Gwaith Twm o'r Nant (Cyfrol II.) The Works of Twm o'r Nant, Volume II
by
Twm o'r Nant (Thomas Edwards)

Part 1 out of 2








This etext was prepared by David Price, email ccx074@coventry.ac.uk
from the 1910 "Cyfres Y Fil" edition edited by Sir Owen M. Edwards.





This Etext is in Welsh





Gwaith Twm o'r Nant (Cyfrol II)




Cynhwysiad

"Dau Fywyd," sef bywyd amaethwr llwyddiannus a bywyd prydydd tlawd
"Bonedd a Chyffredin," teimlad Cymru yn amser Chwyldroad Ffrainc
Hafgan Twm o'r Nant
"Anwyl Gyfaill," cerdd i un dan groesau
Cywydd y Galon Ddrwg
Pedair Colofn Gwladwriaeth,--sef Brenin, Esgob, Ustus, a Hwsmon.
Interliwd yn dangos bywyd y wladwriaeth
Cyffes y Bardd
Cywydd Henaint



Rhagymadrodd.



Ganwyd Thomas Edwards (Twm o'r Nant) ym Mhen Porchell, Llan Nefydd,
yn 1739. Pan nad oedd ef ond hogyn, symudodd ei rieni i'r Nant
Ganol, Henllan. Nid oedd dim yn neillduol, hyd y gwyddis, yn ei
rieni; gweithient yn galed, ac nid o'u bodd y rhoddai eu bachgen
athrylithgar ei amser gorffwys i lyfrau. Ennill ei damaid oedd neges
ei fywyd. Canlyn ceffylau, gyrru gwagen, a llwytho coed, oedd ei
brif orchestion. O amgylch Dinbych y treuliodd ran fwyaf ei oes, er
iddo grwydro i ddyffrynoedd Hafren a Thowi yn ei dro; yn Nyffryn
Clwyd hefyd y treuliodd ei henaint. Yr oedd yn wr cadarn o gorff,
parod ei ddyfais, ond ni lwyddodd yn y byd. Bu farw Ebrill 3, 1810,
gan mlynedd i eleni; a chladdwyd ef ym mynwent yr Eglwys Wen, ger
Dinbych.

Yn anhymig y ganwyd ef, a dyna'r pam na chafodd ei athrylith, er
cryfed ei hadenydd ac er cliried ei llygaid, ei lle priodol ym meddwl
Cymru. Pe ganesid ef yn gynt, cawsai feddwl Cymru iddo ei hun; a
hwyrach y buasai cenedl yn deffro i weled ei hun yn nrych y ddrama.
Pe ganesid ef yn ddiweddarach, buasai'r Diwygiad wedi puro ei genedl
ac wedi sancteiddio ei enaid yntau, a gallasai ddangos ei hun i
genedl newydd yn yr un drych. Ond daeth Twm o'r Nant yn oes y
Diwygiad, pan oedd cedyrn pulpud Cymru yn galw ar y genedl i edrych o
honi, nid iddi, ei hun. Er hynny, y mae interliwdiau Twm o'r Nant yn
naturiolach a pherffeithiach darlun o fywyd y ddeunawfed ganrif na
dim arall a feddwn.

Yr oedd cydymdeimlad Twm a'r werin, rhed holl nerth ei serch mawr at
y tenant gorthrymedig a'r gweithiwr. Yr oedd ysbryd y Chwyldroad
Ffrengig ynddo yntau, ond gyda gwelediad clir, a ffydd.

Yr oedd yn ddiwygiwr ei hun, mae ei holl waith, gydag un eithriad,
mor rymus dros foesoldeb a phregethau'r Diwygiad. Ni welodd holl
ddrwg chwant y cnawd.

Fel dramayddwr y mae'n fwy nag yw'r Wyddfa yn Eryri, saif yn
llenyddiaeth Cymru heb neb yn agos ato. Y mae pob cymeriad
ddarluniodd yn fyw, nid yw'n gwneyd i glai difywyd siarad, ac nid yw
byth yn ail gerdded yr un llwybr. Ond yr esboniad ar ei ddylanwad yw
ei allu rhyfedd i siarad fel ysbryd goreu ei oes,--yn synhwyrol, ac
ar yr un pryd yn llawn dychymyg; yn hynaws, ac eto heb arbed y drwg.
Ni fu sant na phechadur yn hanes Cymru eto heb deimlo fod Twm o'r
Nant wedi dweyd y gwir.

OWEN M. EDWARDS.



DAU FYWYD. {1}
(Alaw-. "Rodney.")



Y puraidd Robert Parri,
Maddeuwch imi 'mod
Yn awr yn cynnyg gyrru canu,
I geisio clymu clod
I chwi, sy'n byw mewn llawnder,
A'ch pleser, yn eich Plas,
Gyda'ch meibion yn heddychlon,
Heb unrhyw galon gas;
Teulu ydych hoew wladaidd,
Yn byw'n ddifalch ac yn ddofaidd,
Nid hel "Meistr" ac ymestyn,
A champ-godi a chwympo gwedy'n;
Wrth fyw'n gytun at ddaioni
Fe ddaeth mawrhydi i'ch rhan:
Eigion rhediad ac anrhydedd
Yw'ch mawredd yn eich man;
Mae eich maesydd, wych rymusiant,
A'ch 'nifeiliaid, i chwi'n foliant;
Ychen, defaid, a cheffylau,
A da blithog, laethog lwythau;
Pob angenrheidiau 'n rhadus,
A threfnus yma a thraw,
A Duw'r heddwch, mae'n arwyddo,
'N eu llwyddo dan eich llaw.

Maith yma John a Thomas,
Cyweithas frodyr cu;
A da yw'ch golwg chwi, 'r hen geiliog,
Awch talog wrth eich ty:
Mae'n hwythau 'n ddynion ethol,
Naturiol ym mhob taith,
A di ynfydrwydd ill dau'n fedrus,
A gweddus yn eu gwaith;
Felly rhyngoch yn llwyr wingo,
Mawrhydi'ch llwyddiant a'ch holl eiddo,
Nes eich myned, hwylied helaeth,
Yma'n degwch i'ch cym'dogaeth;
A chywaeth tai a chaeau,
Sydd i'ch meddiannau'n ddwys;
Fe dal eich llawnder, a'ch call undeb,
Drwy burdeb aur da bwys:
Rhyfedd fendith, rhyfedd fwynder,
Sy'n ddymunol dan eich maner;
Rhyfedd rhagor chwi fawrhyged,
A m'fi ac eraill yn fegeried;
Chwi ar led mor lydan,
A'ch arian glan drwy glod -
Minnau'n ffwlyn, dwlyn, diles,
Anghynnes, gwag y 'nghod.

Chwi'n magu anifeiliaid,
Moch, a defaid iawn
Gweirgloddiau, a chauau, tai, a'ch heol,
Sy'n llwyddol ac yn llawn:
Minnau dim fagais
At fantais eto i fyw,
Ond lladd ceffylau, dilyn ffoledd,
Anrhydedd oeredd yw:
A'r hyn a fagais o'm rhywogeth,
Mewn twrr o gwynion, oedd tair geneth;
Mae rhei'ny a'u mam mewn dinam dyniad,
Er fy 'mgeledd lawer galwad
Mae'r merched bawb am orchwyl,
Yn ol eu hwyl eu hun,
Yn troi eu helynt at ryw alwad,
A'u teimlad yn gytun;
Eu mam a minnau sydd yn myned,
Fel rhai eraill, ar i wared;
Tua'r bedd mae gwedd ogwyddiad,
Rhieni'n mynd, a'r plant yn dwad:
Mae treigliad asiad oesau
Fel tonnau miniau mor,
Neu ffrwd gyffredin olwyn melin,
Yn dirwyn yn ddi dor.

A chan nad oes mewn bywyd
Un rhydid yn parhau,
Gwnewch o'ch mammon gyfion gyfaill,
Ceiff eraill eich coflau;
Dadgenir hyn ond odid,
O'ch plegyd chwi a'ch plant,
Pan f'o chwi byddar yn eich beddau,
Tan odlau Twm o'r Nant;
A'r hyn o gysur wy'n ei geisio,
Ni ddymunwn feddu mo'no,
Oni cheir e'n gwbl fodlon,
Heb un gilwg yn y galon;
A'ch rhoddion os cyrhaeddaf,
Cyhoeddaf chwi o hyd;

Ac os y bennod ni dderbynia',
Nis gwn a fyddai'n fud:
Cerdod wlan yw 'nghan a 'nghwynion,
Am hynny gwyliwch dorri'ch calon;
Mae rhagor didwyll rhwng cardode,
A hyn chwi wyddoch, rhowch a wedde':
Ac oni rhowch o'r achos,
Ni wiw mo'r dangos dant,
Fe fu fwy dychryn ar y dechrau,
Na hynny, 'n ochrau'r Nant.

Ond Nant a'i cheunant chwannog,
Sy'n lle afrywiog fri;
Pe rhoech o'ch gog'yd lwyth eich gwagen,
Ni lanwe'i hagen hi;
Pe b'ai ond sych ben sached,
O wyched fydde'i wawr,
Ceid y teulu i gyd at olud,
A'u llwyrfryd i'r droell fawr;
Mi gawn frethyn cryf i'r eithaf,
Imi'n goat erbyn gaeaf;
Gallwn addo i'r wraig mor haw'gar,
Eto fantell at y fentar -
Dull anwar ydyw llunio,
Ag addo o'ch eddo chwi;
Mawrhygu rhoddion cyn y caffon'
Llawenydd cynffon ci;
Pe'ch holl rodd o fodd a fydde'
Ond briwsionyn at bar 'sane',
Mwy fyddai hynny i'w feddu'n foddus
Nag a haeddwn ni'n gyhoeddus:
Ffarwel yn bwyllus bellach,
Fe dderfydd afiach wen,
Gwisgiad gore', gras cyn ange',
I chwi a minne', Amen.



BONEDD A CHYFFREDIN. {2}



(Alaw--"Y Galon Drom.")

Robert Davies, rhyw bert ofyn
A yrraist i mi, yn wers dwymyn,
Oblegid bonedd, blagiad bennau,
A'r cyffredin gyffroiadau;
Nid wy' teilwng nodi at olwg
Am y cyfryw
Faith iawn ymliw, fyth yn amlwg;
Dyn truenus, boenus beunydd,
Ydwy'n wyrdraws,
Rhy ofernaws i'm rhoi'n farnydd.

Wele'r farn yn gadarn gydwedd
A geir inni o'r gwirionedd, -
Mai ffrwyth pechod, arfod hirfaith
O dir uffern, ydyw'r effaith;
Hwn yw'r achos yn oruchel
Cynhyrfiedig;
Pawb am ryfyg, pob ymraf'el;
Yr un anian sy ynnom ninnau,
Ag oedd yn gosod
Cynnyg isod Cain ac Esay.

'Roedd esgus Adda o'i droseddau,
"Y Wraig," medd ef; "Y Sarff," medd hithau;
Felly'r wlad, a'u nad annedwydd,
Bawb a'u hesgus dros eu hysgwydd,
Gwael eu gwedd, a bonedd, beunydd
Sy'n ymliw'n amlwg
Orwag olwg ar eu gilydd;
Fal pren ar demestl, prawf di amau,
Mawr fydd ffwndwr
Acw y'nghynnwr' y canghennau.

A'r ceinciau'n raddau sy'n cyrhaeddyd
Sefyllfaoedd yr holl fywyd;
Tyfiad pawb, o dlawd i frenin,
Sy'n llygreddawl o'r un gwreiddyn;
Nid oes heddyw'n gwneyd eu swyddau,
'N un gelfyddyd,
Neb a'i fywyd na bo feiau,
Naws a gewch mewn is ag uchod
I ryw ddichell,
Ymhob bachell am eu pechod.

Mae rhai penaethiaid, euraidd araith,
A'u hawdurdod yn ddi effaith;
Esiamplau drwg, mewn golwg helaeth,
Sy'n wall anfeidrol mewn llywodraeth
Rhai ynadon rhy niweidiol,
A chyfreithwyr
Sydd anrheithwyr swydd anrhaethol,
A rhai personiaid, pwy resyna?
Ymhob ffiaidd
Naws aflunaidd, nhw' sy' flaena.

A thra fo'r blaenaf heb oleuni,
Yn twyso'r dall i ffos trueni,
Swn digofaint sy'n dygyfor
Yspryd Saul, elynol flaenor,
Lladd y plant er mwyn dieithriaid,
I geisio cadw
Yn 'r ymyl acw'r Amaleciaid;
Cryfhau breichiau annuwioldeb
Mewn drygioni,
Daw'n warth i ni, a Duw'n wrthwyneb.

Mae'r saith angel ar eu siwrnau,
Yn dechreu tywallt eu phiolau;
Llawer gwae sy'n llwyra gwewyr,
I'w rhoi yma i'r rhai amhur;
Gwae rhai gydiant faes at faesydd,
Nes bod gwendid,
Oes wall ofid, eisiau llefydd;
Mae n ddi ameu'n anhawdd yma
I dylodion,
Ac elw byrion, gael eu bara.

Dawn medrusgall dyn rhodresgar,
Gwneyd ei dduw o gnwd y ddaear;
Ysguboriau gwaliau'n gwlwm,
A storehouses, ys da rheswm;
Ond geill naws ing dywyllnos angau,
Alw'r ynfyd,
I ado'i buryd cyn y borau.
Ameu'r Arglwydd am ei lawndra,
Cofiwn heddyw,
Am wr sy'n marw 'mhorth Samaria.

Cofia, 'speiliwr cenhedlaethau,
Y bobloedd a'th yspeilia dithau;
Am waed dynion mewn galanas,
Ac am dy drais mewn tir a dinas,
Gwae elwo elw drwg i'w berchen,
Yn falch 'i af'el,
I nythu'n uchel--noeth yn ochen;
Ac os yw Lloegr dan 'r un llygriad,
Caiff gan yr Arglwydd,
'R un cul dywydd a'r Caldea'd.

Beth yw plasau, trasau trysor,
Ond gorseddfeydd annuwiol gyngor?
Mae gwin, a bwyd, a gwyniau bydol,
Yna i'w moedro, 'n anghymedrol;
Meibion Scefa 'mhob naws gaf'el,
Heb yr Arglwydd,
Sy dan chwithrwydd dyn a chythrel;
Chwys y tlawd yw'r cnawd a'r cnydau,
Rhwysg a balchder,
Y swn a'r pleser, sy'n eu plasau.

Fe wasg y mawrion dewrion dyrus
Y llafurwyr, a'u llaw farus;
A'r llafurwyr, a'u holl fwriad,
Gwisgo'r gwyn, a gwasgu'r gweinia'd;
Gwasgu sydd, a gwisgo swyddau,
Nes yr aethon'
I faela dynion, fel eidionau;
Gwerthu'r cyfion er ariannau,
A'r tlawd truan
Er pris gwadan par esgidiau.

Dyma'r byd ac ergyd gwyrgas,
Y sydd yn awr a'i swyddau'n eirias;
Memi melin flin aflonydd,
Egni galed yn cnoi 'gilydd;
Pawb ar eraill a weryran',
A neb yn cwyno
Ei wyrni heno arno'i hunan;
A phob enwau, tlawd a bonedd,
Oll yn euog,
Tan'r un warog, trwy anwiredd.
Gwedi chwalu gwawd uchelwyr,
Pa faint ffurmach ydyw'r ffarmwyr,
Sydd mor feilchion, gw'chion gyhoedd,
Rymus droediad, a'u meistradoedd?
Pell yw peirch eu meirch a'u merched,
Hwy rygyngant
Fwy nac allant yn ddigolled:
Lle bo addysg byd neu eiddo,
Dyna ragrith,
Wyniau melldith, yn ymwylltio.
Ac os ewch i ddangos ochain,
Babel droiau'r bobl druain;
Llygredd llun, a gwyn drygioni,
Swn yr hunan sy' yn y rhei'ny;
Meddwi a hwrio, mawr ddihirwch,
Bawb lle gallant
A ddilynant aflawenwch;
Anesmwythdra, lleithdra llwythdrwm,
Byw'n ddi'g'wilydd
Dan eu gwarthrudd, dyna'u gorthrwm.
A phwy ond diafol, awdwr pechod,
Sydd yma y'nghadfa pob anghydfod?
Pan ddarfu'r tyn offeryn Pharo
Bwytho ar ddynion, beth oedd yno?
Nid ffast wenwyn, na phastynau,
Mewn cynddaredd,
Oedd eu buchedd dan eu beichiau;
Ond o'u cyfyngder eger eigion,
At Dduw'n ddibaid
'Roedd eu hochenaid a'u hachwynion.
A than bwysau'r ieuau 'rwan,
Geifr a moch sy'n croch ysgrechian;
Ymroi a diodde'n ddi w'radwyddiad
Dan iau'n ddyfal a wna ddafad;
I ddefaid Crist mae'r iau'n esmwythdra,
Cariad Isr'el,
Goruwch fug'el, a'u gorchfyga;
A'r rhai orchfygant awch arfogaeth
Chwantau'r gelyn,
Mae'r Iesu'n dilyn iau'r dystiolaeth.

Beth yw rhyfel boeth, hir ofid,
Ond melus chwantau beiau bywyd?
Olwyn fawr digofaint gyfion,
Sy'n troi'n boenus trwy ddibenion:
Ac os y tlawd raid heddyw ddiodde',
Caiff gwyr mawrion,
Taer annoethion, eu tro nhwythe',
Fel mae amser i bob amcan
Trefn Ragluniaeth,
Drwy wahaniaeth Duw ei hunan.

Angenrhaid yw o ran cyflyrau,
Byd rhai astrus, yw bod rhwystrau;
Gwenith glan 'does ofon sefyll,
Pan godo'r gwantan gyda'r gwintyll;
Tan y groes, mewn oes yn isel,
Mae lle'r Cristion.
Fe ddaw'n gyfion o bob gaf'el;
A Duw anwyl, er daioni,
Drotho'n buchedd
At wirionedd, o'n trueni.



HAFGAN.



Alaw--"Spaen-Wenddydd."

Y teulu mwyn hael-gu mewn hedd,
Rhowch osteg, rai glandeg eu gwedd;
I ddatgan un haf-gan yn hy,
Hen dirion arferion a fu,
Mewn llawer ty 'roedd cennad da,
Ac enw hyf i ganu Ha;
Fel pob creadur sy'n ei ryw,
Ag aml don yn canmol Duw.
Mae'r ddaear oedd fyddar, wedd fud,
Mae'r coedydd, mae'r bronnydd mawr bryd,
Mae'r dyffryn yn deffro ei holl wraidd,
Mae eginoedd y gwenith a'r haidd,
Mae llaeth a maidd, mae llwythau mwyn,
O ffrwythydd haf yn ffraeth ymddwyn;
Mae pob creadur yn ei ryw
Ag aml don yn canmol Duw.
Gan hynny gwnawn synnu 'mhob swydd,
Ystyriwn a gwelwn i'n g[w^]rydd,
Ddoethineb dawn undeb Duw Ne,
Yn trefnu pob peth yn ei le;
Y mawr dymhorau, ffrwythau ffri,
Er hynny, anufudd ydym ni,
A phob creadur yn ei ryw
Ag aml don yn canmol Duw.
Rhoed i ni, heb fawr brofi mo'r braw
Bob mwynder a llawnder i'n llaw;
'Nifeiliaid a defaid ar dir,
Y rhei'ny sy'n hardd inni'n wir,
Pob peth yn glir i'n porthi'n glau,
A ninnau er hyn heb 'difarhau;
A gweled pob greadur gwiw
Ag aml don yn canmol Duw.

Mae r holl greadigaeth fel drych,
Rhai deimlant a welant yn wych,
Bod pob peth yn datguddio'n gytun,
Ddaioni'r Creawdwr ei hun;
Ond natur dyn sy fwya' dall,
Tan gwmwl balchder ofer wall,
Ni fyn ddarostwng o'i dda ryw
Un cymal dewr er canmol Duw.

Pa beth yw rhyfeloedd y byd,
Ond balchder ac uchder i gyd?
Fel 'r angel nerth uchel wnaeth ef
I ormesu teyrnasu tu'r nef;
A dyna'n llef sydd fyth rhagllaw,
Yn ffrwd gyffredin dryghin draw,
O eisiau bod yn Iesu byw
Bob cymal dewr yn canmol Duw.

O! rhyfedd yw'n buchedd trwy'r byd,
Mewn gwagedd a llygredd a llid,
Heb geisio gwir deimlo gair Duw
Sy'n ein galw ni o feirw i ail fyw;
Ond Och! mae'n clyw ni wedi cloi,
Ac ysbryd dall i ymbarotoi;
'Rym ni yn gysglyd oerllyd ryw,
Ac eisieu'n deffro i ganmol Duw.

Cynhyrfwn, a gwelwn mai gwir
Y cawn feirw, cwyn arw, cyn hir;
Gwybyddwn na ffaeliwn yn ffol,
Mae'r bywyd trag'wyddol yn ol;
Ymwnawn mewn rhol am ffrwythau'r ha,
Lle mae gorfoledd diwedd da;
Dyna r fan lle caffom fyw,
Amen, a 'stad, yn mynwes Duw.



ANWYL GYFAILL.



Cerdd i annerch cyfaill caredigol, pan oedd dan groesau a blinderau.

(Alaw.--"Y Galon Drom.")

Anwyl gyfaill, rwy'n dy gofio,
A gweddi mynych, gan ddymuno
I Dduw roi llwyddiant er pob lludded
Yn graff i'th onest gorff a'th ene'd;
A dal dy draed ar Graig yr oesoedd,
Er pob helynt,
Eiddig oeddynt, a ddigwyddodd;
Ac er pob peth a ddigwydd eto,
Duw fo i'th dywys,
Yn gyhoeddus, rhag tramgwyddo.

Cefaist yma lawer damwain,
Megys rhybudd cerydd cywrain;
Mae'r Saer-celfydd ymhob cilfach,
Am dy docio i'th wneyd yn decach,
Torri ceinciau d' anystyriaeth,
Harddu'r Eglwys,
Caer hoff wiw-lwys, mewn corpholaeth,
Bwrw'r gwarthus bnynu a gwerthu
Hwnt o'r deml,
I fan isel a fyn Iesu.

Gwel fod ffraeth ragoriaeth gaerog
Rhwng gwir blentyn a gwas cyflog;
Rhaid i'r plentyn etifeddol,
Gyrraedd didwyll gerydd tadol;
Nid ydyw rhai na chant yn weddaidd
Fflangell barod,
Bwys awdurdod, ond bastardaidd;
Dal dy sel a gwel y gwaelod,
Plentyn cyfan
Wyd ti dy hunan i'r Tad hynod.

Cariad Crist a ddarfu'n dirion
Deg arwyddo'n dy geryddon;
Efe, cofia, sydd drwy'r cyfan,
A'i ddawn ollawl i'th ddwyn allan;
Ar Job gynt ca'dd Satan weithio;
Darfu'n rhydost
Gnoi, di a'i gwyddost, gnawd ac eiddo;
Ond cadwe 'i enaid gwedi hynny -
Rhyfedd, nerthol,
Anhebgorol, mae Duw'n caru.

A gadwo Duw a fydd cadwedig
Trwy ddwfr a than, a gwawd a dirmyg;
Nid oes dim all niweid egraidd
I rai garant Dduw'n gywiraidd;
Mae pob rhyw bethau'n rhannau'r rhei'ny
Yn gweithio beunydd
Oreu deunydd er daioni;
A gwyn ei fyd y diwyd ffyddlon
A ail aned,
A Duw'n gywled yn ei galon.

Yr Eglwys ydyw'r hardd dreftadaeth,
A chalon dyn yw'r pren gwybodaeth;
Mae'n ffrwyth gwa'rddedig ynddi'n canlyn,
Gwyliwn drwyddo goelio'r gelyn;
Pwyll a sobrwydd sydd angenrhaid,
Dal ar orchwyl
Oen Duw anwyl yn dy enaid:
"Fy mab," medd Duw, "moes im' dy galon";
Dyna'r d'ioni,
Gyda nyni, ymgadw yn union.

Y galon yw'r ystafell addas,
T[w^]r puredig, ty'r briodas;
Os gwelir un hen w[y^]n yn honno,
Ac heb y wisg briodas ganddo,
Rhwymwch, deliwch, draed a dwylo,
I'r t'w'llwch enbyd,
Lwyra gofid, 'lawr ag efo;
Caiff pawb ond plant y ddinas burlan,
Eu troi, dyallwch,
I'r tywyllwch, o'r tu allan.

Cans oddi allan mewn swydd hyllig
Mae'r cwn a'r swyn-gyf'reddwyr eiddig,
Puteinwyr a llofruddwyr gwaedlyd,
A phob celwyddwyr, yfwyr hefyd,
Addolwyr eulyn, ddwl oer alwad,
Ni 'dwaenant olau,
Dawn a geiriau Duw, na'i gariad;
A'r holl broffeswyr hunan-gnawdol,
Nid yw eu rhyfyg,
A'u dull unig, ond allanol.

Gwyliwn fod ar nod annedwydd,
Rhaid dal yn agos at yr Anglwydd,
A ffoi i Soar am anrhydedd:
Ni thal sefyll ar wastadedd,
Fel gwraig Lot, a ddarfu gychwyn,
Ei gwlad a'i chartre,
Fodd anaele, fu iddi'n elyn.
Chwant y cnawd, a llygredd cyhoedd,
Allant dyfu
I'th anafu o borth y nefoedd.

Llawer ffordd a llawer cwestiwn
Sydd yn t'wyso rhyw demtasiwn;
Gormod cyfle, a mynych arfer,
Eill ein hudo ni o'n llawn hyder;
Er bod doethineb mawr yn Sal'mon,
Merched lledrydd,
Draws eu gilydd, droes ei galon;
Er gwneyd teml Dduw yn 'i ddechreu,
F' aeth i weithio,
Dan wenh'eithio, i'w duwiau nhwytheu.

O! mor llithrig ydyw llwybyr
Tuedd dyn i fynd wrth natur;
Rhyfedd gariad a thrugaredd,
Fod rhai'n sefyll hyd y diwedd;
Os ai fel Pedr dros y llwybrau,
Gweddia'n fynych,
I Dduw edrych, di ddoi adrau:
Golwg Iesu a'n galwo'n gyson,
A'i air fo'n llosgiad,
Unig hwyliad yn ein calon.



OLWYNION DWFR MELIN RHUTHYN.



Codog fawr enwog forwynion,-dwy-rod,
Yn dirwyn yr afon;
Cwyd gwegil codau gweigion,
Codau o bwys ceidw y bon.



Y GALON DDRWG.



Swelwn echrysa golwg,
Gwael iawn ddrych y galon ddrwg:
Calon afradlon o fryd,
Annuwiol heb ei newid:
Calon yw mam pob cilwg,
An-noeth drefn, a nyth y drwg;
Drwg ddi-obaith, draig ddiball,
Pwy edwyn ei gw[y^]n a'i gwall?

Effaith y cwymp, a'i ffrwyth cas,
A luniodd pob galanas;
Grym pechod yn ymgodi,
A'i chwantau fel llynnau lli;
Glennydd afonydd y fall,
Dengys bob nwydau anghall;
Dig-ofid yn dygyfor,
Tan a m[w^]g, fel tonnau mor:
Uffern yw hon, o'i ffwrn hi
Mae bariaeth yma'n berwi:
Ysbyty, llety pob llid,
Gwe gyfan gwae a gofid;
Trigfa pob natur wagfost,
Bwystfilaidd 'nifeilaidd fost:
Treigle a chartref-le trais,
Rhyfeloedd, a phob rhyw falais;
Rhial pob an-wadal w[y^]n,
Ty ac aelwyd y gelyn.
Meirch, a chwn, a moch annwn,
Sy'n tewhau yn y ty hwn,
Seirff hedegog mewn ogo,
A heigiau dreigiau blin dro.
Pob lleisiau, arw foesau'r fall,
Sy'n dwad i swn deall;
Swn t'ranau, sain trueni,
Swn gofalon greulon gri:
Melin wynt, yn malu'n wag,
Rhod o agwedd rhedeg-wag;
A'i chocys afaelus fon,
Yn troi'u gilydd trwy'n galon;
Drylliad, ag ebilliad bach,
Y maen isaf, mae'n hawsach,
Na dryllio, gwir bwyllo i'r bon,
Ceulaidd, drygioni calon,
C'letach a thrawsach ei thrin,
Mewn malais, na maen melin.

Llais hen Saul, a llys hwn sydd,
Fan chwerw, o fewn ei chaerydd.
Ni all telyn a dyn doeth,
Clywn, ennill calon annoeth.

Och! ni byth, achwyn y bo'n,
Wrth goelio, fod fath galon:
Gweddiwn, llefwn rhag llid,
Yn Nuw, am gael ei newid.
Nid oes neb a'i hadnebydd,
Ond gain y Tad, a'i rad rydd;
A'n gair os daw, gwiw-ras don,
A dry'r golwg drwy'r galon:
A drwg calon draw cilio,
Amen fyth, mai hynny fo.



PEDAIR COLOFN GWLADWRIAETH.
BRENIN, USTUS, ESGOB, HWSMON.
Rhyfela, Cyfreithio, Efengylu, Lluniaethu.
Awyr, Tan, Dwfr, Daear.
Anadl, Cyfraith, Efengyl, Cnawd.



Yn gymaint ag i mi ryfygu argraffu y cyfryw waith distadl ag yw hwn,
oblegyd ei fod yn myned tan yr enw Chwaryddiaeth fe geir amrywiol yn
ei wrthwynebu, canys ni allant oddef i ddim da ddyfod o Nazareth. Fe
fydd y farn arnaf fi, yn enwedig ymhlith dynion ffroen uchel
Phariseaidd, a hidlant wybedyn, ac a lyncant gamel.

Ond yn fwy neillduol, mewn ffordd o amddiffyniad i'm gorchwyl, mi a
ddymunwn ar bob un esgusodi barnu cyn profi y dystiolaeth. Gwaith
pawb a brofir; felly mi a ddymunaf ar y rhai sydd barotach i farnu
nag ystyried, i ddar llen neu wrando yr hyn sy'n gynwysedig; ac yna
hwy a gant adnabod fod pob gair yn wir at ei achos.

Yn gyntaf, fe ddaw un i adnodd y testyn, ac un dan enw Brenin; ac at
hwnnw, un i ddatguddio amrywiol o'r twyll sydd yn y deyrnas; yn ol
hynny, yr Hwsmon (sef y Cybydd); ac at hwn fe ddaw hen fenyw ddiog.
A daw un dan enw Esgob; ac at hwnnw fe ddaw un i gellwair am le i
fyned yn offeiriad; yn hyn y datguddir y trueni a'r llygnedd sydd
mewn gosodiadau eglwysig. Ac yn ganlynol daw yr Ustus, ac ato ef yr
Hwsmon, ym mha le y dangosir dull y cam-gyfreithiau a'r creulondeb
sydd yn y wladwriaeth. A daw yr Hwsmon i'w ddyrchafu ei hun, mai efe
sy'n cynnal pawb; i ba un yr atebir, na all un alwedigaeth ei chynnal
ei hun,--fod sefyllfa ddynol yn gyffelyb i un dyn, y pen a'r holl
aelodau yn gyfatebol i un corff. Daw yr Hwsmon, wedi ei ofidio gan
glefyd, yn ymofyn Doctor, ac yn addunedu, os cai hoedl hwy, y byddai
yn ddyn duwiol; ac y mae yn ymddarostwng i ychydig o enw diwygiad;
ond pan gyntaf y gwellhaodd o'i glefyd, y mae yn myned waeth nag o'r
blaen, ac yn y diwedd yn marw yn druenus. Yn y modd hyn y mae'r
llyfr hwn yn treiglo.

Nid oes gennyf ond ei adael i'ch barn chwi oil, gan obeithio nad oes
neb mor foethus na allant "brofi pob peth, a dal yr hyn sydd dda."

Yr eiddoch oll, &c.,

THOMAS EDWARDS.



PEDAIR COLOFN GWLADWRIAETH.



[Ymddengys Syr Rhys y Geirie Duon.

Syr Rhys.
Gostegwch bawb, gostegwch,
Os ydych am wrando, rowndiwch,
Y fi ydyw'r crier ffraethber ffri,
Ddaeth yma i gyhoeddi heddwch.

Fy enw sydd hynod ddigon,
Syr Rhys y Geirie Duon,
G[w^]r wyf a fedr ddweyd eu bai,
Drwy deg, i rai cymdogion.

Ond mi glywes fy nain yn ownio,
Mai gore ydyw'n lleia' siarato;
O ran fe gynhyrfa llawer un swrth,
Mae'n debygol, wrth ei bigo.

Ni fu erioed gynlleidfa luosog,
Na bydde rhyw rai yn euog;
Rhag ofn cenfigennu am hynny ymhell,
Mae llawenydd yn well i'w annog.

Mae gennym ni fath ar chwaryddieth,
Yn pwnio 'nghylch y pedwar penneth;
Sef Brenin, ac Ustus, ac Esgob llon,
A'r Hwsmon hoewlon heleth.

Y Brenin i wneyd llywodreth,
A'r Ustus i reoli cyfreth;
A'r Esgob i bregethu'r gwir,
Wrth reol clir athrawieth.

Ac ynte'n Hwsmon manwl,
Sy'n talu tros y cwbwl,
Trwy'i waith a'i lafur, drafferthus lun,
Wrth drin ei dyddyn diddwl.

Dyna'r testun oll mewn dwyster,
Mae amryw drafaeliwr tyner
A welodd sign ALL FOURS mewn tre
A'i lyged yn rhyw le yn Lloeger.

Ond ar hanes a dull y rheiny,
Mae sail ein hact ni 'leni,
Ond bod ynddi hi Gybydd, ac amryw o ger,
'Ran pleser i'r cwmpeini.

'Doedd waeth dweyd ar fyr ei threfen,
Na mynd i bregethu rhyw hir brygowthen,
Mae hanner gair yn fwy i gall.
Na dweyd i ddi-gall ddeugen.

Y sawl sydd am brofi sylwedd,
Gwrandawed hyn i'r diwedd,
Os nad oes iddi ond dechre bach,
Mae'n ffurfach yn ei pherfedd.

Tyrd dithe'r cerddor tene,
Cais dynnu rhyw s[w^]n o'th danne,
Fel y gallwyf ddawnsio tro,
Yn bur-ddewr i dreio'r byrdde.

Ffarwel i chwi dro go fychan,
Daw'r Brenin yma'n fuan;
Ond mi ddof fi ato fe eto yn hy,
'Ran siawns na thuedda'i ymddiddan.
[Diflanna.

[Ymddengys Brenin.
Brenin.
'Nawr o'ch blaene'r hawddgar fyddin,
Mi ddes ger bron dan enw Brenin,
I adrodd i chwi fy mhwer addas,
A'm cadernid uwch y deyrnas.

Gan faint fy mraint, a'm parch, a'm honor,
Twf eurdeg harddwych, tyrd, y cerddor,
'Rwy'n chwennych datgan can blethedig,
Hyf a moesol, hefo miwsig, -

(Alaw,--"DYDD LLUN Y BORE.")

"Wel, gwelwch i gyd,
Trwy'r byd yn wybodol y rheol sy'm rhan,
I mi mae anrhydedd, a mawredd pob man;
I'r Brenin mae'r braint,
Wir gywraint ragorieth, yn benneth mawr barch,
A phob ryw reoleth trwy'i daleth hyd arch;
I mi mae'r awdurdod, a mawr air Emerod,
I mi mae'n bri hynod yn barod mewn byd,
I mi mae'r gair uchaf, beth bynnag a archaf,
Mae'n dynion sydd danaf, mi brofaf i'm bryd,
Hwy wnant fel y mynnwyf pan alwyf yn nghyd;
Os archaf eu hanfon i ryfel echryslon,
Yn erbyn gelynion, yn union hwy an',
Hwy laddant, hwy leddir, gorchfygant, gorchfygir,
Trwy ddyfroedd y mentrir, nid ofnir mawr dan,
Dangosant eu cryfdwr iawn ledwr yn lan.

"Fy awdurdod sydd gry',
Mewn gallu teg 'wyllys yn ddawnus tan Dduw,
I mi mae gor'chafieth, rheoleth pob rhyw,
I mi mae mawrhad,
Pob gwlad enwog lydan sy'n rhwyddlan i'm rhan,
Mae'r deyrnged i'm gafael, er mael o bob man;
Mae danaf, nod union, arglwyddi a marchogion,
Pob math ar w[y^]r mawrion, sydd ffraethlon swydd ffri,
Pob offisers diwad, pawb gwiwlan, pob galwad,
Pob cyfoeth, pob cofiad, mewn rhad mwy na rhi',
Sy'n dirwyn o diroedd a mofoedd i mi;
Gan hynny gwybyddwch, heb gilwg, o gwelwch,
'Rwy'n cario'r hawddgarwch ar degwch pob dyn,
I mi mae'n holl arwydd, a'r goron deg wiwrwydd,
Tan fraint ardderchawgrwydd, nef hylwydd ei hun,
Dylwn gael i'm cyfarch bur barch gan bob un."
[Ymddengys Syr Rhys y Geirie Duon.

Wel, mi ddalia beint o ddiod,
Fod yma ryw un wedi yfed gormod,
'Ran ni chlywes i yn sobr odid ddyn,
Yn ei frolio ei hun yn fwy hynod.

Bren. Beth, ai ni wyddoch yma'n ddiwad
A phwy, syre, 'r y'ch chwi'n siarad?

Rhys. Gwn, debyga'i, ond considro yma beth,
Mae'n llegach rhyw feth ar fy llygad.

Corff ag a dynges, ond 'rwy'n lled angall,
'Does dim ddwlach na dyn cibddall;
Onid gyda'r Roli'r tincer y gweles chwi'n glau,
Wrth gofio, fel dau gyfell?

Bren. Ewch oddiyma yn sydyn, lipryn,
Ai dyna'r parch a r'owch i'r Bnenin?

Rhys. Wel, pwy fuase'n ame eich bod chwi'n siwr
Wedi mynd yn wr gan gymin?
Ond brenin pwy ydych chwi o ddifri?
Mi glywes rai'n son am Frenin y Diogi,
Ac mae rhyw beth ar fy meddwl yn peri i mi
Adel mai chwi ydy'.

Bren. Taw, taw, a'th ynfyd chwedle diflas,
'Rwy'n deip o Frenin yr holl deyrnas;
Mi allwn alw milwyr gwaedlyd
I wneyd dy frad mewn llai na munud.

Rhys. Wele, arglwydd melin Henllan
A'n catwo ni rhag y barcutan;
Yr oedd fy hoedl i yrwan, dinwan dw',
Ar ei winedd e yn arw anian.

Wel, begio'ch pardwn, Mr. Brenin,
Onid oeddych chwi'n ffrynd i modryb Catrin?
'Ran mi clywes yn gweddio gyda chwi'n daer,
Efo Alis fy chwaer, ac Elin.

Bren. Taw a'th swn gwan, onid oes ar gynnydd
Weddio gyda myfi yn yr eglwysydd?

Rhys. Wel, pan oedd crio'r tal mawr o'ch achos chwi,
Mi glywes i regu ar ogwydd.

Ond yn wir, meistir, 'rwy'n ymestyn yn hoew,
I weddio gyda chwi'n gadarn arw,
Os gallwch chwi wneuthur rhyw ddyfeis,
I roi llai o excise ar y cwrw.

Bren. Onid ydyw pawb trwy'r byd yn ddibrin,
Yn rhwym i dalu duty i'r Brenin?

Rhys. Wel, fe fydde gwell, er hynny i gyd,
Pe b'ai chwi heb gymryd cymin'.

Bren. Wel, ond rhaid bod ymhob perthynas
Goste mawrion ar y deyrnas,
Cyn y cadwer pob rheole
Tuag at gynhalieth gwyr ac arfe.

Rhys. Wel, begio'ch pardwn chwi, Frenin tirion,
Pa beth y dewisech gyment o weision?
Ni fu erioed yn y byd,--ni wiw ddisgwyl bod, -
Ddaioni lle bo gormod ddynion.

'Ran lle bo llawer o weindogion bydd y diogi mwya',
'Cerdd di,' 'cerdd dithe,' ni wyddir pa 'run anystwytha;
A gyrru'r llanc lleia' wnant hwy stil,
Trwy'r pwll i 'nol y ceffyl pella'.

A'r rhai sy'n cael y cyflog penna',
Ymhob lleoedd, sy'n gwneuthur lleia';
Maent hwy'n mynnu rhan. Mi dd'wedaf i,
Dan fy nwylo, mai chwi sy'n ola'.

Bren. Taw a son dy ffol gamsynieth,
Onid rhaid i bawb gael eu bywolieth?

Rhys. Wel, maent hwy'n gwneuthur ymhob man,
Hynny fedront o anllywodneth.

Beth am y gw[y^]r sy'n derbyn trethi,
A'r superfisors sy'n rhai pur fisi ?
Nid y'ch chwi'n cael, i'ch traul a'ch tro,
Mo'r hanner o ddwylo rhei'ny.

A phe gwelech chwi mewn dirgelion,
Y gwas esmwyth ydy fo'r ecseismon,
Mynd at wraig y dafarn yn ambell d[y^],
Man arall ymgwerylu'n greulon.

Ni waeth i dafarnwr lledwan
Fod rhwng y tan a'r pentan;
Ni chaiff un o'r rhei'ny fywiolieth dda,
Heb hwrio, neu fenthyca'u hanian.

Ac mae gennych chwi wych o weision,
Tua glanne'r moroedd mawrion;
Pan fo smyglo ar y traeth fe fyddan' hwy yn y t[y^],
'R hen faeddod, yn rhy feddwon.

A dyna i chwi'r modd yn loew,
Mae'ch offisers chwi yma ac acw,
Ni chewch chwi oddiwrthynt hwy, lawer tro,
Ddim 'chwaneg nag iws i'ch enw.

Bren. Mae teyrnged gyfion i mi'n digwydd
O gefn y mor a chefn y mynydd.

Rhys. Os oes i chwi'n digwydd beth i'ch shar,
Mae fo'n glynu gyda'r glennydd.

Ni bydd i chwi ond rhan go wannedd,
Erbyn y llyfo pawb eu bysedd;
Mae gwmpas y mor, a glywa'i son,
A'r mynydd, i chwi weision mwynedd.

Eu gwaith mwyaf ydyw gwaitio
Ar eu gilydd, ac ymwenwyno;
Dwyn y naill oddiar y llall tan gadw swn,
Yr un fath a'r cwn 'rol cinio.

Os caiff rhai unweth godi fyny
Yn enw'r Brenin, dyna hwy'n lladd ac yn braenu,
Yn twyllo, ac yn robio mwy na'u rhan,
Ni chaiff y gwan le i gwnnu.

A phe gwyddech chwi weithian fel bu, rhyfel diwaetha,
Rhwng admirals a chaptenied, bawb am y tynna',
Yn derbyn breibs ac yn gwasganu'r gweinied,
Mil mwy nag y gellir byth adrodd y golled.

'Roedd llawen o dwyll oddeutu'r milisie,
Rhwng y sergeants a'r corporals, a phob carpie,
Ond nid oedd twyll y rhei'ny ddim degwm yr hanner,
Ag oedd rhwng gw[y^]r y mor ac offisers Lloeger.

Nid oes ond y twyll a'r celwydd
Ymhob man, o'r mor i'r mynydd;
Lle byddo rhyw swyddog ar blwyf neu sir,
Ni fydd dim d'ioni hir o'i herwydd.

Dyma hyd y mynydd amser sheti,
Os bydd ceffyl neu heffer y b'on' hwy'n ei hoffi,
Waeth p'le ynte am ddefed bo node na llw,
Na'r hanes, y nhw' pia rhei'ny.

Ac felly nid oes ymhob rhyw fasnach,
Ond y trecha treisied, a phawb drawsach, drawsach;
Maent hwy'n symud eu cloddie, eu caue, a'u cer,
Onid yw'r mynydd yn llawer meinach.

Bren. Er bod i'm llaw i bob rheoleth,
Nid ellir wrth rai ffals wasaneth,
Ond Duw a gadwo Frenin Lloeger,
Mewn iach fendith a chyfiawnden. [Diflanna.

Rhys. Amen yn fwynedd! Dymunaf finne,
Boed llwyddiant yn ddoniol i'w ras a'i feddianne;
A hir oes i'r Brenin mewn cywir fryd,
Er maint sydd yn y byd o goste.

Ond mae llawer o gnafon atgas,
Yn cymryd arnynt yn y deyrnas,
Fod yn bur i'r Brenin yn ei [w^]rydd,
Ac eu hynny yr un swydd a Suddas.

Mae rhai mor liwdeg yn ymledu,
Fel llyged y dydd pan fo haul yn tywynnu,
A phan elo hi'n hwyredd, serthedd sain,
Hwy gauant yn fain i fyny.

Felly mae ffalster mewn rhai penaethied,
A ffalster ddialedd mewn amryw ddeilied;
Ffalster wrth gario cwrw a gwin,
A ffalster wrth drin merched.

Ffalsder, anlladrwydd llidiog,
Ydyw godro heibio'r gunog;
'Run fath a rhoi gwenwyn rhag lladd a chledd,
Er hynny 'run diwedd euog.

Yr un boene a'r un dibenion,
Ydyw boddi mewn llyn neu foddi mewn afon;
Neb na wnelo'r peth, na wnaed debyg chwaith,
Mae'r meddwl a'r gwaith 'run moddion.

Gan hynny'n glan ferchede,
Yn wych weithian, ond gwell i chwithe
Arfer yn ieuanc wneyd pob peth yn glen,
Na mynd i glegar yn hen bengloge.

Ac i gadw'r ffasiwn i fyny'n ddiball,
Rhag bod yn aflerach na ffol arall,
Mae gen inne ganiad wastad wedd,
A ddengys i chwi'ch agwedd anghall.

Mi a'i canaf hi mewn cysondeb,
Ar GODIAD YR EHEDYDO, os ca i rwydd-deb,
Chwi gewch yma glywed y gwir am y peth
Heb ddim gwenieth, yn eich gwyneb, -

"Y manwi ferched mwynion
Gwamal feddal foddion,
Gwych yw gennych dan y rhod
Mewn iechyd fod yn wychion;
Yswagrio'n fawr eich glendid,
A rhodio mwy na'ch rhydid,
Ac am y brafia'ch gwisgiad brith
I fynd i blith ieuenctid;
Pob ymddygiad balch fonddigedd,
Pob rhyw agwedd curedd cariad
Pob rhyw siarad hen gras eirie,
A phob ystraie, troe trwyad',
Ymhob rhyw ffals naturieth ffol
Mae'ch llawn arferol fwriad.
Ond yn eich ienctid mae i chwi ddysgu,
Heb angharu, cael cynghorion;
Er eich bod chwi heddyw'n ddibris,
Chwi ddowch yn ledis boche llwydion;
Cewch brynnu'ch dysg a'ch pen mewn dol,
Am fod yn ffol ynfydion."

Nid yw cynghori merched, archied erchyll,
Ond 'run fath a dwfr yn mynd hyd gafn pistyll,
Trwy un pen i mewn, ac allan trwy'r llall,
Ac felly mae'r gwall yn sefyll.

[Ymddengys Arthur Drafferthus, y Cybydd.

Arthur. A glywch chwi, pa beth sydd yma heddyw?
Nad elw'i fyth i goed erill, on'd oes cryn dwrw.

Rhys. Wel dyma ymofyn moel yn siwr,
Onid aeth yr hen [w^]r yn arw?
Considr'wch wrth natur dipyn eto,
Mae yn o fawedd i chwi feio
Ar ferched ieuenc, a llancie, a phlant,
Sy'n cadw gwylmabsant gwallgo'.

Arth. Wele'r achlod i garpie rhechlyd,
Ai nid oes gan rai ddim i'w wneuthyd?
Oni wela'i fod yma fawr a bach,
A rhai hen boblach biblyd?

Dyma Sion ac Ann, Dafydd ac Elis'beth,
Na bo'n son na chrybwyil, na wnai chwi ryw-beth,
Yn lle bod fel hyn, mae'n rhyfedd gen' i,
Na fydde g'wilydd gennych chwi ymgoleth.

Wel, yn siwr, hi aeth yn fyd anaele,
Nid eiff dyn yrwan i dre' nac i bentre',
Na bo interliwd i'w chwane wrth eu chwant,
Yn rhigwm rhwng y plant a'r hogie.

Rhys. O, tewch a son a'ch barnu,
Mae llawer peth waeth na hynny,
Gwell gen i chwareu, mae'n llai bai,
Na'r genfigen mae rhai'n ei fagu.

Arth. Wel, mi glywes fy mam yn dweyd, 'rwy'n cofio,
Mai po teca fo'r chware, gore ydyw peidio,
Lle bo gormod o wagedd, egredd wg,
Nid oes ond drwg yn trigo.

Rhys. Wel, oni chlywsoch chwi dnaethu'n fanwl
Hen benbwl cebyst, mai gwagedd ydyw'r cwbwl?
Gwagedd o wagedd llygredd a llid,
Yw'n moddion i gyd, 'rwy'n meddwl.

Nid oes ond y twyll a'r ddichell ddiffeth,
Yn mhob rhyw alwedigeth trwy'r gymdogeth;
'Does odid un yn dilyn gwedd
Gwirionedd yn ddiwenieth.

Arth. O ni waeth i ti dewi, mi glywes rai'n siarad
Fod pregethwyr duwiol yn mynd ac yn dwad,
Mae'n dda fod rhein'y, gan ddarfod iddi hi,
Eglwys Loegr, golli ei llygad.

Rhys. Mae mwy o buteinied eglwysig,
Nag a ddirnad un dyn gwledig;
Ac mae yng nghysgod crefydd, beunydd trwy bwyll,
Beth rhyfedd o dwyll a rhyfyg.

Arth. Wel gwir a ddywed yr hen wr doetha,
Llygriad y peth gore yw'r llygriad gwaetha;
Pa goleua bo'r ganwyll cyn ei diffoddi,
Mwya' yn y byd bydd ei m[w^]g hi yn drewi.

Rhys. Mae'n wlad wedi goleuo ben bwy gilydd,
Waith cyment sy o daeru ac ymgrafu am grefydd,
A llawer ohonynt hwy'n llwyr heno,
'Run ffordd a Lusiffer a Pharo.

Hwy farnant rai gwirion mewn digofent,
'Run fath a Judas am y blwch enent;
Degymu'r mintys o'r gerddi gwar,
A gwneyd camwedd y pedwar cyment.

Arth. Mi a glywes wr yn barnu
Mai drwg ydyw dawnsio a chanu.

Rhys. Gwir mai drwg yw, os cymer dyn
Ei ogoniant ei hun o hynny.

Mae'n gofyn i ddyn a'i ddonie,
Roi'i synwyr a'i holl aelode,
Ym mhob peth, er clod yn siwr,
Yn gyhoeddus i'r G[w^]r a haedde.

Arth. Ni waeth i ti dewi a dadlu,
Nid oes fawr yn gwneuthur felly.

Rhys. Wel, y neb na wnelo hynny'n ddi stwr,
Ym mhob achos mae'n siwr o bechu.

Arth. Onid ydynt hwy'n dweyd mai'r brenin
Yw amddiffynwr y ffydd gyffredin?

Rhys. Mae'n wir ei fod oddiar ei fainc,
Am faeddu pab Ffrainc a'i fyddin.

Arth. Onid oes rhai o feibion brenin Pryden,
Mi glywes yn y post-house, yn caru pabisten;
Ond am ystraeon nid wyf ddim yn ffond,
Mae drwg eu llond hwy yn Llunden.

Rhys. Wel, yr oeddwn i ar fy ngore
Yn ymddiddan a'r brenin gynne,
Fe basiodd rhyngom tu yma i'r Hob,
Beth gerwin o bob geirie.

Arth. Ymddiddan a'r brenin! Tybed
Ei fod ef cyn ddifalched;
A glywch chwi, medda'i, mae fe'n siwr,
Dan awyr, yn wr diniwed.

Rhys. O, ydyw'n siwr, mae'r g[w^]r o'r gore,
Yn ddiniwed a gonest, am a ddealles i gynne,
Onibai gnafon a lladron sy ar ei gefn,
Ni gaem ni yma well trefn 'rwy'n ame.

Arth. Er mwyn dyn, pe soniasit ti dipyn
Ynghylch y Dreth Fawr a'r Ardreth Brenin,
Maent hwy ar eu deilied ym mhob lle
Yn gyrru yma goste gerwin.

Rhys. Nid all y brenin sydd a dull breiniol
Ddim wrth hynny o warth wahanol,
Pobl erill sy'n difa ym mbob man,
O'r trethi, beth anhraethol.

Arth. Pwy bynnag sy'n dyfetha'n foethus,
Y brenin a'i rwysg yw'r esgus;
Mae'n mynd yn ei enw trwy'r wlad hon,
Gynifer o ddynion cnafus.

Rhys. Wel, mae llawer pren teg brig-lydan
Yn cysgodi bwystfilod aflan,
Ac adar drwg yn nythu ynddo fry,
Nid all e' ddim wrth hynny ei hunan.

A chwi wyddoch na [w^]yr bon derwen,
Pa ffordd y gwinga un gangen,
Ac felly ni all brenin, er trin pob treth,
Wrth ei ddeilied wneyd peth na ddylen'.

Arth. Wel, dywed ai'r brenin a ddarfu ordro
Rhoi treth ar bob ceffyl, fel mae rhai yn caffio;
Ond am dreth y gole ar bob rhyw gut,
Mae'r gair mai Pitt sy'n pwtio.

Rhys. Nis gwn i heno am un da obonyn,
Maent fel cene llwynog, a'i ddichell wenwyn.
Yn ymroi i gyd-yspeilio'n gas
Ein teyrnas, rhad Huw arnyn.

Arth. Wel, mae'n chwith gan hen bobl weled
Gyment o bob cyfnewidied;
A phe doi rhai fu feirw; mi wrantaf fi,
Bydde synnach gan rhei'ny synied.

Mae'r bonddigion wedi'u witsio,
Yn mesur eu tiroedd, yr aflwydd a'u torro;
Ni ddaeth dim i'r byd, er maint y swn,
Mon wenwynig a'r ffasiwn honno.

Hwy fesurant y ffordd, y coed, a'r caue,
Ac fel mae'n g'wilyddus, y perthi a'r cloddie,
A'u tidau heiyrn a'u celfi chwyrn, -
Pe b'ai hi am gyrn eu gyddfe.

Rhys. Wel, mesuran 'nhw am y siwra,
Eu tiroedd, mewn moddion taera;
Daw'r dydd na roir fawr fwy o hon
Na dwylath, i'r dynion tala.

Ond natur y byd yw cadw twrw,
Hir y onoin y tamed chwerw;
Mi redaf fi draw ar hyn o dro,
Mewn cariad i geisio cwrw. [Diflanna.

Arth. Wel, rheded pawb lle gallon',
Hi aeth yn fyd echryslon;
Rhaid i denantied ymhob rhyw,
Ar f'einioes i, fyw yn feinion.

Dyma'r tiroedd, mae pawb yn taeru
Y byddan' hwy i gyd yn codi;
Ac ni wiw i ni siarad a gwneyd trwyn sur,
Mae'r stiwardied yn w[y^]r stwrdi.

Rhaid i ddyn ddysgu pratio,
Tynnu het, a mynych fowio,
Ac edrych pa sut yr agorir ceg,
A dweyd yn deg, rhag eu digio.

Ac ni chaniateir mynd i'w gwynebe
I siarad, ond ar rai amsere,
A rhyfedd mor syth, oni leiciant chwi'n son,
Yn w[y^]r tonnog, y tront hwy'u tine.

A rhaid yw eu tendio ar bob achlysur,
A mynd i'w cymhorthe, rhag ofn eu merthyr;
Os gwydde, os cywion, neu berchyll per,
Rhaid eu ceisio hwy i'r ger ddigysur.

Ac os tyddyn fydd ar osodiad,
Daw yno i ymryson resiad;
Ni cheir na threfn, na threial, na thro,
Heb iro dwylo'r diawlied.

Mae'n rhaid i ystiward yn ei falchder
Gael llawer mwy o barch na'i feister;
Onide ni chaiff dyn gwan ddim lle
Yn agos, os a fe'n eger.

Digiwch [w^]r boneddig, cewch bardwn ganddo,
Ond os digiwch ystiward, chwi gewch eich andwyo;
Mae hynny'n druenus ym marn pob dyn,
Fod rhyw helynt fel hyn yn rwlio.

Mae'r byd yn llawn aflwyddiant,
Fe'i llyged tynned ar les pob tenant;
Mae'r bonddigion a'r tlodion, drawsion drefn,
Hefo'u gilydd ar ei gefn yn galant.

[Ymddengys Gwenhwyfar Ddiog.

Gwenhwyfar. Wele, nosdawch, gyda'ch cenned,
Rhad Huw yma; a rowch chwi damed?

Arth. O b'le rwan, hefo'ch cwman ci,
Gwenhwyfar, daethoch chwi cyn hyfed?

Gwen. Dwad ar ddamwen wnes i'r ffordd yma,
O ran fod y byd yn gwasgu arna'.

Arth. Pe buasech chwi er's meityn yn ei wasgu fe'n llym,
Nid aethech chwi ddim fel yna.

Gwen. Nid oes mo'r help, hawdd gennych chwi siarad,
Yr ydwyf fi'n ddigon tlawd ac amddifad.

Arth. Wele'r hen baunes, ar bwy 'roedd y bai?
Oni all'sech wneyd llai o ddifrad?

Gwen. Pa beth a ddifrodes, gadewch glywed?

Arth. Cyment a gawsoch, ni fu 'run cyn gased;
Ni chymrasoch erioed, mi wn yn dda,
Ddim gofal, ond bwyta ac yfed.

Gwen. Dyma'r peth a geir os eir yn dlawd,
Rhaid dioddef gwawd a choegni.

Arth. Ni oddefwch chwi ond eich haeddiant eich hun,
'Ran ni wnaethoch, g[w^]yr dyn, mo'r d'ioni.

Gwen. Onid yw'r ddiareb yn dweyd gwir godidog, -
Y neb aned i rot, nid eiff byth i bum' ceiniog?

Arth. O, hel rhyw esgusion dwl oerion di les,
Mae'r hen Iddewes ddiog.

Oni chawsoch chwi gynysgeth holliach,
Aur ac arian, ac amryw geriach?
Chwi allasech ddwad fel finne'n wisgi,
I berchen digon, onibai'ch diogi.

Gwen. Wel, soniwch chwi am ddiogi eiddigus,
'Roedd y plant yn fychen, a minne'n afiachus;
A pheth a ddisgwylie neb mewn condisiwn,
O waith na phwyse gan fenyw o'm ffasiwn.

Arth. 'Doodd wiw i undyn a'ch adwaene,
Ddisgwyl gennych fawr o wyrthie,
'Ran prin y cynhyrfech chwi i roi tro,
O'ch cornel i ystwytho'ch carne.

O! fel y bydde hi yn un bauled,
Yn eiste'n domen, na chynhyrfe hi damed;
Buase'n dda fod y gwydde'n llawer man,
Yn eistedd gan onested.

Dyna fel y bydde hi mor ddigyffro,
Trin plant yn ei lludded, a difa'r holl eiddo;
Ac ysmocio nes aeth hi 'run lliw a'r g[w^]r drwg,
Hen boced, gan fwg dybaco.

Gwen. Wel, ond fy mrest i sy'n llawn caethni,
Mae tybaco yn tynnu dwfr ohoni.

Arth. Yr ydwy'n eich gweled chwi, hyll ei gwawr,
Yn yslefrian mewn mawr yslafri.

Gwen. O rhowch i mi gardod yn ddiragrith,
Chwi glywsoch yn bendant mai da ennill bendith.

Arth. Ni feddi di'r un fendith, mwy na gafr neu fwch,
Gwyneb hwch mewn gwenith.

Gwen. Onid ydyw'r gair yn dweyd yn gywren,
Fod bendith i bawb a roddo elusen ?

Arth. Y fendith ore fuase mewn pryd,
Eich curo chwi o'r byd, hen garen.

Gwen. Ai meddw ydych? fe fuase'n well dull
Fy lladd!--O erchyll Iddew!

Arth. Buase yn llawer amgen lles,
Gael dibendod y gnawes bendew.

Nage, pe gwyddech chwi'r cwmpeini gweddus,
Fel yr aeth hi yn baelfed mor helbulus;
Mae hi'n ddigon o siampl i bawb trwy'r plwy',
Am fywiolieth, i fod mwy gofalus.

'Roedd ei g[w^]r hi'n porthmoneth draw ac yma,
A llafn o bwrs melyn, ac yn walch pur ysmala,
A hithe gartre' yn diogi, ac yn ymdroi,
Mor foethus, wedi ymroi i ddyfetha.

Ond o dafarn i dafarn, 'roedd e'r hen borthmon diofal,
Heb fawr edrych at na thir na chatal,
Ond canu efo'r tanne ac ymlid puteinied,
A gwneyd bargeinion a cholli, ni bu'r un cyn erchylled.

Fr dorrodd a'r wlad, ynte mor ddiawledig.
Am filoedd o bunne, mi allaf ddweyd yn ddiarbennig;
Llwyr wfft i borthmyn am dwyllo'r byd,
O! na byddent hwy i gyd yn grogedig.

Dyma hithe, Gwenhwyfar, wrth ei hen gynefin,
Beth bynnag fydde'r ennill, ni hidie hi ronyn,
Hi eistedde mor bwyllus, ac a smocie ei phibelled,
Heb feindio'r un difin mewn gwartheg na defed.

Gwen. Wfft, wfft i'r fath gelwydd, a goeliwch chwi bellach?

Arth. Taw, hen hwr dafotrwg, ni fu erioed dy futrach,
Na'th ddiocach, na'th ffieiddiach, mewn un man,
Hen gwrwm, na'th anhawddgarach.

Gwen. Nid oes mo'r help, mi glywa,
Rhaid i'r gwan ddioddef pob trahausdra,
Ond gobeithio, os colles yn hyn o fyd,
Ca'i'n hawsach y bywyd nesa.

Arth. Wel, dyma fel y bydd rhyw garpie,
Pan elont hwy'n ddinerth, ac yn ol o feddianne;
Maent hwy'n rhoi fod y nef, fel llysendy ar dro,
I bob ceriach fynd yno o'u cyrre.

Rhyfedd fel y dwedant mor odidog,
Yn gysurus eu geirie, fod Duw'n drugarog,
Ond pe bai fo drugarocach, mi wn fy hun,
Na ddewis ef 'run fo ddiog.

Gwen. O! nid oes yn y nef ddim gweithio.

Arth. Wel, nid rhyfedd, g[w^]yr dyn, i chwi son am fynd yno,
Ond mi wranta na leiciwch chwi byth mo'ch lle,
Onid oes yno de a dybaco.

Owen. O! mae gennych chwi chwedle drwg ysmala.

Arth. Nis gwn i, pe lleddid fi, pa'r un ysmaleiddia:
Mi aroses gyda chwi, hyll ei gwarr,
I ryw hewian ar yr hwya.

Gwen. Gobeithio y rhowch chwi cyn eich myned,
Fwyd eu lety, a minne cyn dloted.

Arth. Ni chei gennyf, tra b'wyf yn fy nghof,
Y tan a'm twymno, yr un tamed. [Diflanna.

Gwen. Wele'r glan gwmpeini,
Dyma'r cysur sydd imi;
Cael fy hoetio a 'maetio ym mhob man,
Yn eger o ran fy niogi.

'Rwy'n ofni 'ran diogi dygyn
Mai 'niwedd fydd marw o newyn;
Canys ni cha'i fymryn, y cwmni mwyn,
Yn fy ngwendid, o g[w^]yn gan undyn.

Ond gan i mi gael fy marnu'n waetha',
Mi ddweda i chwi 'nghyffes, fel y gellwch fy nghoffa,
Os ca'i yma le i eistedd i lawr.
Drwy gwynion mawr mi gana'. -

(Alaw, "SWEET WILLIAM.")

"Pob ladi o ddynes led ddiddeunydd,
Gwrandewch ar gwynion gwrach ddigynnydd;
Y fi sy'n adrodd fy musgrellni,
A maint o aflwydd a ddaeth imi,
Erwina digwydd, o ran diogi.

"Pan es i ddechre donie dinerth,
Trin y byd a phob rhyw drafferth,
Cefais ganwaith, cofus gen'i,
Am ddilyn mynych serthnych swrthni,
Golledion dygyn, o ran diogi.

"Pob trawsneiddwch trist anniddan,
Pob taeog walle yn t[y^] ac allan,
Pob rhyw anhap a thrueni,
Pob aruthr ddamwain a ddaeth imi,
Anrhaith dugas; o warth diogi.

"Fy hyswieth doreth dyrus,
Aeth yn ofer waith anafus,
Y cig, y caws, a'r menyn gen'i,
A spwyliai'n aml o ran imi
Wneyd cam-drinogeth yn fy niogi.

"Gan hynny, ferched, 'rwy'n eich annog,
I gym'ryd siampl rhag troi'n ddiog,
Mae un anhwsmon yn well i'w gyfri,
Ac yn gynhesach nag anhyswi,
Lle bo redegog bar a diogi.

"Mae'r gwr doeth yn rhoi canmolieth
I wraig dda rinweddol berffeth;
'Rwyf finne'n llwyn wrthwyneb iddi,
Cymerwch rybudd o'm trueni,
Ym mhob ymddygiad gwyliwch ddiogi."

[Ymddengys Syr Rhys.

Rhys. Pwy sy yma'n crugleisio mor luosog?

Gwen. Y fi sydd yma'n dlawd ac anghenog.

Rhys. O, mi welaf yma'n war,
Yr hen Wenhwyfar Ddiog.

Gwen. Wel, 'rwyf fi mewn cyflwr enbyd,
Na wn pa beth i'w wneuthyd.

Rhys. Mi ddysgaf fi, i'ch llonni yn llawn,
Fuddiol iawn gelfyddyd.

Gwen. Ni waeth i ti dewi a'th ddwndwr dibris,
Yr wy'n rhy hen i fynd yn brentis.

Rhys. O na, fe drefnwyd i chwi swydd ger bron,
A wneiff i chwi burion offis.

Gwen. Pe cawn i ryw offis fechan,
Rhag i mi newynu yn anian.

Rhys. Ffoledd newynu a chadw nad,
Tra fyddo'r wlad mor lydan.

A chwithe'n hen fenyw lysti am gerdded
Cewch gystal bywiolieth ag allech chwi weled,
A chwmni merched o le i le,
A'ch gwala o de i yfed.

Ond rhaid i chwi ddysgu'n ddwysgall,
Fedru dangos i fenywod annghall,
Eu ffortun yn dwt, mewn cwpan de,
Fel y gallont hwy'n ddie ddeall.

Gwen. Mae ofn na alia'i ddim oddiwrthi.

Rhys. Ni fu erioed beth hawsach, troi cwpan a'i throsi,
A dweyd peth a'u plesio, wrth eich pen eich hun,
Dyna'r cyfan, fe [w^]yr dyn, am dani.

Nid rhaid i chwi fyth mo'r ame
Na ddywedwch y gwir o'r gore,
Ran y cythrel sy'n dysgu, ac yn trefnu'r tro,
Ac y fo sy'n gwirio'r geirie.

Dywedwch chwi y bydd rhyw un farw,
Fe tynn y diawl e' i foddi neu dorri wddw',
Ac i gyflawni'ch dywediad, mewn clymiad clir,
Dyna hynny'n wir am hwnnw.

Gwen. 'Rwy'n ame y dysga'i ar led osgo,
Ond nis gwn i a ydyw'n ddrwg ai peidio.

Rhys. Mae'r arfer honno wedi'i setlo'n syth,
Nid rhaid i chwi byth mo'r hidio.

Nid oes ond y dichell a chyfrysdra,
Yn mynd ymlaen yn y busnes yma,
Cans holi ac ymofyn i ddeall eu ysgwars
Bydd y fortune-tellers tala.

Lle gweloch wraig ieuanc iachus,
Yn berchen hen [w^]r oedranus,
Dywedwch wrthi fod hwnnw ar dranc
Ac y ceiff hi ddyn ieuanc nwyfus.

A lle bo g[w^]r go ddawnus, a gwraig ddi-dd'ioni,
Dywedwch wrth hwnnw bydd farw'r hen ladi,
Ac y ceiff ail wraig o fenyw deg,
Fwyneidd-deg, lwysdeg, lysti.

Felly dywedwch wrth bawb trwy wenieth,
Y peth a feddylioch a blesio'u naturieth;
Os plesiwch y merched ar hyd y byd,
Chwi gewch hoff hyfryd ffafreth.

Cerddwch trwy degwch hyd deie'r cymdogion,
Dysgwch ofer-ddadwrdd, a dehongli breuddwydion,
Chwi gewch fywolieth, mi wrantaf fi,
A chysgu a diogi digon.

Gwen. Iechyd i'th galon am fy nysgu,
Mi a'n fortune-teller ore yng Nghymru,
Darllenaf desni mawr a man,
A threiaf min tan lyg-tynnu.

Mi gaf bellach yn ddiballu,
Ar f'engoch, fywolieth fwyngu;
Mae dywedyd ffortun i ambell ffrynd,
Yn ddigrifach na mynd i grefu.

Yr wyf wedi cynhyrfu'n bendant,
A darn wylltio o ran fy llwyddiant;
Lle caffwy' 'ngwrando'n rhuo'n rhwydd,
Mi bwnia gelwydd galant.

Ac os daw celwydd i beri canlyn
Mae'n hawdd gwneyd esgus cyn bo fo'n disgyn,
A thaflu'r cwbl drwbl drefn
Yn rhywiog ar gefn Rhywun.

Wel, nosdawch heno, cofiwch i mi'ch annog,
I feddwl am ddiwedd menyw ddiog,
Sy'n mynd ar hyd y byd 'ran diogi a bar.
Yn fortune-teller talog. [Diflanna.

[Ymddengys Esgob.

Esgob. Mi ddois o'ch blaen, y cwmni hylwydd,
Dan enw tad yr holl eglwysydd;
Myfi yw swcwr, dyddiwr da,
Sylfaene cryfa crefydd.

Sant Paul gynt a roddodd urdda
I Timotheus, yr esgob cynta,
I oruwchlywodraethu'n siwr,
Yr Ephesied, yn wr hoffusa.

A Thitus hefyd, wynfyd iawnfodd,
Efe yn ddewisol a'i hurddasodd,
Ar y Cretiod yn esgob cryf,
Ei ddonie dwysgu ddysgodd.

Yr wyf finne'n deip o'r alwad honno,
Dan enw'r esgob mewn gwir osgo,
Yn dad eglwysydd odidog liw,
Hoff urddus, i'w hyfforddio.

[Ymddengys Rhys.

Rhys. Wele! Dafydd y Joci, a Thomas, a Jacob,
A Modryb Elin Ty'n 'r Ysgol, edr'wch lle mae'r esgob!
Da geny'n gymhwys gael lle a chwi ymgomio,
A wariwch eich ceiniog os darfu chwi'ch cinio?

Esg. Ewch, rog impudent, oddiyma,
Gwrando'ch ynfydrwydd chwi ni fedra.

Rhys. Maddeuwch, f'arnglwydd, y tramgwydd trwch,
Yn rhodd na ddigiwch wrtha.

Mae gen i ewyllys yn fy nghalon,
Gael lle i fynd yn berson;
'Rwy'n gweled y rhei'ny mewn gwlad a thre'
Yn o glos yn eu cobe gleision.

Esg. Taw, lolyn ynfyd lledffol,
A'th siarad ansynwyrol.

Rhys. Wel, mi wnawn, os oes gen i rhy fach stad,
Ficar neu gurad gwrol.

Mi ddarllena Gymraeg ar redeg,
A thipyn bach o Saesneg;
A pheth, fy meistr, ellwch chwi ddweyd,
Neu chwenych i mi wneyd ychwaneg?

Esg. A gai gennyt ti dewi, dywed,
A swnio dy ffol gamsynied.

Rhys. Wel, mi allaf wnenthur yn ddi lai,
'Run synwyr a rhai personied.

Beth sydd i'w wneyd ond darllen ambell Sulgweth,
A thendio bedydd a chladdedigeth?
Mae'r llane bach yma, lawer pryd,
Heb rigwm yn y byd o bregeth.

Ac os pregethir weithie,
Nid rhaid mo'r poeni ac astudio'r penne;
Fe bryn dyn ddigon at iws y plwy'
Yn hawddgar am ddwy geinioge.

A pheth a nad imi fedru tendio,
A chodi ar y degwm pwy bynnag fo'n digio,
Ac oni thalant hwy bob peth,
Gwneyd iddynt trwy gyfreth gwafro.

Felly mi leiciwn yn fy nghalon,
Gael mynd yn [w^]r eglwysig, i wisgo dillad gleision;
Pe t'rawech chwi gyda fi am le da,
Mi fyddwn mewn bara purion.

Esg. Ni fuost ti erioed, un ffol ei ledpen,
O fewn i Cambridge na Rhydychen.

Rhys. Ni chadd y rhai fu yno fawr wellhad,
Ni waeth i ni'n gwlad ein hunen.

Esg. Nid a neb i'r cyfryw swydde,
Heb fod yno'n profi eu donie.

Rhys. Mae'n hawdd medru rheol ddynol ddysg,
Sy'n gyffredin ym mysg yr offeiniade, -

Flowlio a hela, a chware cardie,
Ymladd ceiliogod, a thrin merchede,
Darllen papur newydd, fel y byddan' nhw,
Ac yfed cwrw am y gore.

Mi fedra fyned trwy ddichellion,
'Rhyd plase gw[y^]r bonddigion;
Dyna'r fan lle ca'i'n ddi feth,
Mewn barieth fywolieth burion.

Mi gaf ddweyd fy helynt a welwyf wrth ffowlio,
Pa fodd y bydd y tenantied yn contreifio;
Pa'r un fo'n dda ei lun, a pha'r un fo'n ddi les,
Fel caffwyf mewn gwres fy nghroeso.

Lle bo denant cryf i'w ganfod,
Rhaid dweyd gellir codi ar hwnnw hylldod;
A lle bo un gwan, eu hwylio 'nhw'
I orffen hwnnw yn hynod.

Esg. Mae'n hawdd gweled, pe cai ti gyfle,
Y gwneit ti'n hwylus ddrwg annele.

Rhys. Pe bawn i yn berson, a fydde bai
Am wneuthur fel y gwnelent hwythe?

Esg. Dos oddiyma i ofer ddwndro.

Rhys. Gobeithio nad ydych chwi ddim yn digio,
Rhag ofn, fy meistr, mewn trawsder trwch,
Y mynnwch fy ysgymuno.

Esg. Hawdd y galla'i wneuthur felly.

Rhys. Wel, beth os bydde arain i dalu?
Pe bai fastardied lond y fro,
Cai fy 'menydd ei safio am hyany.

Mae yn nghyfreth esgob ryw arfaeth osgo,
Bron mwy diawledig na chyfreth Llandeilo,
Mae ganddo gynffonne a blaene blin,
A llawer tin sydd tano.

Hwy ddaliant ychydig bach o fater
O gwrt i gwrt, ac o chwarter i chwarter;
Nid oes un blewyn yn eich plith
O fendith na chyfiawnder.

Ond yr arian sy'n gwneyd pob gwyrthie,
Er bod rhai dynion yn bostio eu donie;
Yr arian sy'n gyrru'r ysgolheigion rhydd,
I gyrredd y llefydd gore.

Ni bydd mab i boblach wladedd lwydion,
Ond ficer neu gurad gwaredd ei foddion;
Nid oes, wedi dysgu pob disgwrs,
Ond y gore ei bwrs am berson.

Esg. Paham y rhoddi di yma'n ddibaid,
Y cyfryw g'wilydd ar fugeiliaid ?

Rhys. Ond am eu bod, gwybyddwch pam,
Yn w[y^]r diofal am eu defed.

Yr wyf fi'n cyff'lebu'n barod
Y rhai drwg i'r hyslau a'r drogod,
Heb hidio'n defed, doed a ddel,
Nes cant hwy afel yn y cnyfod.

Mae un ysgub ddegwm gan ambell berson,
Yn werthfawrocach nag eneidie'r holl blwyfolion,
'Ran os cant hwy ddim colled yn y degwm cu,
Hwy ant i gwerylu'n greulon.

Ac er iddynt weld y plwyfolion yn anaele,
Yn rhedeg yn chwidir ymhob rhyw bechode;
Ac yn mynd tuag uffern o'u blaene yn syth,
Ni chynhyrfant hwy byth mo'r pethe.

Esg. Pa beth all nac esgob na pherson gwisgi,
Aruthr yw'r hanes, wrth y rhei'ny?

Rhys. Beth yw gwaith bugail ond cadw, os gall,
Yr un fo mewn gwall rhag colli.

Esg. Onid ydys yn darllen ac yn gweddio,
Y modd y mae'r eglwys wedi apwyntio?

Rhys. Ni wnaiff gwas cyflog, mi wn yn dda,
Dan gellwer, ond lleia' gallo.

Mae'r ffurfie hen ffasiwn mewn hoffusrwydd,
I borthi'r eneidie, onid aeth hynny'n annedwydd;
Ac fe godwyd llawer ymhob lle
Yn awr o ddegyme newydd.

Mae hynny'n arwydd union
I'r golwg, pa le mae'r galon;
A pha un ai degwm ai eneidie'r praidd
Sy'n gafaelu yng ngwraidd ei galon.

Ond wrth ffrwyth yr adwaenir pob pren a'i dyniad,
A farno a fernir, ni waeth hyn o lar'nad,
Onibai fod rhai'n cael gras Duw yn glir,
I dderbyn y gwir trwy gariad.

Esg. Och! Och druenus boenus bennod,
O feddwl hyn anfuddiol hynod,
Fod cyment llygredd trwy'r ddull hon,
Gall pob rhyw ddynion ddannod.

Mae'r fuchedd ddrwg yn amlwg ymlid,
Fel nod yw'r hyllfarn i ni trwy'r hollfyd,
Drygioni'n gwlad anurdda'n glir
Yr eglwys gywir oglud.

Mae achos mawr trwy deimlad
I ganu prudd alarnad,
Am weinidoglon Eglwys Dduw,
Mor hagar yw ei rhwygiad, -

(Alaw--"AMOR EUS," neu "IANTO'R COED.")

"Clyw, Eglwys Loeger, ffraethber ffri,
Hap lwyra 'stad, pa le 'reist ti,
Yng nghanol d'urddol frawdol fri,
I'r fath drueni anian.
'Nol dwediad Gildas atgas wawr,
Y gwyfaist awr yn gyfan;
Cans dy weinidogion sydd dan ser,
Yn haeddu eger ogan.

"Trwm achos ofni'n enbyd sy,
Beth wneiff y wlad gyffredin lu,
Tra bo'r blaenoriaid harddblaid hy',
Wedi'u dallu gan dywyllwch;
A'r dall truenus warthus wall,
Yn t'wyso'r dall, dyellwch
Mai yn y ffos, anniddos nerth,
Mewn galar serth, y syrthiwch.

"O! chwi rai deillion llyrfion llawn,
Sy'n son am Grist a'i ddidrist ddawn,
Ac heb adnabod eto'n iawn,
Mo'i hollol gyfiawn allu;
Pa fodd y byddwch, tristwch trwm,
Pan ddarfo swm rhesymu?
Ni feddwch geidwad yn eich plith,
Ond melldith, rhagrith rhygry'.

"Gan hynny profwn bawb ger bron,
Beth dal rhyw enw llanw llon,
Am ffurfiau'r Eglwys hardd-ddwys hon,
Dyst oerion heb ystyried;
Na chael erioed iach oleu-ryw,
Gwirionedd Duw i'r ened,
A chym'ryd ffalster yn lle ffydd,
Bydd prudd y dydd diweddied."

Ffarwel yn awr, yr wy'n mynd ymeth,
Gweddied pawb am wir wybodeth,
Dallineb ysbryd enbyd wawr,
Sy heddyw'n fawr ysyweth. [Diflanna.

[Ymddengys Ustus.

Ustus. Mi ddes o'ch blaene,'r cwmni gweddus,
Yn awr ar osteg dan enw'r Ustus;
Gen i mae'r pen awdurdod ffraeth,
I wneyd llywodraeth fedrus.

Mae'r byd mor llawned o elynion,
Sef dynion gwresog o natur groesion,
Yn fawr eu brys mewn tref a bro,
Am yrngyfreithio yn frithion.

Yn ol eu holl gynddaredd erchyll,
A'u naws wenwynig, ni sy n ennill;
Oherwydd hynny mi alla' yn hy,
Hap hynod, ganu pennill, -

(Alaw--"GONSET GRUFFYDD AP CYNAN.")

"Chwychwi gyfreithwyr, barnwyr byd,
Dewch ynghyd, braf yw'n bryd,
Yma ar hyd, mewn mawr anrhydedd.
I ni mae'r mawredd ymhob man,
I ni yma'n awr mae'n fawr y fael,
Gwych a gwael a raid ein cael,
O, mor ddiffael yw mawrdra ffylied!
I ni mewn rhediad yn ein rhan,
Er bod y gyfraith rwyddfaith rad
Yn dda'n ei lle trwy ddawn wellhad;
Nyni'n mhob gwlad sy'n chwanog ledio,
Ffordd bo ni'n leicio, am eiddo a mael,
Wrth fedru chwareu mewn awch hy',
Y gath ddwy gynffon yma'n gu,
'Ry'm ni ymhob llu yn medru moedro
Dan gyfryw gwafro i gogio'r gwael.

"Tan rith cyfiawnder llawnder llwydd,
Yr y'm ni'n rhwydd yn trin ein swydd,
Rhaid in' o'n g[w^]ydd trwy guddio'n dyfes,
Os mynwn fantes yma i fyw,
Wrth ddweyd yn deg a thido'n dost,
O ddelio'n rhydost mae'r mawrhydi,
I gadarn godi, a llonni ein lliw.
Er teced cyfraith ffraethwaith ffri,
Ag arian hardd ni a'i gwyrwn hi,
I brynnu bri neu dorri'r dyrus,
Y wobr drefnus a wna'r tro,
I ni mae'r braint, i ni mae'r bryd,
I ni mae'r parch, i ni mae'r byd,
I ni o hyd mae hyder cywaeth,
Tra dalio cyfraith yn ein co'."

[Ymddengys Arthur.
Arthur. A glywch, onid ydych chwi yn llafan lysti,
Ac yn gene pur lodog, i ganu baledi?
Bydde cwilydd gan lawer ddangos ei lun,
Y ffasiwn ddyn ddi-dd'ioni.

Ust. Ond y fi yw'r pen cyfreithiwr eglur,
'Nol rhwym a rheol presennol synwyr,
Sydd yn trefnu i fynnu'n faith
Hynotaf gyfraith natur.

Arth. Os chwi yw'r cyfreithiwr, 'delw'i byth Lanfrothen,
Oni row'n i chwi agos dair a chweigen,
Pe dysgech chwi fine'n dwrne tost,
I ymgred a rhoi cost yn gywren.

'Rwy'n ame pe bawn yn wr o gyfreth,
Y mynnwn diroedd beth didoreth;
Siawns am fod yn gnafus mewn dyrus daith,
Ac ystwrdio, na chawn waith stiwardieth.

Ust. Digon i bawb un busnes parod,
Nid iawn i neb ymgyrredd gormod.

Arth. Wel, dyma'r diawl ei hunan, hai, hwi, hai,
Yn bwrw'r bai ar bechod.

'Does neb fwy'u rhaib a'u barieth,
Na phersonied a gw[y^]r y gyfreth,
Mi wn y cym'rech pe cae'ch chwi'ch bryd
I'ch rhan yr holl fyd ar unweth.

Dyma chwi a'ch cyfreithie a'ch papure parod,
Wedi dwyn yma'n erwin feddianne man aerod,
Ac yspeilio llawer g[w^]r bonheddig da,
Drwy'ch dewrder a'ch awdurdod.

A pheth yw'r ymrysone sy rhwng personied,
Am y degwm a'r eglwysi, nid oes neb mor glosied,
Tri lle neu bedwar gan ambell un sydd,
Fel y mae'n gywilydd gweled.

Ust. Wel, beth am danoch chwithe'r hwsmyn,
Onid y'ch dueddol i fwy nag un tyddyn;
Mae trachwant Adda, trecha' tro,
Ym mhawb, 'rwy'n coelio,'n canlyn.

Arth. Wel, dyma ni heb fedru,
Ond hau, a chau, a phlannu,
A chwi a'ch bath yn hel tir pob man,
I ddwyn ein rhan er hynny.

Y cyfreithwyr a'r personied,
A r siopwyr a'r apothecaried,


 


Back to Full Books