac englyn tarawiadol. Dyma bennill
oddiar fedd merch Braich y Saint, -


"Gorffwysodd, gadawodd yr anial ar ol,
Tu draw i'r Iorddonen y glaniodd;
A'r Iesu dderbyniodd ei hysbryd i'w gol,
Can's ffyddlon yw'r hwn a addawodd."


Dyma englyn, hefyd, am y Cristion, -


"Os tan y gist mae'r Cristion,--ei ddu fedd
Sydd fel man-blu'n union:
Mae rhyw fwynhad mawr fan hon
Yng nghlyw su engyl Seion."


Dyma sydd ar fedd Bardd Treflys, -


Gu wr, rhawg erys ar go'i ragoriaeth,
Cywirdeg ydoedd, caredig odiaeth;
O Seion o'i ol cyfyd swn alaeth,
Am ei llawn noddwr trwm yw Llenyddiaeth,
Am wawr hoffrudd, am air ffraeth--Bardd Treflys
Drwy Eifion erys diderfyn hiraeth.


Y mae'r olygfa o fynwent Treflys yn ogoneddus. Y mae mynyddoedd
Lleyn, Arfon, a Meirionnydd yn gylch am dani ac y mae un bwlch yn y
cylch, a mor glas pell sydd yn y bwlch hwnnw. Buom yn eistedd ar y
llethr, ar gae adlodd, i synnu at yr olygfa, ac ni cheisiaf fi ei
darlunio. Daeth dyn heibio, a danghosodd dalcen y Garreg Wen, draw
ymhell, dros ddyffryn a gwastadedd.

Yr oedd y dydd yn mynd, a'n ffordd ato'n hir. Aethom i lawr gore
gallom hyd y caeau serth i'r Morfa Bychan, lle agored ystormus,
gydag ychydig o ddefaid yn blewyna hyd dwmpathau grugog dyfai yma ac
acw yn y tywod. Ond dipyn oddiwrth y lan, yr oedd caeau gwastad fel
bwrdd, dan wenith tonnog. Wedi taith flin gadawsom y mor, a daethom
at lyn ar ochr y ffordd, a lili'r dwr ar ei ymylon. Oddiwrth y llyn
arweiniai ffordd dywodlyd i fyny at dy gwyn ar y fron. Dringasom i
fyny, heibio i ffynnon o ddyfroedd clir. Daethom at gefn y ty, ac
yr oedd geneth fach yn cychwyn i hel y gwartheg.

"Ai hwn ydi'r Garreg Wen?"

"Ie, mae meistres yn y ty."

Gyda'r gair daeth gwraig ieuanc i'r drws, a dywedodd fod croeso ini
weld y ty. Gwelodd fod yr ieuengaf o honom wedi blino. Daethom yn
ffryndiau mawr, ac ni chawsom fwy o groeso yn unlle erioed. Yr oedd
y gwartheg yn y fuches, ond cawsom de dan gamp. Yna cawsom weled
holl ystafelloedd cartref y telynor. Hen amaethdy clyd ydyw'r
Garreg Wen. Ty hir ydyw, a'i dalcen i'r graig, yn un uchder llofft.
Y mae adeiladau o'i gwmpas bron ym mhob cyfeiriad, a gerddi fel pe
ar silffoedd craig, a choed ffrwythau. Oddiamgylch tyf gwynwydd a
phys llygod a phob blodeuyn gwyllt. A thraw wrth gefn y ty y mae
craig,--hwyrach mai hon ydyw'r Garreg Wen,--yn cysgodi'r ty rhag
gwynt yr ystormydd. Yr oeddwn wedi clywed mai wrth garreg ar ben y
mynydd y cyfansoddodd Dafydd "Godiad yr Ehedydd." Dywedwyd wrth
enethig am ddod gyda fi i ben y caeau i ddangos y garreg. Yr oedd
yr olygfa'n ehangu o hyd wrth i ni ddringo o gae i gae, a dyma
ddiwedd ysgwrs fu rhwng yr enethig a minne,--"

"Fedri di ganu?"

"Medra."

"Fedri di ganu 'Dafydd y Garreg Wen' i mi? Neu 'Godiad yr
Ehedydd'?"

Edrychodd y plentyn yn syn arnaf.

"Wyt ti ddim yn dysgu canu yn yr ysgol?"

"Ydw."

"Wyt ti'n dysgu canu Cymraeg?"

"O nag ydw!"

"A ddysgodd neb erioed i ti ganu alawon Dafydd y Garreg Wen, a
thithau'n byw yn yr un wlad a fo?"

"Naddo."

"Be fedri di ganu?"

"'Little Ship' a 'Gentle Spring.'"

Yr un dystiolaeth brudd wyf yn gael ymhob man yng Nghymru. Mae
cartref enwog yn ymyl y plentyn,--lle cyfieithwyd Gair Duw i'w
iaith, lle rhoddwyd ar gan ryw wirionedd wareiddiodd ei gyndadau,
lle daliwyd rhyw alaw nefolaidd i buro a diddanu meibion dynion byth
mwy,--ond, druan bach, ni wyr ef ddim am danynt. Feallai fod ei
athraw neu ei athrawes heb fedru ei iaith, ac felly'n hollol
anghymwys i'w ddysgu. Feallai, mewn ambell i ran o'r wlad, fod ei
athraw yn Gymro, ond rhy anwybodus i ddysgu dim iddo am ei wlad ei
hun, ac yn rhy ddi-athrylith i weled gogoniant llenyddiaeth Cymru.
Dysgir alawon yn yr ysgolion, ac eto ceir ardaloedd cyfain lle nas
gall y plant ganu "Llwyn Onn." Rhaid fod rhyw swyn anghyffredin yn
alawon Cymru, yn ogystal ag yn ei hiaith, onide buasai galluoedd
Philistaidd y byd hwn wedi eu llethu er's llawer dydd. Y
Llywodraeth, yn credu fod yr iaith Gymraeg yn draffeth i'w
swyddogion tal; arolygwyr, wedi rhoddi eu cas ar iaith nas gallant
ond ei hanner siarad; athrawon, wedi dad-ddysgu Cymraeg da wrth
ddysgu Saesneg sal,--neu heb fedru erioed ond y Saesneg sal yn unig;
goruchwylwyr anwybodus, yn credu fod nef a daear yn agored i'w plant
os medrant ddeall Saesneg bratiog porthmyn Caer,--druan o eneidiau
plant Cymru rhyngddynt oll.

Cyrhaeddasom y garreg. Carreg fawr ydyw, ar ben cae glas. Dywed yr
hanes fod Dafydd yn dod adre o Hafod y Porth ar lasiad y bore. Yr
oedd yr haul yn dechre goreuro y mynyddoedd gogoneddus acw, ac yr
oedd ehangderoedd y mor yn y golwg. A chododd ehedydd bach
uwchlaw'r coed, ac arllwysodd lawenydd y bore mewn can. Rhoddodd
Dafydd ei delyn i lawr wrth y garreg hon, a chyfansoddodd "Godiad yr
Ehedydd."

Wedi cyrraedd y Garreg Wen yn ol yr oedd gwahoddiad cynnes i ni aros
noson. Ond yr oedd yn rhaid prysuro ymaith. Cerddasom yn brysur
tua Phorth Madog, ar hyd rhiwiau lawer. Gwelsom lawer hafan
brydferth, ac aml gip ar y Traeth Mawr a Chastell Harlech rhwng y
coed. Yr oedd tri yn prysuro trwy ystryd hir Porth Madog, a chyda i
ni eistedd yn y tren, yr oeddym yng Nghricieth yn ol. Teimlad
dedwydd, wrth gysgu ar lan y mor y noson honno, oedd y teimlad ein
bod wedi gweled bedd y telynor ac wedi bod yn y Garreg Wen.



TYDDEWI



"Cystal am ofal im yw
Fyned deirgwaith i Fynyw,
A myned, cynired cain,
Ar hafoed hyd yn Rhufain."
IOLO GOCH.

Yr oedd wedi taro chwech o'r gloch y bore er ys pymtheng munud neu
well pan garlamai ein merlen hoew drwy heol hen Hwlffordd, gan
deimlo nad oedd mwy o bwysau yn ein cerbyd ysgafn na phe buasai ddim
ond bwcwl addurnedig i gadw'r awenau yn eu lle. Naw o'r gloch y
noson cynt, yr oeddwn wedi gadael Llundain a'i chyffro, gan ddisgwyl
gweled y bore'n torri ar fynyddoedd Cymru, a chan wybod fod rhyw
dawelwch yn gorffwys ar y mynyddoedd hynny, tawelwch iachaol,
heddwch a sudda fel balm i enaid y neb a hir edrycho arnynt.
Heddwch y mynyddoedd,--dyna feddyginiaeth meddwl pryderus, a dyna
adnewydda y corff curiedig fel yr eryr. Aml y teithia enaid Cymro i
fynyddoedd ei wlad.

Ar hyd y daith nos bum yn breuddwydio'n anesmwyth yn y tren.
Breuddwydiwn ein bod yn chwyrnellu drwy ddinasoedd distaw
anghyfannedd,--yr oedd Caerloew wedi ei hanrheithio gan bla, a'r
glaswellt yn tyfu ar hyd ei hystrydoedd; yr oedd Casnewydd dan y
mor, a dim ond rhyw drumau aur, fel crib, yn codi o'r tonnau oer
brigwynion; yr oedd adfeilion anferth Caer Dydd yn goedwig o eiddew
a mieri, a'r mor wedi cilio oddiwrth ei glan. Ond yr oedd edyn aur
y bore ar Lyn Nedd ac ar fau Abertawe, er mai prin y medrai'r dydd
fy argyhoeddi nad anialwch du oeddwn wedi adael ar fy ol. O wlad y
nos i wlad y bore yr oedd fy nhaith.

Nid oedd gennyf ond dwy noswaith a diwrnod i mi fy hun. Rhaid oedd
treulio'r ddwy noswaith yn y tren, a mwyn oedd meddwl y cawn
dreulio'r diwrnod yn Nyfed, a mynd ar bererindod i Dyddewi. Bu
pererinion dirifedi'n cyrchu ar hyd y ffordd hon, yn hen oesoedd
cred, tua Thyddewi; oherwydd yr oedd mynd yno deirwaith mor
haeddiannol a phe'r eid dros dir a mor i Rufain ei hun,--ceid yr un
gollyngdod am bechod, yr un iechyd corff, yr un heddwch meddwl. Ac
i'r neb deithiodd Ddyfed hyd Dyddewi yn nyddiau cynnes hirion
esmwyth yr haf, nid anhygoel yw'r traddodiad nad oes afiechyd na
gwenwyn na phechod yn trigo yn naear sanctaidd Dewi.

Gwell i mi gyfaddef ar unwaith mai nid marweiddio'r cnawd oedd amcan
fy mhererindod, onide buaswn wedi mynd yn y gauaf, a buaswn wedi
cerdded dros yr holl fryniau tonnog sy'n ymestyn rhwng Hwlffordd a
Thyddewi. Yr oeddwn wedi deall y byddai un o geffylau goreu'r wlad,
ac un o'r gyrrwyr goreu, yn fy aros yng ngorsaf Hwlffordd. Bu'n
edifar gennyf droion yn ystod y dydd na fuaswn wedi cerdded; ond, o
ran hynny, gorfod i mi gerdded llawer, ac nid o'm bodd.

A dyma ni'n carlamu drwy stryd Hwlffordd. Mor hyfryd ydyw'r cerbyd
ysgafn ar ol y tren trwm, ac mor iach ydyw awel y bore dros y
bryniau gleision acw. Y union o'n blaenau ymgyfyd castell
Hwlffordd, gan wgu i lawr arnom, ac ar yr hen dref ddyddorol yr ydym
yn cyflymu drwyddi. Toisom ar y dde wrth droed craig y castell, ac
aethom drwy ystryd gul ar garlam wyllt, er perygl nid ychydig i'r
plant troednoeth coesnoeth oedd yn ymhyfrydu yn y dwr ac yn y llaid
sydd ar hyd ochrau ac ar ganol y Stryd Dywell. Dywedai'r gyrrwr mai
ym Mhenfro Seisnig y mae Hwlffordd, ac na siaredir gair o Gymraeg
ynddi. Gwelwn yn amlwg oddiwrth enwau'r siopwyr fod llawer cenedl
yn trigo yn y dref. Bleddyn Gymreig mewn heddwch a Havard
Normanaidd.

Sais oedd y gyrrwr, a charn Sais. Ni wyddai ddim am Arthur, ni
chlywodd son am William Havard, ni wyddai ddim am hanes y dref. Sur
ac anfoddog oedd ei drem, ac nid oedd ei iaith mor goeth ag iaith
ambell un, oherwydd yr oedd yn rhy hoff o son am drigolion y
tywyllwch wrth eu henwau, a mynych gyfeiriad a wnai at ei enaid byw.
Ceffylau, cwn, a da pluog oedd hoff destyn ei ymddiddanion; ond am
gyfarfodydd pregethu, neu ysgolion y fro, neu ei cholegau, gwyddai
lai na dim. Yr oedd ganddo ddaliadau gwleidyddol, ac nid oedd arno
gywilydd eu harddel. Yr oedd yn ddyn gonest, yn eithaf caredig, ac
yn barod iawn i dystio mai gwir bob gair oedd yr holl ystraeon
adroddai.

Dyma ni ar ben y rhiw cyntaf, a gwlad Dyfed hen wlad yr Hud, gwlad
chwedl am bagan a sant, yn ymestyn o'n blaenau. Golwg oer a thrist
sydd arni, gwlad o fryniau penisel, yn ymestyn fel tonnau tua gorwel
y gorllewin, heb for yn y golwg, heb fynydd. Ffermwyr, moch,
gwyddau, peiriannau lladd gwair,--edrychent am y pruddaf. A thraw,
yn hanner cylch o'n blaenau, yr oedd cymylau gwgus yn llawn o wlaw
oer. Ceisiai'r gyrrwr fod yn llawen, ond yr oedd amheuaeth yn ei
lais wrth iddo ddweyd,--"Cloudy mornin', fine day, sir." Gyda hynny
disgynnodd y gwlaw arnom fel pe'i tywelltid o grwc, a chlywn y
defnynnau'n rhedeg i lawr rhwng fy nghrys a'm croen. Anodd canu yn
y gwlaw, ac eithaf digalon oeddwn innau. Treiai'r gyrrwr fy
nghysuro, a thynnu fy sylw at rywbeth oddiwrth fy sefyllfa
anghysurus ac anwydog. Danghosodd ddyffryn bychan i mi, a dywedodd
gyda blas ei fod yn lle ardderchog am lwynogod a dyfrgwn. Dywedais
innau nad oeddwn yn cymeryd y dyddordeb lleiaf mewn llwynogod na
dyfrgwn; ac nad oedd dim casach gennyf na chwn hela, ond y bobl fydd
yn eu dilyn. Daethom at afonig fechan dryloew, oedd yn rhedeg drog
raian glan, dan lwyni o frwyn a llysiau'r gwenyn; ac wrth fy ngweled
yn edrych ar y blodau, dywedodd y gyrrwr fod y nant yn lle
ardderchog i bysgota brithylliaid, a gofynnodd i mi a oeddwn yn
ddaliwr da. Dywedais fy mod wedi dal un brithyll unwaith, a fod yn
edifar gennyf byth; ond ni fedrai ddeall hynny. Yr oedd y gwlaw yn
dal i ddisgyn, a'm calon innau'n drom. A dechreuodd y gyrrwr ganu,
gan wneyd pob swn rhwng swn hogi llif a swn melin goffi. Gofynnodd
i mi toc a oeddwn yn hoffi canu, a dywedais innau nad oeddwn wedi
clywed canu er ys rai dyddiau. Yr oeddwn yn ddrwg fy hwyl, ac ni
phetrusodd y gyrrwr ddweyd gan ba fod y blinid fi.

Ond, gyda hynny, peidiodd y gwlaw, a gwenodd yr haul ar Ddyfed.
Siriolodd y ffurfafen, a gwenodd Dyfed arni drwy ei dagrau. Y mae
gwen yn disgyn ar rudd brenhines y weirglodd, dacw fynyddoedd a
chastell a'r mor, a gallasech glywed dau wlyb yn bloeddio canu dros
yr holl wlad. "Dydech chi ddim llawer o ganwr," ebai'r gyrrwr, ar
ddiwedd y gan. "Nag wyf," ebe finnau, "nid ydych chwithau ddim
chwaith, y mae fy llais i wedi ei golli o hir ddistawrwydd, a'ch
llais chwithau wedi ei andwyo gan ormod siarad."

Castell Roche oedd y castell a welem. Un twr sydd o hono, a saif
hwn ar drwyn craig sy'n ymwthio i fyny drwy'r garreg galchaidd.
Gellir ei weled o bell o bob ochr; y mae'n ddu ac uchel a balch fel
gorthrwm, yn gwgu ar holl ddyffrynoedd y wlad hon. Wedi i ni ei
adael dywedai'r gyrrwr ein bod yn nesu at y terfyn rhwng Dyfed y
Saeson a Dyfed y Cymry, a chefais dipyn o hanes y ddwy genedl
ganddo. Nid oedd gwleidyddiaeth Cymry Penfro wrth ei fodd, a
gyrrai'n enbyd ar y personiaid am na ddysgent well credo iddynt.
Ond dywedai eu bod yn gynnil, yn llwyddiannus, ac yn bobl iach a
chryf. Ond anffawd fawr oedd eu bod yn siarad Cymraeg, ac yntau'n
deall yr un gair.

Tra'r oedd y gyrrwr yn traethu ei ddoethineb fel hyn, yr oedd
golygfa ogoneddus o'n blaenau,--creigiau'n taflu allan o'r ddaear ar
y dde i ni, a chastell Roche o hyd; a'r mor, gyda'i benrhynnoedd a'i
ynysoedd, ar ein chwith ac o'n blaenau. Cyn hir, disgynasom ar hyd
y rhiw at dafarn Niwgel. Y mae hon ar lan y mor; ac yn union ar y
terfyn, fe ddywedir, rhwng y wlad Gymraeg a'r wlad Saesneg. Yr
oeddym ninnau yma ar hanner ein ffordd, ac yr oedd yn rhaid i'r
ferlen a'r gyrrwr wrth lymaid. Y mae'r dafarn mewn lle unig, mewn
pantle ar y lan, ac ymron yn anhygyrch yn y gauaf, gallwn feddwl.
Ond y mae llawer o gyrchu yno yn yr haf. Pe buaswn yno drannoeth,
buaswn yno ar y dydd dawnsio, sef dydd Iau. Y mae traeth o dywod
melyn caled gerllaw'r dafarn, a chyrcha bechgyn a genethod yr
ardaloedd cylchynol yno ar nawniau Iau i ddawnsio, a daw lluoedd
mewn cychod o'r lan gyferbyn i'w cyfarfod.

Wrth i mi ddringo ar hyd y ffordd serth ar ol y ferlen o bantle'r
dafarn, gwelwn y traeth prydferth, ac ni welais erioed gymaint
cynulleidfa o wylanod y mor a'r dyrfa o honynt oedd yn edrych yn
astud ar y llanw'n mynd allan. O hyn i Dyddewi yr oedd y wlad yn
dlysach a'r bobl yn fwy dyddorol. Ochrau rhedynog oedd yno, a
gwartheg duon,--yn codi hiraeth am y llefrith melus hwnnw na cheir
ond gan wartheg sy'n pori ochrau mynyddoedd. Brethyn cartref oedd
gwisg y bobl, neu rywbeth ar ei lun,--brethyn da, ffedog stwff, a
bectwn yspotiog. Holent fi'n awchus, a methent wybod oddiwrth fy
iaith o ba ran o Gymru y deuwn. Gwahoddent fi'n groesawus i'w tai,
ond yr oedd yn rhaid i mi gyfeirio eu sylw at y gyrrwr a'i geffyl yn
llafurus ddringo'r gorifyny o'm blaen, ac ymron cyrraedd pen y rhiw.
Byddai raid i minnau redeg, braidd cyn dechreu'r ymddiddan, i ddal y
cerbyd ac i neidio iddo, a rhedai'r ferlen yn chwim, a'i mwng yn yr
awel, hyd nes y deuem at riw drachefn.

Pan ddisgynasom i Solfach, unig sylw'r gyrrwr am y bobl oedd,--
"awful radicals." Hafan fach ddymunol sydd yma, ac y mae gwedd
gyfoethog a llewyrchus ar bob peth. Tra'r oedd y gyrrwr a'i ferlen
yn goblygu i fyny'r rhiw, cefais amser i ysgwrsio a'r fforddolion
ddigwyddent fy nghyfarfod. Hoffwn eu Cymraeg yn fawr, yr oedd mor
syml a melodaidd; ac yr oedd rhyw ledneisrwydd boneddigaidd ynddynt
yn gymysg ag awydd aniwall i siarad.

Ond y mae ein gwynebau ar Dyddewi o'r diwedd. Nid oes bosibl peidio
cofio ei hen enw wrth edrych arni,--"Gwlad yr Hud." Y niwl teneu,
pellder diderfyn y mor, y creigiau ysgythrog acw,--dyma deilwng
gartref i ddefodau erchyll rhyw hen grefydd baganaidd, dyma wlad yr
hoffai ysbryd aflonydd rhyw hen forleidr crwydrol aros am ennyd
ynddi, ar ryw benrhyn neu ynys sydd eto'n dwyn ei enw. Gwlad hyd a
lledrith ydyw, wedi ei gwneyd gan Ddewi yn wlad goleuni'r efengyl.
Ond y mae ei swyn a'i phrydferthwch fel erioed.

Arhosodd y cerbyd yng nghanol Tyddewi, a disgynnais i westy cysurus
a phrydferth. Wedi cael tamaid,--yr oedd erbyn hyn rhwng naw a deg
o'r gloch y boreu,--cerddais ymlaen i gyfeiriad yr eglwys gadeiriol.
Ni welir hi nes dod i'w hymyl, oherwydd mewn pantle y mae. Yna
ymegyr ei hardderchowgrwydd o flaen y llygaid synedig. Er fod ol
adgyweirio arni, meddyliwn am anialwch mawreddog a phrydferth. Yr
oedd rhyw geinder a heddwch rhyfedd wedi gorffwys ar yr hen fangre
hanesiol anwyl. Draw heibio'r eglwys y mae palas yr esgob yn
adfeilion. Ond na feddylier ei fod yn hagr, er ei fod yn
adfeiliedig. Y mae llaw amser wedi rhoddi prydferthwch digymar
arno. Y ffenestr gron, y muriau hirion, y llwydni henafol, y wisg
iorwg,--ym mha le y ceir adfeilion mor gain mewn glyn mor brydferth?

Rhed aber dryloew o adfeilion y palas, neu o ryw ffynnon rinweddol
sydd ynddynt, ac ymdroella dan furmur, fel genethig yn mynd adre o'r
capel, drwy'r dyffryn bach tlws tua'r mor. Nid rhosynau na blodau
gardd sy'n tyfu yno, ond blodau gwylltion Cymru,--llysiau'r mel a
chwilys yr eithin, blodau'r grug a hesg, eithin a rhedyn Mair. Ac y
mae'r dyffryn yn ddarlun o brydferthwch a sirioldeb iechyd. A
meddyliwn y gellid ddweyd am y blodau eiriau Iolo Goch am offeiriaid
Dewi, -


"Engylion nef yng nglan nant."


Yn y pantle hwn, hwyrach, y cododd Dewi Sant ei babell pan ddaeth yn
genhadwr i bregethu'r efengyl i baganiaid Dyfed. Ar lan yr aber
dlos dryloew, sy'n murmur mor ddedwydd ag erioed drwy'r adfeilion, y
bu Dewi'n cydweddio a'i ddisgyblion am i Grist gael holl Gymru'n
eiddo iddo. Ac ychydig feddyliai'r sant yr adeg honno, y mae'n bur
sicr, y doi brenhinoedd ar bererindod at ei fedd ac yr edrychid arno
fel archesgob holl Gymru. Bum neu chwe chan mlynedd ar ol ei farw,
pan oedd ffarf yr eglwys Cristionogol yng Nghymru wedi newid yn
ddirfawr, ceisiodd Gerald Gymro brofi fod Eglwys Cymru wedi bod yn
un, ac yn anibynnol ar Eglwys Loegr, dan archesgob Tyddewi, olynydd
Dewi Sant; a hir y brwydrodd i ailennill i Eglwys Cymru ei
hanibyniaeth hwn. Wedi darostwng esgobaethau Cymru dan lywodraeth
archesgob Seisnig, ac wedi darostwng Cymru i frenin y Saeson, aeth
Tyddewi yn anwylach i'r Cymry o hyd. Pan gododd Glyn Dwr ei faner,
yr oedd yn meddwl am wneyd Tyddewi yn archesgobaeth Cymru, a
phrydferth iawn yw darluniad ei fardd Iolo Goch o'r fangre hyfryd.
Lecyn prydferth a thawel, y mae gwyr goreu Cymru wedi bod yn
hiraethu am yr iechyd a'r tawelwch geir ynnot. Ynnot ti y gorwedd
Dewi Sant a Gerald Gymro a William Morris. A dyma finnau bererin
wedi cael edrych ar dy degwch, ar dy draeth euraidd ar dy ffynnon
loew, ac ar dy flodau gwylltion.



NODIADAU



I.

Tybed fy mod wedi codi awydd ar rywun, yn y dalennau sydd yn y llyfr
hwn, i fyned ar bererindod i rai o gartrefi Cymru; neu i grwydro
dros fynyddodd anwyl ein gwlad? A yw daear gwlad ein tadau ychydig
yn fwy cysegredig i rywun ar ol darllen y peth ysgrifennais?

Ein gwlad ni ydyw. Y mae wedi ei chysegru a hanes ein cenedl.
Ynddi hi y gorwedd ein tadau; mae eu beddau'n sancteiddio'i daear, o
fedd Owen Gwynedd yn eglwys gadeiriol Bangor i fedd Islwyn ymysg
bryniau hyfryd Gwent. Mae cartrefi yma ac acw hyd-ddi, a phlant
ynddynt, llawn o fywyd a gobaith, fel y gwroniaid fu ynddynt gynt;
onid gwaith da yw dangos i'r plant gyfeiriad camrau y rhai
gychwynnodd o'r cartrefi hynny o'u blaen?

II.

Gallu grymus fu gwladgarwch erioed, ac er daioni bob amser. Y mae
hunan-aberth ynddo, collir hunan mewn gwlad; y mae ymsancteiddio
ynddo,--llosga hunanoldeb fel sofl sych a difa'r hen lid teuluol
sy'n chwerwder bywyd barbaraidd, a dug ddyn yn nes at Dduw. Yng
ngrym ei wladgarwch y mae nerth pethau goreu cymeriad dyn; yn erbyn
gwladgarwch y mae'r pethau gwaelaf yn ei gymeriad,--awydd am elw,
cas at ei gyd-ddyn, rhagfarn. Ai arwydd o ddiffyg gallu mewn
gwleidyddwr yw gwladgarwch? Os felly, condemnier Alffred Fawr, y
brenin galluocaf fu gan y Saeson erioed? Ai arwydd o wendid
meddyliol ydyw? Os felly condemnier Dante, y gwr o feddwl cawraidd
wnaeth i syniadau'r Canol Oesoedd fyw byth.

III.

Cartrefi gwledig Cymru yw yr unig gofgolofnau i arwyr ein hanes ni.
Dinod,--anadnabyddus yn aml,--yw eu beddau; nid yw eu gwlad eto wedi
codi llawer o gofgolofnau i'w henw, oherwydd tlodi, nid oherwydd
diffyg serch. Ond y mae'r cartrefi'n aros. Nid adnabyddir lle bedd
Llywelyn na John Penri na Goronwy Owen, ond gwyddom pa le y buont yn
chware pan yn blant.

Ni bydd cyfundrefn addysg Cymru'n gyflawn heb amgueddfa
genhedlaethol. Nis gwn pryd y daw, ond y mae y bardd wedi ei gweled
trwy ffydd.

IV.

"I'r Oriel Wen daw tyrfa lan,
O oes i oes, i wenu'n gu
A'r ddelwau gwyn y dewrion hyn, -
Y tad a'i fab, y fam a'i merch,
Y llanc a'i rian wylaidd rudd,
A'r gwron hen yn fyr ei gam,
A'i ben yn wyn gan flodau hedd,
A'r byd o'i ol a'r nef o'i flaen,
A'i wyr bach gwrol yn ei law
A'r byd a'i droion fyrdd i'w gwrdd, -
'Gwel yma, blentyn, dyrfa gain,
Gwroniaid dewr anfonodd Duw.
I fyw a marw er ein mwyn.

CARADOG hwn, yn hawlio'n hyf
Ei serch i'w fwthyn tlawd a'i wlad
O flaen gorseddfainc teyrn y byd.
A llyma LLYWARCH HEN y bardd,
Yn gwyro'n drwm ar faglau pren,
Ag enaid arwr yn ei wedd
Yn gwylio'r rhyd ar fedd ei fab.

Ac wele drindod fu yn dwyn
Yr enw Owen, mwyn ei sain, -
Y cynta'n canu 'i hirlas gorn;
Y llall a llain yn medi'n ddwys
Ym maes Coed Eulo; 'r olaf un,
Gwr hir y glyn, 'a gwaew o dan,
Dyred, dangos dy darian.'
Ab Einion draw yn gwylio'r aig
A thelyn Harlech yn ei law.

Saif yma ddau, O enwau per, -
Llywelyn Fawr wnaeth Gymru'n un;
A'i wyr ef, olaf lyw ein gwlad,
Ei fywyd drosti 'n aberth roes,
A chwyn yr awel fyth ei frad
Ar fryniau Buallt--lleddfus don.'"
- R. BRYAN.

V
.
Ganwyd Ann Griffiths yn Nolwar Fach, Llanfihangel yng Ngwynfa, yn
1776. Claddwyd hi Awst 12, 1805. Geneth nwyfus, hoff o ymblesera
oedd, nes clywodd bregeth gan Benjamin Jones, Pwllheli, yn
Llanfyllin. Crwydrodd lawer i gymuno i'r Bala, dros y Berwyn maith
unig. Ac onid oes beth o fawredd dieithr y mynyddoedd yn ei chan?

Llyfr bychan dyddorol iawn yw Cofiant Ann Griffiths, gan Morris
Davies, Bangor. Cynhwysa hefyd ei llythyrau a'i hemynnau; cyhoeddir
ef gan Mr. Gee. Dinbych; ei bris yw dau swllt. Dyma ddau ddyfyniad
o hono.

"Byddai golwg ddymunol iawn ar y teulu yn Nolwar yn nyddu, a'r hen
wr yn gardio, ac yn canu carolau a hymnau. Droion ereill, byddai
distawrwydd difrifol megis yn teyrnasu yn eu plith. Byddai Ann yn
nyddu, a'i Beibl yn agored o'i blaen mewn man cyfleus, fel y gallai
gipio adnod i fyny wrth fyned ymlaen a'i gorchwyl heb golli amser.
Mi a'i gwelais wrth y droell mewn myfyrdod dwfn, heb sylwi ar nemawr
ddim o'i hamgylch, a'r dagrau yn llifo dros ei gruddiau, lawer
gwaith."

"Yn Hydref, 1804, priododd Miss Ann Thomas a Mr. Thomas Griffiths,
brawd i'r diweddar Barchedig Evan Griffiths, Ceunant, Meifod. Yr
oedd efe yn wr ieuanc o deulu parchus, o'r un naws grefyddol a
hithau; yr oeddynt hefyd yn agos i'r un oedran, ac yn anwyl iawn o'u
gilydd, fel yr oedd eu hundeb priodasol yn cael edrych arno gan eu
cyfeillion a'u cydnabod yn un hapus iawn. Daeth efe, ar ol eu
priodas, i fyw ati hi i Ddolwar Fechan.

"Ymhen deng mis ar ol priodi, esgorodd Mrs. Griffiths ar ferch, yr
hon o'i genedigaeth oedd yn blentyn gwannaidd iawn, a bu farw yn
bythefnos oed. Ymadawodd y fam serchog ymhen pythefnos ar ol ei
merch fechan, er galar trwm i'w phriod trallodedig, a lliaws mawr o
berthynasau a chyfeillion crefyddol."

VI.

Ar ol tynnu'r darlun sydd yn y llyfr hwn, y mae'r Ty Coch, hen
gartref Ap Fychan, wedi ei dynnu i lawr, ac y mae ty newydd ar ganol
ei adeiladu. Bum heibio Dan y Castell hefyd ddiwedd yr haf
diweddaf; cefais ef ar ei draed, ond heb neb yn byw ynddo. Y mae
Castell Carn Dochan uwch ben mor gadarn ag erioed, a hen fro
hanesiol Penanlliw mor ramantus.

VII.

Merch Hafod Lwyfog, Bedd Gelert, oedd gwraig Elis Wynn o Lasynys,--
Lowri Llwyd wrth ei henw. Hysbyswyd fi na chladdwyd Elis Wynn dan
allor eglwys Llanfair. Yr oedd set Glasynys wrth dalcen yr allor, a
than honno y claddwyd "Bardd Cwsg." Ond, erbyn heddyw, y mae allor
yr eglwys newydd wedi ei hestyn dros y set a thros y bedd.

VIII.

Gresyn fod "Ieuan Gwynedd, ei fywyd a'i lafur, gan Robert Oliver
Rees, Dolgellau" mor brin. "Llyfr i bobl ieuainc" ydyw; ac y mae'n
un o'r llyfrau mwyaf bendithiol y gall bachgen neu eneth ei ddarllen
byth. Y sawl a'i meddo, rhodded fawr bris arno.

IX.

Nis gwn ddim i sicrwydd am Ddewi Sant. Nid wyf yn barod i ddweyd ei
fod yn fwy na bod hanner dychmygol, fel Arthur.

X.

Cyflwynir y llyfr hwn i rieni Cymru, lle mae gwaith a serch yn
gwneyd y cartref yn lan a santaidd; ac i blant Cymru, a gofiant am
eu cartrefi anwyl byth.







 


Back to Full Books